Oes gennych chi rywbeth i’w rannu gyda mudiadau gwirfoddol yng Nghymru? Rydyn ni’n derbyn ceisiadau nawr am ofod arddangos a chynnal digwyddiadau yn gofod3.
Rydyn ni’n dod â gofod3 yn ôl fel digwyddiad wyneb yn wyneb eleni am y tro cyntaf ers cyn y pandemig. Gobeithio y gwnewch chi ymuno â ni am amserlen gyffrous a phrysur o siaradwyr, dosbarthiadau meistr, trafodaethau panel a gweithdai ar 5 Mehefin 2024 yn Stadiwm Dinas Caerdydd, Caerdydd. Gallwn ni eich sicrhau chi y bydd rhywbeth i bawb.
Ac wrth gwrs, bydd dychwelyd i ddigwyddiad wyneb yn wyneb yn rhoi cyfleoedd di-ri i chi rwydweithio â’ch cymheiriaid o bob rhan o’r sector gwirfoddol, yn ogystal â sgwrsio â chydweithwyr o’r sectorau cyhoeddus a phreifat yn ein marchnad brysur.
OES GENNYCH CHI RYWBETH I’W RANNU GYDA’R SECTOR GWIRFODDOL?
Bwcio digwyddiad
Waeth a ydych chi eisiau trefnu trafodaeth banel, gweithdy, grŵp ffocws, prif anerchiad neu lansio ymgyrch, dyma’r lle i chi.
Rydyn ni’n chwilio am ddigwyddiadau a fydd yn annog ffyrdd gwahanol o weithio, yn ennyn trafodaeth ac yn ysgogi newid, felly yn lle dyrannu lleoedd ar sail y gyntaf i’r felin, rydyn ni’n chwilio am ddigwyddiadau a fydd yn cyfrannu at wneud gofod3 mor dda â phosibl i ymwelwyr.
Rhagor o wybodaeth a gwneud cais.
Bwcio arddangoswyr
Calon gofod3 fydd y farchnad ryngweithiol, y bydd cannoedd o weithwyr proffesiynol o’r sector gwirfoddol yn ymweld â hi.
Rydyn ni’n chwilio am ystod o arddangoswyr o’r sectorau gwirfoddol, cyhoeddus a phreifat a fydd yn ysbrydoli’r mynychwyr ac yn annog dysgu a chydweithio. Yn yr un modd â’n system bwcio digwyddiad, ni fyddwn yn dyrannu’r gofod arddangos ar sail y cyntaf i’r felin. Yn hytrach, rydyn ni’n chwilio am ymgeiswyr a fydd yn rhoi cymaint ag y maen nhw’n ei gael o gofod3.
Rhagor o wybodaeth a gwneud cais.
DYDDIAD CAU
Os hoffech wneud cais am le ar gyfer digwyddiad neu arddangosfa yn gofod3, cwblhewch gais ar-lein erbyn 22 Mawrth 2024.
Byddwn yn gadael i chi wybod canlyniad eich cais erbyn 8 Ebrill 2024.
I weld y costau a’r wybodaeth ar gyfer bwcio, ewch i gofod3.cymru.
NODDI
Mae gofod3 yn ddigwyddiad unigryw a fydd yn gweld ymwelwyr o’r sector gwirfoddol yn dod ynghyd i siarad am y materion sydd o bennaf bwys iddynt.
Mae hwn yn gyfle prin i chi gael eich brand wedi’i weld gan arweinwyr yn y sector gwirfoddol.
Am bob cyfle noddi a hysbysebu, cysylltwch â Wendy ar helo@gofod3.cymru neu 0300 111 0124.