Mae gofod digwyddiad ac arddangos yn gofod3 yn gyfle gwych i gysylltu â’r sector gwirfoddol yng Nghymru, archebwch eich gofod chi heddiw.
gofod3 yw’r digwyddiad mwyaf o’i fath yng Nghymru ar gyfer y sector gwirfoddol. Ar ôl llwyddiant ysgubol y llynedd, mae gofod3 yn ôl yn 2026, ac yn cael ei gynnal ar 17 Mehefin yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Os oes gennych chi rywbeth i’w rannu â’r sector gwirfoddol yng Nghymru, beth am wneud cais i gynnal digwyddiad neu gael stondin arddangos yn gofod3.
RHANNWCH Y DYSGU DRWY GYNNAL DIGWYDDIAD
Mae cynnal digwyddiad yn gofod3 yn ffordd gost-effeithiol o gyrraedd cynulleidfa amrywiol. Waeth a ydych chi’n gobeithio trefnu trafodaeth banel, gweithdy, sgwrs neu gymhorthfa, dyma’r gofod i chi.
Y llynedd, gwnaeth mwy nag 1,000 o bobl gofrestru i ddod; cymerodd 782 ohonynt ran mewn 54 o sesiynau ar y diwrnod, gyda’r pynciau yn amrywio o Senedd 2026 i harneisio AI a llawer mwy.
Mae 2026 yn mynd i fod yn flwyddyn dyngedfennol i Gymru, felly d’oes dim amser gwell i rannu dysgu, dathlu llwyddiannau neu wynebu heriau gyda chydweithwyr o’r sector gwirfoddol a thu hwnt.
Rhagor o wybodaeth am archebu gofod digwyddiad yma.
CYSYLLTWCH Â PHOBL DRWY YMUNO Â’N MARCHNADLE
Nid cyfleoedd dysgu yn unig a geir yn gofod3, mae hefyd yn gyfle i chi rwydweithio a chyflwyno eich hun i sector gwirfoddol ehangach Cymru.
Curiad calon gofod3 fydd y marchnadle rhyngweithiol, gofod y bydd cannoedd o bobl broffesiynol o’r sector gwirfoddol yn ymweld ag ef. Bydd ein holl ymwelwyr yn awyddus i ddysgu mwy am eich gwasanaethau, cynhyrchion neu ymgyrch.
Waeth a ydych chi’n gobeithio cwrdd â phobl o’r un anian neu m’ond eisiau gwneud mwy o bobl yn ymwybodol o’ch mudiad a’ch gwasanaethau, marchnadle gofod3 yw’r lle i fod.
Rhagor o wybodaeth am archebu gofod arddangos yma.
RHAGOR O WYBODAETH
Am ragor o wybodaeth am ofod digwyddiad ac arddangos yn gofod3, gan gynnwys prisiau ac opsiynau, ewch i gofod.cymru.
Gofod digwyddiad – dyddiad cau 12 Chwefror 2026
Gofod arddangos – dyddiad cau 20 Mawrth 2026
YNGLŶN Â GOFOD3
gofod3 yw’r digwyddiad mwyaf o’i fath i’r sector gwirfoddol yng Nghymru. Mae gofod yn golygu ‘lle’ yn y Gymraeg a gofod3 yw ein gofod ni ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru.
Ymunwch â ni am amserlen gyffrous a phrysur o siaradwyr, dosbarthiadau meistr, trafodaethau panel a gweithdai. Byddwn hefyd yn rhoi digon o gyfleoedd i chi rwydweithio â’ch cyfoedion o bob cwr o’r sector gwirfoddol yn ogystal â chwrdd â sgwrsio â chydweithwyr o’r sector cyhoeddus a’r sector preifat yn ein marchnadle prysur.
Ymunwch â ni, 17 Mehefin yn Stadiwm Dinas Caerdydd.