Oes gennych chi rywbeth i’w rannu gyda sefydliadau gwirfoddol yng Nghymru? Rydyn ni nawr yn derbyn ceisiadau i gynnal digwyddiadau yn gofod3
Rydyn ni wrth ein bodd yn cyhoeddi y bydd gofod3 yn ôl eto eleni o 20-24 Mehefin 2022 ac yn digwydd ar-lein. Gobeithiwn y byddwch yn nodi yr wythnos hon yn eich dyddiadur ac yn ymuno â chydweithwyr o bob rhan o’r sectorau gwirfoddol, preifat a chyhoeddus yn ein digwyddiad blaenllaw rhad ac am ddim.
gofod3 yw’r digwyddiad sector gwirfoddol mwyaf o’i fath yng Nghymru. P’un a ydych chi’n ymddiriedolwr, yn aelod o staff, yn wirfoddolwr neu’r tri, gofod3 yw eich man unigryw i fyfyrio, dysgu a chynllunio ar gyfer y dyfodol.
Gydag wythnos gyfan o ddigwyddiadau ar gael, gan gynnwys amserlen gyffrous a phrysur o siaradwyr, dosbarthiadau meistr, dadleuon panel a gweithdai, rydym yn sicr y bydd rhywbeth at ddant pawb.
A OES RHYWBETH GYDA CHI I RANNU GYDA’R SECTOR GWIRFODDOL?
Mae cynnal digwyddiad ar-lein yn gofod3 yn ffordd gost-effeithiol o gyrraedd cynulleidfa amrywiol.
P’un a ydych am drefnu sesiwn banel, gweithdy, grŵp ffocws, prif anerchiad neu lansiad ymgyrch, dyma’r man i chi. Bydd ymwelwyr o bob rhan o’r sectorau gwirfoddol, cyhoeddus a phreifat yn cael y cyfle i gymryd rhan yn eich digwyddiad, a chroesawyd bron i 2000 o fynychwyr ar-lein yn gofod3 yn 2021.
Rydyn ni nawr yn derbyn ceisiadau ar gyfer cynnal digwyddiadau yn gofod3. I ofyn am y ffurflen gais cysylltwch â helo@gofod3.cymru
AM GOFOD3
Sefydlwyd gofod3 am y tro cyntaf yng ngwanwyn 2017 fel digwyddiad undydd blynyddol yng Nghaerdydd. Wedi’n gorfodi i ganslo’r digwyddiad yn 2020 oherwydd y pandemig, roedden ni wrth ein bodd yn gallu dod â gofod3 yn ôl y llynedd.
Newidiodd y fformat i gydymffurfio â chyfyngiadau COVID, ac am yr ail flwyddyn yn olynol bydd gofod3 yn digwydd ar-lein a thros bum niwrnod.
Trefnir gofod3 gan CGGC, mewn cydweithrediad â’r sector gwirfoddol yng Nghymru.