Torf o bobl yn gofod3 2019

gofod3 2020 wedi gohirio oherwydd coronafeirws

Cyhoeddwyd : 13/03/20 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau |

Bydd gofod3 yn cael ei ohirio am gyfnod amhenodol o ganlyniad i’r datblygiadau a’r pryderon sydd ar gynnydd o amgylch digwyddiadau mawr.

Oherwydd bod datblygiadau a phryderon ar gynnydd ynglŷn â’r Coronafeirws (Covid-19) mae’n ddrwg gennym ni roi gwybod i chi y bydd gofod3 2020, a oedd i fod i gael ei gynnal ar 19 Mawrth 2020, yn cael ei ohirio am gyfnod amhenodol.

Mae hwn yn ddigwyddiad o bwys yn y sector gwirfoddol yng Nghymru ac roedden ni’n disgwyl i dros 600 o bobl ddod i’r digwyddiad, felly nid ar chwarae bach wnaed y penderfyniad hwn.

Rydyn ni wedi bod yn dilyn cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth y DU, ac oherwydd ein bod wedi symud ymlaen i’r ‘Cam Oedi’ yng nghynllun y Llywodraeth a bod cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer yr achosion sydd wedi’u cadarnhau, doedden ni ddim eisiau peri risg o ledaenu’r feirws ymhellach yn gofod3.

Byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa ac asesu’r posibilrwydd o gynnal y digwyddiad yn nes ymlaen yn 2020 ond, am y tro, rydyn ni’n gohirio’r digwyddiad am gyfnod amhenodol oherwydd yr ansicrwydd. Byddwn yn anfon rhagor o ohebiaeth atoch chi ynglŷn â hyn cyn gynted â phosib.

Yn ystod y cyfnod anodd hwn, byddwn yn parhau i gefnogi’r sector gwirfoddol ac yn rhoi arweiniad perthnasol i chi yn ystod yr wythnosau nesaf.

Hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch i chi am gefnogi gofod3 ac rydyn ni’n gobeithio cynnal digwyddiad bywiog a llwyddiannus yn fuan.

Benthyciadau carlam mewn argyfwng

Wrth i rannau o Gymru ddod i delerau ag effeithiau’r llifogydd diweddar, cawn ein hwynebu gan yr her nesaf, y Coronafeirws.

Nid yw effaith ymarferol wirioneddol yr un olaf yn eglur eto, ond mae canslo digwyddiadau, llai o ymwelwyr neu lai o werthiannau’n bosibiliadau realistig iawn, a fydd yn cael effaith uniongyrchol ar lif arian mudiadau’r sector gwirfoddol ar hyd a lled y wlad.

Mewn ymateb i hyn, mae Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru CGGC yn cynnig benthyciadau carlam mewn argyfwng i fudiadau’r sector gwirfoddol yng Nghymru i’w helpu drwy’r effeithiau gwaethaf.

Ar yr un pryd, mae’r rheini â benthyciad eisoes yn cael cynnig yr opsiwn o ohirio taliadau am gyfnod.

Plis cysylltwch a Fuddsoddiad Cymdeithasol Cymru am fwy o wybodaeth.

Adnoddau ar Coronafeirws

Llywodraeth y DU – am yr wybodaeth a’r cyngor diweddaraf

Iechyd Cyhoeddus Cymru – eu datganiad diweddaraf, a gaiff ei ddiweddaru bob dydd am 11am

Cyngor hylendid y GIG

Canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru i deithwyr – Os ydych wedi dychwelyd o’r ardaloedd canlynol ers 19 Chwefror:

  • Iran
  • Ardaloedd penodol yng Ngogledd yr Eidal lle mae symudiadau wedi’u cyfyngu, fel y’u dynodir gan Lywodraeth yr Eidal
  • Parthau gofal arbennig yn Ne Korea, fel y’u dynodir gan Lywodraeth Gweriniaeth De Korea

Llywodraeth Cymru: canllawiau i wasanaethau gofal cymdeithasol neu gymunedol a lleoliadau preswyl – ar gyfer gweithwyr gofal a allai orfod gweithio gyda phobl a allai fod yn agored i niwed

Datganiad y Comisiwn Elusennau yn atgoffa elusennau y gallai coronafirws achosi digwyddiadau difrifol y mae angen rhoi gwybod i’r Comisiwn amdanynt

Canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer ysgolion 

Mae nhw hefyd wedi cynhyrchu cyfres o ffeithluniau i fudiadau sy’n chwilio am ffyrdd cyfeillgar i gyfryngau cymdeithasol o rannu cyngor, a gellir lawrlwytho’r rhain yma.

Mae ein partneriaid yn Lloegr, NCVO, wedi paratoi eu set eu hunain o ganllawiau sy’n ddefnyddiol o bob elusen – gallwch weld y rhain yma: https://www.ncvo.org.uk/practical-support/information/coronavirus

Mae gan Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint ganllawiau i bobl â chyflyrau ysgyfaint sy’n bodoli eisoes: https://www.blf.org.uk/your-stories/coronavirus-what-to-do-if-you-live-with-a-lung-condition

Mae Mind wedi darparu canllawiau ar iechyd meddwl a llesiant wrth ymdrin â’r coronafeirws: https://www.mind.org.uk/information-support/coronavirus-and-your-wellbeing/

Beth ddylai cyflogeion ei wneud os byddant yn dechrau teimlo’n anhwylus yn y gwaith?

  • Aros dau fetr i ffwrdd o gyflogeion eraill ac osgoi cyffwrdd ag unrhyw beth
  • Defnyddio hances wrth beswch neu disian a chael gwared â hancesi’n ofalus mewn bin.
  • Os nad oes ganddyn nhw hances, peswch neu disian i mewn i blyg eu penelin.
  • Ffonio cyngor y GIG ar 111
    • Bod yn barod i ddisgrifio’u symptomau ac unrhyw deithiau diweddar
  • Dylai cyflogeion sy’n ddifrifol wael neu os yw eu bywyd mewn perygl ffonio 999

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 02/12/24
Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau, Newyddion

Cadwch y dyddiad – gofod3 2025

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/12/24
Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau, Newyddion

Integreiddio cynaliadwyedd yn eich cynllun busnes chi!

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 01/11/24
Categorïau: Cyllid, Hyfforddiant a digwyddiadau

Ble i ganolbwyntio eich egni codi arian

Darllen mwy