Mae dyn ar stondin arddangos yn gofod3 2025 yn rhannu gwybodaeth bwysig gyda mynychwr o’r sector gwirfoddol

Gofod digwyddiadau ac arddangos gofod3 nawr ar agor

Cyhoeddwyd : 27/01/25 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Oes gennych chi rywbeth i’w rannu gyda mudiadau gwirfoddol yng Nghymru? Rydym nawr yn derbyn ceisiadau ar gyfer cynnal digwyddiadau a gofod arddangos yn gofod3 2025.

Ar ôl dychwelyd yn llwyddiannus i’n fformat wyneb yn wyneb gwreiddiol, rydym yn falch o gyhoeddi y bydd gofod3, gofod Cymru ar gyfer y sector gwirfoddol, yn ôl yn 2025. Gobeithio y gwnewch chi ymuno â ni am amserlen gyffrous a phrysur o siaradwyr, dosbarthiadau meistr, trafodaethau panel a gweithdai ar 2 Gorffennaf 2025 yn Stadiwm Dinas Caerdydd, Caerdydd. Gallwn ni eich sicrhau chi y bydd rhywbeth i bawb.

Ac wrth gwrs, bydd yn rhoi cyfleoedd di-ri i chi rwydweithio â’ch cymheiriaid o bob rhan o’r sector gwirfoddol, yn ogystal â sgwrsio â chydweithwyr o’r sectorau cyhoeddus a phreifat yn ein marchnad brysur.

OES GENNYCH CHI RYWBETH I’W RANNU GYDA’R SECTOR GWIRFODDOL?

Bwcio digwyddiad

Waeth a ydych chi eisiau trefnu trafodaeth banel, gweithdy, grŵp ffocws, prif anerchiad neu lansio ymgyrch, dyma’r lle i chi.

Rydyn ni’n chwilio am ddigwyddiadau a fydd yn annog ffyrdd gwahanol o weithio, yn ennyn trafodaeth ac yn ysgogi newid. Felly yn lle dyrannu lleoedd ar sail y gyntaf i’r felin, rydym yn chwilio am geisiadau ar gyferddigwyddiadau a fydd yn cyfrannu at wneud gofod3 mor dda â phosibl i ymwelwyr.

Rhagor o wybodaeth a gwneud cais.

Bwcio arddangoswyr

Calon gofod3 fydd y farchnad ryngweithiol, y bydd cannoedd o weithwyr proffesiynol o’r sector gwirfoddol yn ymweld â hi.

Rydyn ni’n chwilio am ystod o arddangoswyr o’r sectorau gwirfoddol, cyhoeddus a phreifat a fydd yn ysbrydoli’r mynychwyr ac yn annog dysgu a chydweithio. Yn yr un modd â’n system bwcio digwyddiad, ni fyddwn yn dyrannu’r gofod arddangos ar sail y cyntaf i’r felin. Yn hytrach, rydyn ni’n chwilio am ymgeiswyr a fydd yn rhoi cymaint ag y maen nhw’n ei gael o gofod3.

Rhagor o wybodaeth a gwneud cais.

DYDDIAD CAU

Os hoffech wneud cais am le ar gyfer digwyddiad neu arddangosfa yn gofod3cwblhewch gais ar-lein erbyn 3 Mawrth 2025.

Byddwn yn gadael i chi wybod canlyniad eich cais ar yr wythnos yn dechrau 17 Mawrth 2025.

I weld y costau a’r wybodaeth ar gyfer bwcio, ewch i gofod3.cymru.

NODDI

Mae gofod3 yn ddigwyddiad unigryw a fydd yn gweld ymwelwyr o’r sector gwirfoddol yn dod ynghyd i siarad am y materion sydd o bennaf bwys iddynt.

Mae hwn yn gyfle prin i chi gael eich brand wedi’i weld gan arweinwyr yn y sector gwirfoddol.

Dysgwch fwy am gyfleoedd noddi yn gofod3 2025.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 17/02/25
Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau, Newyddion

Peidiwch â cholli hyfforddiant digidol am ddim wedi’i gyflwyno yn Gymraeg

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/12/24
Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau, Newyddion

Cadwch y dyddiad – gofod3 2025

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/12/24
Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau, Newyddion

Integreiddio cynaliadwyedd yn eich cynllun busnes chi!

Darllen mwy