Ymgasglodd grŵp o bobl sy'n gwenu o amgylch desg yn gwylio gliniadur

Gobaith yng nghanol cyfnod o ansicrwydd i elusennau Cymru yn 2020

Cyhoeddwyd : 04/12/19 | Categorïau: Newyddion |

Fel rhan o agoriad y Gwobrau Elusennol Weston i elusennau bach yng Nghymru, bydd Sefydliad Garfield Weston yn cyhoeddi ei drydydd Adroddiad Cipolwg ar Arweinwyr Elusennau Bach

Mae’r adroddiad yn esbonio agweddau a phryderon y bobl uchelgeisiol ac wedi’u hymestyn sydd wrth wraidd gwasanaethau cymunedol hanfodol ledled y DU.

Mae ymateb arweinwyr elusennau Cymru i’r arolwg ledled y DU yn esbonio rhai o’r heriau penodol rydym yn eu hwynebu yma yng Nghymru. Yn syfrdanol, dywedodd y rhan fwyaf o elusennau yng Nghymru (87%) eu bod erbyn hyn yn wynebu mwy o ansicrwydd nag o’r blaen. Maent yn teimlo’r newid hwn yn waeth nag elusennau Lloegr a’r Alban ble y nododd 2 o bob 3 (65%) amodau gweithredu ansefydlog. Gan ddangos cadernid, mae dwy ran o dair (67%) o arweinwyr elusennau bach yng Nghymru yn gobeithio helpu mwy o bobl yn 2020. Mae’r mwyafrif (4 o bob 5) hefyd yn hyderus na fydd gostyngiad sylweddol mewn incwm y flwyddyn nesaf er bod gostyngiad parhaus mewn newid ac ansicrwydd.

Ymestynnodd Sefydliad Garfield Weston y Gwobrau Elusennol Weston i Gymru yn 2017 mewn cydweithrediad â Pilotlight. Maent am geisio dewis ugain o elusennau o Gymru, Gogledd Lloegr a Chanolbarth Lloegr i elwa ar flwyddyn o hyfforddiant mewn arweinyddiaeth gan dîm o arweinwyr busnes sydd wedi’u paru’n ofalus drwy Raglen Pilotlight yn ogystal â £6,500 o arian anghyfyngedig.

Er bod heriau er mwyn gallu bodloni’r galw cynyddol, dim ond un rhan o bump o elusennau Cymru a gwblhaodd yr arolwg (20%) a fuddsoddodd mewn hyfforddiant mewn arweinyddiaeth eleni – maent yn llai tebygol o wneud hynny o gymharu â’u cymheiriaid yn Lloegr a’r Alban. Fodd bynnag, mae arweinwyr elusennau Cymru yn cymryd camau pendant i geisio dod o hyd i lwybrau eraill o gael cymorth allanol. Ceir tystiolaeth i ddangos fod elusennau Cymru yn llai tebygol nag eraill o wneud cais am gyllid gan gyrff y DU ac mae Sefydliad Garfield Weston yn awyddus i newid y tueddiad hwnnw.

Meddai Philippa Charles, Cyfarwyddwr Sefydliad Garfield Weston:

‘Mae cadernid arweinwyr elusennau bach yng Nghymru yn rhyfeddol a dylid dathlu hynny. Yn ôl elusennau bach maent yn ei chael yn anodd dod o hyd i’r amser a’r arian i fuddsoddi mewn strategaeth hirdymor ond mae ganddynt ofn hefyd peidio â gallu gwneud hynny. Os ydych yn gyfrifol am elusen fach yng Nghymru dylech ystyried gwneud cais am becyn cymorth mewn arweinyddiaeth a chyllid drwy Wobrau Elusennol Weston er mwyn eich helpu chi i helpu mwy o bobl ymhell i’r dyfodol.’

Mae pecyn cymorth ar gael i hyd yn oed y sefydliadau cymunedol lleiaf un a’i nod a’i ymrwymiad yw cynllunio ar gyfer dyfodol cynaliadwy. Ymysg y rhai a fu’n fuddugol o Gymru yng Ngwobrau Elusennol Weston o’r blaen ceir Hosbis yn y Cartref Paul Sartori a Sefydliad Cymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd.

Gavin Hawkey yw Cyfarwyddwr Sefydliad Cymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd ac mae’n cynnig gwasanaethau iechyd, addysg a chyflogaeth i 17,000 o bobl yn Ne Cymru. Roedd ei gais am Wobr Elusennol Weston yn llwyddiannus yn 2017. Meddai:

‘Fel elusen cymharol fach ond uchelgeisiol yng Nghymru gwelsom ein bod angen cymorth allanol i’n cynorthwyo i fesur ein heffaith, datblygu partneriaethau cadarn a chreu model ariannol sy’n fwy cynaliadwy. Ar ôl ennill y wobr cefais gymysgedd gwych o her a chymorth. Cefais gymorth gan fentoriaid busnes i wneud gwelliannau gweithredu allweddol megis lleihau nifer y rhaglenni craidd a rhoi sylw i ddiffyg sgiliau. Mae’r newidiadau hyn eisoes yn gwneud gwahaniaeth mawr i’n perfformiad ac yn gwella’r canlyniadau i’n buddiolwyr.’

Meddai Ruth Marks, Prif Weithredwr CGGC: ‘Mae’r Adroddiad Cipolwg ar Arweinwyr Elusennau Bach newydd yn cefnogi ein canfyddiadau personol ac yn amlygu pwysigrwydd datblygu cysylltiadau da rhwng Elusennau Cymru ac ymddiriedolaethau a sefydliadau megis Sefydliad Garfield Weston. Gwyddom mai un o’r prif rwystrau sy’n ein hatal rhag datblygu cyllid cynaliadwy yma yng Nghymru yw rhoi digon o “amser i feddwl” i arweinwyr. Mae’n hanfodol dod o hyd i le ac amser i arweinwyr allu archwilio atebion ac felly mae’n ffantastig bod y cymorth hwn ar gael drwy Wobrau Elusennol Weston. Rwy’n argymell yn gryf i elusennau Cymru wneud cais am y cymorth hwn – mae’n amhrisiadwy.’

Ceisiadau ar agor heddiw (2 Rhagfyr 2019) ac yn cau 10 Ionawr 2020. I wneud cais ewch i www.westoncharityawards.org

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Sut i gymryd rhan yn Wythnos Elusennau Cymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Dylanwadu | Newyddion |

Llythyr agored i’r cabinet newydd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 03/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Swyddi Wag – Ymunwch â thîm cyllid CGGC

Darllen mwy