Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn gythryblus i bawb, gan gynnwys y sector gwirfoddol, ac mae llawer wedi gorfod wynebu nifer o rwystrau, ond gyda help Cronfa gwydnwch trydydd sector Cymru, mae Hope Rescue wedi llwyddo i ddod drwy’r stormydd, yn llythrennol ac fel arall.
Ar ei bengliniau ond nid wedi’i lorio

Hyd yn oed cyn i Covid-19 ddod â’r byd i stop, cafodd Cymru ei difrodi gan Storm Dennis. Achosodd y llifogydd ddifrod ofnadwy, yn enwedig ar draws rhannau o Dde Cymru, ac i’r elusen achub cŵn, bu’n fwy costus fyth pan fu’n rhaid i’w siop elusen ym Mhontypridd gau.
Gall yr incwm sy’n cael ei greu gan siopau elusen fod yn hanfodol i’w bodolaeth, ond nid oeddent yn gallu diogelu dyfodol eu mudiad am y tro.
Prin y cawsant gyfle i ddal eu gwynt, fodd bynnag, cyn y cawsant eu taro gan COVID-19, gan beri iddynt orfod cau eu gwasanaeth llety cŵn oherwydd y cyfyngiadau symud. Tynnodd hyn ffrwd incwm arall oddi arnynt, hyd yn oed pan oedd y galw am eu gwasanaethau’n parhau i fod mor uchel ag erioed.
Ffrind gorau dyn mewn angen
‘Nid oedd cau ein drysau yn opsiwn pan ddaeth y cyfyngiadau symud i rym’ meddai’r Rheolwr Trawsnewid, Vanessa Wadden.
‘Roedden ni’n gwybod y byddai’r cŵn mwyaf agored i niwed yn ein cymuned leol yn parhau i fod angen ein help, ynghyd â pherchnogion anifeiliaid anwes agored i niwed a’u teuluoedd. Byddai angen ein gwasanaethau yn fwy nag erioed.’
‘Dim ond digon o arian i ddal ati am gwpwl o fisoedd oedd gennym wrth gefn. Gwnaeth y grant nid yn unig ein galluogi i gadw’n drysau ar agor, ond gwnaeth hefyd roi’r tawelwch meddwl oedd ei angen arnom i ganolbwyntio ar addasu ein gweithrediadau a’n strategaeth creu incwm.
‘Y diwrnod y clywsom ein bod wedi cael y grant oedd y noson orau o gwsg roeddwn i wedi’i chael ers i’r cyfyngiadau symud ddechrau!’
Dim llaesu dwylo
Nid ein bod wedi cael llawer o gyfle i orffwyso ers hynny – mae Hope Rescue wedi croesawu 100 o gŵn eraill dros gyfnod y cyfyngiadau symud, a hefyd wedi helpu mewn achosion lle roedd y perchennog wedi marw, naill ai o Covid-19 neu anhwylderau eraill. Gwnaeth cyllid y gronfa gwydnwch trydydd sector Cymru eu galluogi i barhau i dalu staff, ffioedd milfeddyg a gorbenion y ganolfan achub, sydd i gyd yn helpu i gadw cŵn yn ddiogel yn eu cymuned leol.
Am mwy o wybodaeth ar y gronfa gwydnwch trydydd sector Cymru, ymwelwch a’r wefan, ein tudalen newyddion a chyfryngau cymdeithasol, neu cofrestrwch i gael ein cylchlythyr COVID-19.