Mae Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO) yn chwilio am Brif Swyddog Gweithredol i chwarae rhan hanfodol mewn darparu arweinyddiaeth ar draws y mudiad er mwyn cyflawni ei genhadaeth a’i amcanion elusennol.
Wedi’i sefydlu ym 1927, GAVO bellach yw un o’r Cynghorau Gwirfoddol Sirol hynaf a mwyaf ei faint yng Nghymru, ac mae’n ymrwymedig i gryfhau effeithiolrwydd y Sector Gwirfoddol a Chymunedol ledled Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy a Chasnewydd.
Nod GAVO yw gwella bywydau a chyfleoedd cymunedau drwy bartneriaeth a chydweithrediad.
Lleoliad: Casnewydd
Cyflog: Oddeutu £47 mil y flwyddyn.
Hyd: Amser llawn, parhaol
Oriau: 37 awr yr wythnos. Mae cynllun amser hyblyg ar waith a chaniateir amser i ffwrdd yn lle unrhyw waith y mae’n ofynnol ei wneud y tu allan i oriau swyddfa arferol.
Dyddiad Cau: Dydd Llun 2 Mawrth 2020 – 5pm.
Dyddiad y Cyfweliad: Dydd Llun 16 Mawrth 2020
Dychwelwch eich ceisiadau i hr@wcva.cymru – neu am unrhyw gwestiynau eraill cysylltwch â Karen ktimbrell@wcva.cymru neu 02920 431741
Gweithle gwahanol:
Swydd sy’n cynnig cyflogaeth sy’n gwneud gwahaniaeth, yn ogystal â 25 diwrnod o wyliau blynyddol, ynghyd â gwyliau banc a 5 diwrnod ychwanegol o wyliau gan GAVO.
Ynglŷn â’r rôl:
Cenhadaeth GAVO yw cefnogi, hwyluso a brocera newid cadarnhaol yn llesiant pobl a chymunedau trwy ddulliau cydweithredol. Bydd y Prif Swyddog Gweithredol yn allweddol i wneud mwy o gynnydd ar gyflawni’r genhadaeth hon ac amcanion elusennol GAVO.
Bydd yn darparu arweinyddiaeth a chefnogaeth i dimau staff GAVO sy’n cyflawni gwaith yn y meysydd canlynol: Datblygiad Cymunedol, Gwirfoddoli, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Plant a Phobl Ifanc, Cynorthwyo Pobl i mewn i Waith (Cymunedau Dros Waith a Chymunedau Dros Waith a Mwy) a’r Gwasanaethau Corfforaethol.
Amdanoch chi:
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arweinydd a fydd yn gallu dangos y sgiliau a’r profiad canlynol:
- Profiad o’r Trydydd Sector ac o arwain mudiad neu reoli ar lefel uwch
- Profiad o weithio mewn partneriaeth a chydweithredu, yn enwedig o ran cael gafael ar adnoddau i gefnogi parhad busnes a chynaliadwyedd mudiad, er enghraifft, cyllid grant a chontractau
- Profiad o gynllunio strategol a datblygu cynlluniau busnes
- Y gallu i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd ac i gynrychioli GAVO a’r Trydydd Sector ehangach mewn strwythurau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol perthnasol.
- Ymrwymiad i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i gydweithredu, yn unol â chenhadaeth ac amcanion strategol GAVO.
Er nad yw’n hanfodol, byddai gwybodaeth weithiol o’r Gymraeg yn ddymunol iawn.
I drafod y rôl yn anffurfiol gyda’r Prif Swyddog Gweithredol presennol neu’r Cadeirydd (Martin Featherstone neu Edward Watts MBE DL), cysylltwch â Sandra Davies ar 01633 241564 (Mawrth-Gwener).
Dychwelwch eich ceisiadau i hr@wcva.cymru – neu am unrhyw gwestiynau eraill cysylltwch â Karen ktimbrell@wcva.cymru neu 02920 431741