Mae cyllid Comic Relief wedi helpu Bridging the Gap Youth – Merthyr i greu gofod mawr ei angen i bobl ifanc dros 19 oed ag anghenion dysgu ychwanegol.
PONTIO’R BWLCH YM MERTHYR
Ers 2006, Mae Bridging the Gap Youth – Merthyr (BGY) wedi cynnig clybiau ar ôl ysgol a gwyliau i blant a phobl ifanc 3-19 oed ag anghenion ychwanegol a chymhleth. Hwn oedd y gwasanaeth cyntaf o’i fath ym Merthyr, wedi’i adeiladu ar gydberthnasau dibynadwy â theuluoedd a chysylltiadau cryf ag ysgolion, y gwasanaethau cymdeithasol a phartneriaid lleol.
HELPU OEDOLION IFANC I SYMUD YMLAEN
Cyn gwneud cais am gyllid Comic Relief, roedd BGY wedi sylwi bod patrwm yn dechrau ymddangos. Pan fyddai pobl ifanc yn cyrraedd 19 oed, byddai eu hopsiynau’n lleihau’n sydyn. Byddai rhai yn symud ymlaen i goleg neu ganolfannau dydd, ond byddai llawer yn cael eu gadael gartref heb lawer o drefn ddyddiol na chyfleoedd i gymysgu â phobl yr un oed â nhw. Dechreuodd teuluoedd ofyn i BGY barhau i gefnogi’r bobl ifanc hyn pan oeddent yn oedolion, gan roi lle iddynt barhau i fod yn gysylltiedig a theimlo’u bod yn perthyn.
Gyda chymorth Grant Twf Sefydliadol Comic Relief, lansiodd BGY y Moving Forward Over 19s Club (clwb Symud Ymlaen i bobl dros 19 oed), sef gofod croesawgar lle gall oedolion ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol gymdeithasu, magu hyder a datblygu sgiliau bywyd.
Ymhlith y sesiynau mae celf a chrefft, chwaraeon, dawnsio, garddio a choginio, ochr yn ochr â gweithgareddau adeiladu annibyniaeth fel cynllunio a siopa ar gyfer ciniawau syml, iach.
TYFU’R CLWB
Dechreuodd y clwb ym Mehefin 2025 gyda grŵp bychan sy’n parhau i dyfu. Mae’r grant wedi rhoi’r gofod a’r sefydlogrwydd i BGY sefydlu’r gwasanaeth newydd, meithrin cydberthnasau â theuluoedd a chodi ymwybyddiaeth ymhlith pobl leol. Gyda’r cymorth hwn, mae BGY yn hyderus y bydd y clwb yn parhau i dyfu, fel ag y gwnaeth eu darpariaeth ar ôl ysgol yn ei ddyddiau cynnar.
STORI RUBY
Clywodd Ruby, 19 oed, am y clwb Moving Forward drwy dîm llesiant ei choleg, yn fuan ar ôl i BGY ymweld â’r coleg i gyflwyno’r gwasanaeth newydd. Roedd wedi cael diagnosis o awtistiaeth ac ADHD yn ddiweddar ar ôl blynyddoedd o ymgodymu â dosbarthiadau prysur, cael eu llethu’n synhwyrol ac yn aml yn teimlo’n unig.
Pan ymunodd â’r clwb ym mis Mehefin, canfu Ruby weithgareddau roedd hi’n dwli eu gwneud yn fuan iawn, yn enwedig celf a chrefft. Yn bwysicach fyth, fe wnaeth hi ffrindiau. Mae’r clwb, meddai hi, yn rhoi rheswm iddi adael y tŷ ac mae’n ofod lle y gall hi fod yn hi ei hun a theimlo’i bod yn cael ei derbyn heb feirniadaeth.
‘Rydw i wrth fy modd yn mynd i’r clwb Dros 19, galla’ i fod yn fi fy hun, heb gael fy meirniadu. D’oes dim angen i fi fasgio fy awtistiaeth yma. Rwy’n cael fy nerbyn fel ag yr ydw i.’
O WIRFODDOLWR I AELOD GWERTHFAWR O’R TÎM
Ochr yn ochr â mynychu’r clwb, dechreuodd Ruby wirfoddoli yn sesiynau ar ôl ysgol a gwyliau BGY. Gwelodd y staff ei hempathi a’i chysylltiad naturiol â phlant a’i hannog i wneud cais am waith cyflogedig. Gyda help BGY, bu Ruby yn llwyddiannus ac mae bellach yn rhoi cymorth un-i-un i blant ag anghenion ychwanegol ar sail hyblyg, dim oriau sy’n addas i’w hamgylchiadau presennol.
Mae ei phrofiad bywyd yn ei helpu i gysylltu â phobl ifanc ac i eirioli drostynt. Mae Ruby yn dweud ei bod eisiau cynnig y cymorth roedd hi ei angen pan oedd hi’n iau. Mae’n falch o ba mor bell y mae hi wedi dod ac yn teimlo’n rhan o deulu’r BGY.
CYMERWCH RAN Y DIWRNOD TRWYN COCH HWN
Wrth i ni agosáu at Ddiwrnod Trwyn Coch, mae’n ein hatgoffa o ba mor bwysig y gall prosiectau cymunedol fel Bridging the Gap Youth – Merthyr fod i bobl ifanc a’u teuluoedd. Os hoffech chi wybod mwy am sut gallwch chi gefnogi gwaith fel hyn, ewch i wefan Comic Relief (Saesneg yn unig) i weld y lliaws o ffyrdd y gallwch gymryd rhan.