Dyn a menyw yn gwenu a rhoi high five i'w gilydd

Gall yr Hwb Gwybodaeth roi’r adnoddau sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich elusen

Cyhoeddwyd : 20/07/23 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth |

Mae’r Hwb Gwybodaeth, adnodd ar-lein am ddim i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru, wedi’i ddiweddaru gyda mwy fyth o wybodaeth.

Wedi’i reoli gan rwydwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru (TSSW), mae’r Hwb Gwybodaeth yn platfform i phobl sy’n gweithio neu gwirfoddoli yn y sector gwirfoddol yng Nghymru. Yma, gallwch chi gael gwybodaeth ac arweiniad, yn ogystal â chyrsiau dysgu ar-lein ar ystod o bynciau sy’n hanfodol i redeg mudiad llwyddiannus.

HELP MAWR I FUDIADAU BACH

Mae llawer o’r sector gwirfoddol yng Nghymru yn gyfuniad o fudiadau llai, sy’n wynebu eu heriau unigryw eu hunain. Dyna pam mae TSSW wedi lansio arweiniad a gwybodaeth newydd wedi’u hanelu’n benodol at fudiadau bach wedi’u lansio.

O arweiniad ar sefydlu grŵp, ymddiriedolwyr a llywodraethu a diogelu, yn ogystal ag gwybodaeth newydd ar gyllido eich mudiad, mae popeth wedi’i lunio gyda’r nod o’ch helpu chi i redeg eich mudiad.

Ond nid i fudiadau llai yn unig y bydd hwn yn fuddiol. Gall TSSW, fel rhwydwaith o fudiadau cymorth, sy’n cynnwys CGGC a Chynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs), helpu pob math o fudiadau yn sector gwirfoddol Cymru, gyda dysgu a gwybodaeth, ynghyd â help i ddod o hyd i gyllid, cyngor ar ddiogelu a mwy.

ADNODD DYSGU

Yn ogystal â thudalennau cyngor ac arweiniad newydd, mae hefyd cyrsiau ar-lein am ddim ar nifer o bynciau, o ddatblygu strategaeth codi arian i egluro cyfrifoldebau diogelu eich staff – ac mae croeso i chi gwblhau pob un o’r rhain ar eich cyflymder eich hun, yn unrhyw le, ac ar unrhyw adeg.

Mae adran Eich Rhwydweithiau y wefan hefyd yn caniatáu i chi gysylltu â phobl sy’n gweithio ym mhob cwr o’r sector yng Nghymru. Yma, gallwch chi ddechrau sgyrsiau, gofyn cwestiynau a rhannu syniadau er mwyn helpu a dysgu o’ch gilydd.

A daw hyn i gyd law yn llaw â gwelliannau i’r safle a diweddariadau i gynnwys sy’n ei gwneud hi’n haws dod o hyd i’r wybodaeth rydych chi’n chwilio amdani.

Cofrestrwch am ddim heddiw i gael y newyddion diweddaraf, gwella eich gwybodaeth a chysylltu â phobl eraill.

YNGLŶN Â RHWYDWAITH CEFNOGI TRYDYDD SECTOR CYMRU 

Mae Cefnogi Trydydd Sector Cymru (TSSW) yn rhwydwaith o fudiadau cymorth ar gyfer holl drydydd sector Cymru. Mae’r rhwydwaith yn cynnwys y 19 o gyrff cymorth lleol a rhanbarthol ledled Cymru, y Cynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs) a’r corff cymorth cenedlaethol, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC). Mae TSSW yn gwella sut mae’n darparu gwasanaethau’n ddigidol, ac yn ymrwymedig i sicrhau bod ei blatfformau digidol yn gynhwysol ac yn ddwyieithog.

Mae platfformau digidol eraill TSSW yn cynnwys:

Cyllido Cymru

Mae Cyllido Cymru yn adnodd am ddim i helpu mudiadau gwirfoddol i ddod o hyd i gyllid ar gyfer eu hachos. Gallwch chi bori trwy gannoedd o gyfleoedd am grantiau a benthyciadau gan ffynonellau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, o grantiau bach i brosiectau cyfalaf mawr.

infoengine

infoengine yw’r cyfeiriadur o wasanaethau trydydd sector yng Nghymru. Mae infoengine yn rhoi sylw i amrywiaeth eang o wasanaethau gwirfoddol a chymunedol rhagorol sy’n gallu cynnig gwybodaeth a chymorth fel y gallwch chi wneud dewis gwybodus.

Gwirfoddoli Cymru

Platfform gwirfoddoli digidol yw Gwirfoddoli Cymru. Mae’r platfform yn cyflwyno cannoedd o gyfleoedd gwirfoddoli o bob rhan o Gymru mewn un lle, sy’n ei gwneud hi’n hawdd dod o hyd i wirfoddolwyr a’u recriwtio – neu i ddechrau ar eich taith wirfoddoli eich hun.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 03/03/25
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Hyrwyddo cyfiawnder rhywedd a’r hinsawdd yn Uganda

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 21/02/25
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Gwirfoddolwyr: pontio’r bwlch mewn gofal dementia

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 29/01/25
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Buddsoddi mewn atal yn ‘cadw pobl yn iach ac yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau’

Darllen mwy