Wrth i’r Gronfa Cynhwysiant Gweithredol ddod i ddiwedd ei hoes, cyflwyna adroddiad gwerthuso newydd ganfyddiadau ar sut gwnaeth y gronfa gyflawni a beth gafodd ei gyflawni ganddi mewn cymunedau yng Nghymru.
Mae’r Gronfa Cynhwysiant Gweithredol (AIF), ynghyd â rhaglenni eraill yng Nghymru a gyllidwyd gan Ewrop, yn dod i fwcwl. Cyllidwyd yr AIF gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) i fynd i’r afael â’r heriau hirsefydlog wrth geisio helpu pobl ‘anodd eu cyrraedd’ yng Nghymru i gysylltu neu ailgysylltu â’r byd gwaith: pobl a ddisgrifiwyd gan Banel Anweithgarwch Economaidd CGGC fel rhai ‘nas clywir yn aml’.
Darparodd grantiau ar gyfer prosiectau a helpodd pobl dan anfantais i ddychwelyd i gyflogaeth neu ddatblygu’r sgiliau i ddod yn fwy cyflogadwy a gwella’u llesiant. Yn bennaf oll, fe helpodd pobl o gefndiroedd amrywiol ag amrywiaeth eang o anghenion.
CEFNDIR A PHRIF GASGLIADAU
Gwnaeth Adroddiad interim a ryddhawyd y llynedd amlygu pwysigrwydd y sector gwirfoddol mewn cyflwyno rhaglenni cyflogadwyedd, ac mae’r adroddiad terfynol yn dweud rhywbeth tebyg.
Dyma’r prif bwyntiau:
- Mae’r AIF wedi cynorthwyo mwy na 23,000 o unigolion ers 2015, gyda’r rhan helaeth o’r cyfranogwyr yn nodi’n gyson eu bod wedi cael profiadau a buddion positif
- Gweithiodd y rhaglen yn llwyddiannus gyda llawer o bobl mewn amgylchiadau heriol, ac enillodd enw da am ganlyniadau llesiant a chyflogaeth cyfranogwyr
- Cafodd hyblygrwydd CGGC ac AIF ei werthfawrogi’n fawr gan fuddiolwyr o ran eu helpu i fodloni gofynion y cyllid Ewropeaidd a allai fod yn heriol ar adegau
- Synnwyd at hyblygrwydd a gwydnwch yr AIF yng ngŵydd effeithiau pandemig COVID-19, yn enwedig gan ystyried pa mor agored i niwed oedd rhai o’r bobl a gefnogwyd gan y cynllun
- Gwnaeth y gallu hwn i addasu ganiatáu i fuddiolwyr fod yn fwy arloesol, ac nid yn unig i gynorthwyo cyfranogwyr i gael gwaith, ond hefyd i gefnogi busnesau lleol drwy dyfu eu gweithlu
- Yn aml, ni fyddai’r busnesau (a’r cyfranogwyr) hyn yn gallu manteisio ar y cyfleoedd arferol i gael cymorth gan raglenni cyflogadwyedd mwy prif ffrwd
- Sylweddolodd yr AIF fod helpu i wella pethau fel llesiant, hyder a gwydnwch yn hanfodol i symud i mewn i gyflogaeth, yn ogystal ag i mewn i ffyrdd o fyw iachach a oedd yn rhoi mwy o foddhad iddynt
- O ran yr ‘adenillion cymdeithasol o fuddsoddi’, cyfrifodd y gwerthuswyr fod yr AIF yn cynhyrchu oddeutu £3.37 o elw ar bob £1 a wariwyd
- Roedd yr AIF yn bwysig i adeiladu a gwella capasiti ac arbenigedd y sector gwirfoddol i gyflwyno rhaglenni cyflogadwyedd, sydd mewn perygl heb gyllid olynol ar y gorwel
- Gwnaeth yr AIF gyllido cymorth ar gyfer unigolion a grwpiau o fewn neu y tu allan i’r ardaloedd mwyaf difreintiedig. Gwnaeth y ‘cyrhaeddiad’ eang hwn alluogi cymorth i bobl a fyddai fel arall yn syrthio drwy’r rhwyd
GWERSI AR GYFER Y DYFODOL
Mae’n bwysig cydnabod nad yw llwyddiant Cynhwysiant Gweithredol yn ymwneud â’r bobl a gafodd eu helpu’n uniongyrchol. Mae wedi bod yn llwyddiannus hefyd o ran y templed y mae wedi’i darparu ar gyfer rhaglenni cyflogadwyedd yn y dyfodol, pwy bynnag a fydd yn eu rhedeg.
Wrth symud ymlaen, dyma rai pethau i’w cofio:
- Dylid osgoi ymyriadau heb eu cydlynu gan fudiadau lluosog. Fodd bynnag, dylid annog atgyfeiriadau wedi’u cydlynu a rhannu gwybodaeth a data rhwng mudiadau
- Dylai cyfranogwyr dderbyn cymorth parhaus wedi’i deilwra am gyn hired â phosibl. Yn aml, y bobl ‘anodd eu cyrraedd’ yw’r rhai â’r anghenion mwyaf cymhleth, felly i gyflwyno cymorth effeithiol, mae angen ymddiriedaeth a dealltwriaeth, ynghyd â’r gallu i fod yn ymatebol a sensitif, yn enwedig os ydynt yn gyndyn i dderbyn cymorth traddodiadol
- Mae ‘sgiliau meddal’ fel magu hyder a llesiant yr un mor bwysig â’r sgiliau gwaith traddodiadol wrth geisio cyflogaeth
- Os oes angen cyllid cyfatebol, dylai fod yn gyson ledled y wlad
- Dylai’r gwaith gweinyddol ganiatáu am atebolrwydd eglur, ond hefyd fod yn gymesur â swm y cyllid a ddyfernir
- Gall gwydnwch yr AIF yng ngŵydd pandemig COVID-19 ddysgu gwersi i ni, nid yn unig o ran ymateb i argyfwng, ond hefyd mewn sefyllfaoedd ‘busnes fel arfer’
DARLLEN YR ADRODDIAD LLAWN
Gallwch chi ddarllen crynodeb gweithredol o’r adroddiad gwerthuso, ac mae’r adroddiad llawn ar gael yn ôl y gofyn gan activeInclusion@wcva.cymru.
Gallwch hefyd ddarllen rhywfaint o wybodaeth atodol:
Meithrin y Defnydd o’r Gymraeg Gwersi a ddysgwyd gan Gronfa Cynhwysiant Gweithredol
Cronfa Cynhwysiant Gweithredol: Beth sy’n gweithio – Astudiaethau achos
Gwerthusiad Cronfa Cynhwysiant Gweithredol – Astudiaethau achos o’r Economi Sylfaenol