Yn dod yn fuan, adnodd rhyngweithiol i helpu â datblygiad gwirfoddoli o fewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Rydyn ni weld gweld datblygiadau gwych mewn gwirfoddoli mewn cyd-destun iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod COVID-19. Gwahanol fudiadau yn gweithio gyda’i gilydd yn greadigol ac yn gydweithredol, prosesau recriwtio a chynefino symlach ar gyfer gwirfoddolwyr ac uwchlaw popeth, mwy o gydnabyddiaeth (gan benderfynwyr a chan y cyhoedd) o’r cyfraniadau pwysig y gall gwirfoddolwyr eu gwneud yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Er mwyn helpu i gadw a datblygu ‘enillion’ o’r fath ymhellach, mae Helplu Cymru wedi bod yn gweithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, Comisiwn Bevan a Richard Newton Consulting, i lunio Fframwaith ar gyfer gwirfoddoli yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol.
ADNODD DIGIDOL
Mae’r adnodd digidol rhyngweithiol hwn yn edrych ar chwe chwestiwn allweddol ar wirfoddoli, o safbwynt pedair ‘cynulleidfa’ wahanol:
- comisiynwyr/cynllunwyr
- mudiadau cyflenwi
- cyrff seilwaith, a
- grwpiau cymunedol.
Yn hytrach na chynnig atebion, mae’n awgrymu meysydd i’w hystyried wrth feddwl am ddechrau gwasanaethau gwirfoddoli neu eu datblygu – boed hynny yng nghyd-destun gwasanaethau’r sector cyhoeddus neu gymunedau lleol.
Mae fideos byr wedi’u cynnwys yn y fframwaith, sy’n rhoi enghreifftiau cyfoes o ble a sut mae gwirfoddoli’n cymryd rhan yn y gwaith o ddarparu neu wella darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol. Mae dolenni hefyd i amrywiaeth o adnoddau ymarferol ac adroddiadau tystiolaeth.
Y CWESTIYNAU YR EDRYCHIR ARNYNT
Dyma’r chwe chwestiwn yr edrychir arnynt yn y Fframwaith:
- Sut ydym yn cynnwys gwirfoddoli wrth gyflenwi ein gwasanaethau?
- Sut ydym yn cynllunio ar gyfer gwirfoddoli?
- Gyda phwy ddylem weithio i gyflenwi gwirfoddoli wrth gyflenwi gwasanaethau?
- Sut ydym yn rheoli a datblygu gwirfoddoli?
- Sut ydym yn mesur yr effaith y mae gwirfoddoli’n ei chael?
- Sut ydym yn siarad am wirfoddoli?
Nodwyd y rhain fel cwestiynau cyffredin sy’n berthnasol ar draws amrediad o safbwyntiau, o gynllunio gwasanaethau i’w cyflenwi. Ond mae’r materion a’r ystyriaethau perthnasol mewn ymateb i bob cwestiwn wedi’u teilwra i ‘gynulleidfaoedd’ gwahanol.
YR YMCHWIL Y TU ÔL I HYN
Mae’r fframwaith yn disgrifio’n gryno’r broses gydgynhyrchiol a ddilynwyd wrth ei ddatblygu, a oedd yn cynnwys arolwg ar-lein a nifer fawr o grwpiau ffocws a chyfweliadau. Mae themâu a ddaeth i’r golwg fel blaenoriaethau yn y sgyrsiau hyn i’w gweld yn amlwg yn naratif y fframwaith.
Cyflwynir trosolwg o’r arferion cyfredol wrth wirfoddoli yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol, ynghyd ag asesiad o ‘ble’r ydyn ni’ ar daith i gynyddu aeddfedrwydd.
Mae’r prosiect wedi’i gyllido gan Grant Adfer Gwirfoddoli yn sgil y Coronafeirws Llywodraeth Cymru. Bydd adroddiad mwy manwl o’r prosiect a’i argymhellion ar gael yn fuan ar dudalen we Helplu Cymru, ynghyd â’r adnodd fframwaith ei hun.