Mae Rhoi trwy’r Gyflogres yn ffordd hawdd i gyflogwyr o bob math yng Nghymru gefnogi achosion da drwy ganiatáu i’w staff wneud rhoddion cyn treth.
Oes gan eich mudiad chi Gynllun Rhoi trwy’r Gyflogres?
Mae Chwefror yn Fis Rhoi trwy’r Gyflogres*, cyfle go iawn i gyflogwyr yng Nghymru hybu eu heffaith gymdeithasol wrth helpu cyflogeion i sicrhau bod eu rhoddion elusennol yn mynd yn bellach.
Mae Rhoi trwy’r Gyflogres yn hawdd i’w ddechrau, yn hawdd ei gynnal a, gyda chostau nesaf at ddim, os o gwbl, yn ffordd fforddiadwy o wneud gwahaniaeth fel cyflogwr. Mae mudiadau gwirfoddol eisoes yn gwneud effaith gymdeithasol enfawr ledled Cymru. Os oes gennych chi staff sy’n cael eu talu, mae cynlluniau fel Rhoi trwy’r Gyflogres yn caniatáu i chi wneud rhywbeth da fel cyflogwr hefyd.
‘Fel cwmni ag ethos cryf o roi’n ôl, roedd cyflwyno Rhoi trwy’r Gyflogres yn benderfyniad hawdd i ganiatáu i’n cyflogeion yn ein siopau yng Nghaerdydd, Casnewydd a Chwmbrân i gefnogi eu hoff achosion.
Rydyn ni hefyd wedi elwa fel cyflogwr oherwydd rydyn ni wedi ennill gwobrau amrywiol am ein cynllun, gan gynnwys y Marc Ansawdd Diemwnt.’
The Entertainer, Manwerthwr tegannau cenedlaethol
DIM I FUSNESAU MAWR NEU ELUSENNAU MAWR YN UNIG
A oeddech chi’n gwybod nad i fusnesau mawr yn unig yw ef? Ac nid i gefnogi’r elusennau mawr adnabyddus yn unig? Gall unrhyw gyflogwr o unrhyw faint ddechrau cynllun, a gall cyflogeion benderfynu’n unigol pwy fyddan nhw’n rhoi iddo o’r miloedd o achosion lleol a chenedlaethol ledled Cymru (a thu hwnt).
Darllenwch y canllaw i ganfod mwy: Harneisio effaith gymdeithasol Rhoi trwy’r Gyflogres.*
OND BETH YN UNION YW RHOI TRWY’R GYFLOGRES?
Cynllun a gefnogir gan y llywodraeth yw Rhoi trwy’r Gyflogres sy’n caniatáu i gyflogeion gefnogi eu hoff elusennau yn gyfnewid am ryddhad treth.
Yr hyn sy’n gwneud y cynllun mor arbennig yw ei fod yn fuddiol i bawb dan sylw. Mae’n gwneud rhoi yn rhatach i drethdalwyr, gall busnesau ei ddefnyddio i wella eu heffaith gymdeithasol a gall elusennau gael incwm cynaliadwy i gyllido’r gwasanaethau hanfodol y mae cymunedau yn dibynnu arnynt.
GWELLWCH EICH EFFAITH GYMDEITHASOL
Mae Rhoi trwy’r Gyflogres yn cynorthwyo eich cyflogeion i roi i’r achosion sy’n agos at eu calonnau. Dyma beth ddywedodd un cyflogwr:
‘Yn Dŵr Cymru Welsh Water, rydyn ni’n falch o fod yn gwneud rhoi’n ôl yn syml ac yn ystyrlon drwy ein cynllun Rhoi trwy’r Gyflogres. Mae’r fenter hon yn grymuso cydweithwyr i gefnogi achosion sydd o bwys iddyn nhw mewn ffordd gyfleus, dreth-effeithlon. Mae’n fwy na rhaglen – mae’n adlewyrchu ein gwerthoedd cyffredin a’n hymrwymiad parhaus i’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.’
Dŵr Cymru Welsh Water
Nid yw’n ymwneud â dim ond rhoi unigol chwaith, darllenwch y canllaw i ganfod sut gall eich busnes gynyddu ei effaith gymdeithasol drwy Roi trwy’r Gyflogres a hybu diwylliant cwmni positif.
MIS RHOI TRWY’R GYFLOGRES
Chwefror yw Mis Rhoi trwy’r Gyflogres, cymerwch ran drwy:
- Ddechrau Cynllun Rhoi trwy’r Gyflogres
- Cynnal ymgyrch Rhoi trwy’r Gyflogres gyda’ch cyflogeion
- Dangos eich effaith gymdeithasol drwy ennill marc ansawdd Rhoi trwy’r Gyflogres
Canfyddwch fwy am sut gall eich busnes ddechrau ar ei daith Rhoi trwy’r Gyflogres.*
DERBYN RHODDION GAN GYNLLUN RHOI TRWY’R GYFLOGRES
Gall mudiadau gwirfoddol ledled Cymru elwa ar roddion a wneir drwy’r Cynllun Rhoi trwy’r Gyflogres. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn canfod sut gallwch chi fanteisio i’r eithaf ar hyn yn ystod Mis Rhoi trwy’r Gyflogres, ewch i: www.payrollgivingmonth.com/charities.*
*Saesneg yn unig