Gwirfoddolwraig benywaidd yn helpu mewn canolfan gyfrannu yn helpu i bacio cyflenwadau i mewn i bocs

‘Fe es i o fod yr un mwyaf swil i fod yn geffyl blaen’

Cyhoeddwyd : 06/06/24 | Categorïau: Gwirfoddoli |

Yr Wythnos Gwirfoddolwyr hon, rydym yn cyflwyno’r stori o sut mae Prif Grant Gwirfoddoli Cymru wedi helpu i drawsnewid taith wirfoddoli Mike a Victoria.

Ymddiriedolaeth ddatblygu annibynnol yng Nglynrhedynog yw’r Arts Factory. Eu cenhadaeth yw creu cyfleoedd i bobl nad ydynt yn teimlo eu bod ‘yn ffitio’ nac yn cael ‘ei derbyn’ mewn cymdeithas a fydd yn newid eu bywydau. Mewn rhan o Gymru lle mae amddifadedd sylweddol ac ychydig iawn o gyfleoedd, mae gan yr Arts Factory gynnig unigryw, ac yn darparu opsiynau gwirfoddoli hygyrch ac wedi’u teilwra sy’n diwallu anghenion pawb sydd eisiau cymryd rhan.

Gyda chymorth gan gynllun Prif Grantiau Gwirfoddoli Cymru a gyllidir gan Lywodraeth Cymru, cyflogodd y mudiad Gydlynydd Gwirfoddolwyr sydd wedi helpu i ehangu’r rhaglen wirfoddoli a rhoi cymorth a hyfforddiant wedi’u strwythuro i’r gwirfoddolwyr. Mae’r grant wedi caniatáu i’r Arts Factory gynnig mwy o brofiadau a chyfleoedd i bobl wella eu bywydau yn ogystal â gwneud gwahaniaeth yn y gymuned leol.

TAITH MIKE

Mae Mike yn Ofalwr Gwirfoddol yn yr Arts Factory. Dechreuodd wirfoddoli yng Ngardd Gymunedol Rhondda Fach pan wnaeth y siop elusen yr oedd yn gwirfoddoli ynddi gau. Pan oedd ei ferch yn yr ysgol, canfu nad oedd ganddo unrhyw beth i’w wneud.

Mae Mike yn egluro: ‘pan ddechreuais i, roeddwn i’n dawel. Doeddwn i ddim yn adnabod unrhyw un ond roeddwn i eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i’m cymuned. Rwyf wedi byw yn y Rhondda drwy gydol fy oes, ac mae’r un peth yn wir am fy merch. Yn fuan iawn, magais hyder drwy’r hyfforddiant, y cymorth a’r cyfeillgarwch wrth wirfoddoli. Rwy’n mwynhau bod yn rhan o dîm yn fawr iawn, ynghyd â helpu’r rheini rwyf yn gwirfoddoli gyda nhw.’

Pan ddaeth yr Arts Factory yn gyfrifol am ganolfan gymunedol y Maerdy, gofynnwyd i Mike a fyddai ganddo ddiddordeb mewn cael mwy o gyfrifoldebau drwy ymgymryd â rôl Gofalwr Gwirfoddol. ‘Roedd yn anrhydedd cael y cyfle ac roeddwn i’n teimlo mod i’n cael fy ngwerthfawrogi. Fe es i o fod yr un mwyaf swil i fod yn geffyl blaen.

Rwyf wedi mynd o deimlo wedi syrffedu heb unrhyw beth i’m tynnu o’r tŷ, i gael grŵp cymdeithasol a chyfle i roi yn ôl i’m cymuned. Rwyf hyd yn oed wedi bod yn gweithio gyda’r grŵp ieuenctid yn yr Arts Factory; mae hyn wedi fy ngwneud i’n fwy hyderus heb os ac rwy’n teimlo mod i’n cael effaith dda ar fy nghymuned leol a ‘mod i’n perthyn.’

STORI VICTORIA

Mae Victoria yn byw gyda’i mam a’i brawd iau yn y Maerdy. Ar ôl diwedd yn y coleg, nid oedd yn gwybod beth i’w wneud. Roedd hi gartref drwy’r dydd a oedd yn gwneud iddi deimlo’n rhwystredig. Roedd hi hefyd yn treulio llawer o amser ar ei ffôn ac yn cael ei hun mewn sefyllfaoedd nad oedd hi’n credu oedd yn iach iddi.

Cafodd ei chyflwyno i’r Arts Factory gan wirfoddolwr arall yn y Maerdy, a holodd Victoria a allai hi hefyd ymuno.

Mae Victoria yn dweud: ‘roedd e’n swnio’n dda a dechreuais wirfoddoli yn y grŵp iechyd a lles ddwywaith yr wythnos. Rwy’n helpu i baratoi’r ystafelloedd yn barod ar gyfer y grŵp, rwy’n gwneud diodydd i’r rheini sy’n dod i’r grŵp ac yn helpu i lanhau ar y diwedd, golchi llestri ac rwy’n sgwrsio â phobl sy’n dod i mewn ac yn eu helpu i fwynhau’r grŵp. Rwyf wrth fy modd. Mae’n gymaint o hwyl, rwyf wedi gwneud ffrindiau ac mae wedi helpu fy hyder. Rwyf hefyd yn helpu mewn digwyddiadau fel ein digwyddiad cymunedol dros y Nadolig ac yn nawns amser te’r Pasg.’

Teimla Victoria fod y cymorth a gafodd fel gwirfoddolwr wedi bod yn ddefnyddiol iawn. ‘Rwyf wedi gwneud llwyth o hyfforddiant i’m helpu i gyflawni fy rôl, fel cyrsiau hylendid bwyd a chymorth cyntaf a hyfforddiant sgiliau hanfodol. Rwyf hefyd wedi rhedeg y grŵp fy hun, rhywbeth na fyddwn erioed wedi meddwl y byddwn yn ei wneud, ac rwyf wedi hyfforddi dau wirfoddolwr newydd i helpu yn y grŵp.

Fyddwn i erioed wedi meddwl y gallwn wneud hynny, ond mae’r Arts Factory yn credu ynof a hebddyn nhw fyddwn i’n gaeth i’m hystafell neu’n achosi drama. Ond nawr mae gennyf gymorth i’m helpu i gadw’n brysur, helpu eraill a ‘bron’ cadw allan o drwbl! Mae fel teulu ac er ei fod yn waith caled, rwy’n ei fwynhau.’

CYRRAEDD GWIRFODDOLWYR NEWYDD

Os ydych chi’n fudiad sy’n gweithio gyda gwirfoddolwyr, ffordd hawdd o gyrraedd cynulleidfa newydd yw drwy wefan Gwirfoddoli Cymru. Ein nod yw gwneud gwirfoddoli’n hawdd i wirfoddolwyr a mudiadau sy’n gweithio yn y sector gwirfoddol. Gallwch hysbysebu eich rolau gwirfoddoli am ddim, felly cofrestrwch heddiw i helpu rhywun i ddechrau ar ei daith wirfoddoli.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 04/10/24
Categorïau: Gwirfoddoli, Hyfforddiant a digwyddiadau

Wythnos yr Ymddiriedolwyr 2024

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/09/24
Categorïau: Gwirfoddoli, Gwybodaeth a chymorth

Adroddiad newydd yn canfod bod gwirfoddolwyr yn lleihau’r pwysau ar staff rheng flaen y GIG

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/08/24
Categorïau: Gwirfoddoli, Gwybodaeth a chymorth

Adroddiad yn dangos bod gwirfoddoli yn cynyddu sgiliau a hyder

Darllen mwy