Wrth i’r amser i wneud cais i’r Gronfa brinhau, cwmni The White Hart Community Inn Ltd sy’n dangos sut y gwnaeth y gronfa helpu i achub tafarn gymunedol boblogaidd rhag cau.
CROESO CYNNES YN YR HART INN
Caeodd tafarn y White Hart Inn yn Llandudoch yn 2019 ar ôl 250 o flynyddoedd, a hon oedd y dafarn draddodiadol olaf yn yr ardal. Gyda diffyg gofodau cymunedol, daeth trigolion yr ardal ynghyd i ffurfio ymgyrch Achub yr Hart mewn ymdrech i achub y dafarn ac i’w hailagor ar gyfer y gymuned.
O dan arweiniad Canolfan Cydweithredol Cymru, fe ffurfion nhw Gymdeithas Budd Cymunedol a oedd yn caniatáu iddyn nhw godi arian drwy gynnig cyfranddaliadau cymunedol a gadael i bobl brynu cyfranddaliadau yn y fenter.
BUDDSODDI MEWN CYMUNED
Daeth hyn ochr yn ochr â chyllid o Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol yn ogystal â grant gan Gyngor Sir Benfro, gan arwain at brosiect oedd yn ymgorffori ysbryd cymunedol yn llawn, a honno’n gymuned a ehangodd i bob rhan o’r byd wrth i’r newyddion ddod yn hysbys.
Daeth y gymuned ynghyd yn gyflym ac yn bendant am ddyfodol y dafarn, fel yr esbonia’r Cadeirydd gofal, Julie Owen.
‘Fe gawson ni sioc pan wnaeth y perchnogion gyhoeddi bod y dafarn yn mynd i gau, felly galwodd rhywun gyfarfod cyhoeddus a daeth 200 o bobl iddo! Yn dilyn hynny, cafwyd ail gyfarfod cyhoeddus a daeth mwy fyth o bobl – erbyn diwedd y cyfarfod roedd pwyllgor wedi’i ffurfio ac roedden ni wedi cychwyn y daith.’
‘Erbyn hyn rydyn ni’n gwneud gwaith adnewyddu mawr ac rydyn ni newydd hysbysebu am reolwr. Rydyn ni’n gobeithio agor y drysau ddechrau’r hydref ac yn gobeithio y bydd yn dafarn ac yn ganolfan gymunedol i’r pentref cyfan.’
DOD AT EIN GILYDD
Wrth i ni ddechrau dod allan o’r pandemig, mae gwerth hybiau fel tafarn y White Hart Inn yn glir – mae’r cyfnod clo wedi dangos yn glir pa mor bwysig yw ein cymunedau a’r cysylltiadau maen nhw’n eu meithrin. Dros gyfnod y pandemig, mae Cymru wedi gweld grwpiau o bobl yn dod at ei gilydd, gan amlaf o amgylch llefydd penodol fel tafarndai, clybiau chwaraeon a chanolfannau cymunedol wrth i bawb geisio bod yna i’n gilydd.
Meddai Julie: ‘Mae’r ymgyrch ddwy flynedd wedi bod yn galondid ac yn flinedig ar yr un pryd, ond mae’r cymorth gan y pentref, y gymuned ehangach, CGGC, Cyngor Sir Benfro, Plunkett, Canolfan Cydweithredol Cymru a busnesau lleol wedi bod yn ysbrydoledig.’
‘Rydyn ni wedi cynnal llawer o ddigwyddiadau ac mae gennym lu o wirfoddolwyr sy’n fwy na pharod i helpu, drwy ddosbarthu cylchlythyron, stiwardio mewn digwyddiadau lleol, trefnu cwisiau neu staffio’r stondin yn y farchnad leol. Mae’r dyfodol yn gyffrous!’
Gan ein bod ni bellach yn cael ymgynnull mewn mwy o griwiau eto, mae pobl yn cael cyfle, o’r diwedd, i weld beth mae ymdeimlad o berthyn a gwerthoedd cyffredin yn ei olygu i’w bywydau bob dydd – ac ar gyfer trigolion Llandudoch, mae ganddyn nhw’r lle perffaith ar gyfer hynny.’
AMSER O HYD I WNEUD CAIS AM ARIAN
Mae cyllid yr UE ar gael o hyd er mwyn cefnogi twf a chynhyrchu incwm ar gyfer mudiadau gwirfoddol mewn sawl rhan o Gymru, ond mae amser yn brin i wneud cais.
Wrth i’r diwedd agosáu i Gyllid Ewropeaidd yng Nghymru, mae tîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru yn annog mudiadau gwirfoddol i gysylltu â nhw i drafod syniadau cyn gwneud cais.
Os oes gennych chi syniad i ehangu ar eich gwaith a fydd yn creu swyddi ac yn helpu i gynyddu eich effaith gymdeithasol, gallai’r Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol fod o gymorth mawr i chi ddechrau arni.
Cymysgedd o grantiau a chymorth ad-daladwy yw’r Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol sydd wedi’i chynllunio i alluogi busnesau cymdeithasol yng Nghymru i dyfu a chreu cyfleoedd gwaith. Caiff y Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru.
Er mwyn dysgu rhagor ac i drafod eich syniadau, cysylltwch â thîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru drwy ffonio 0300 111 0124 neu e-bostio sic@wcva.cymru. Os hoffech drefnu galwad ar amser penodol, gallwch drefnu galwad un i un yma. Mae gwybodaeth ar gael ar ein tudalen Cronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol hefyd.