Yma fe welwch gymorth, arweiniad a gwybodaeth am weithgareddau ymgysylltu i helpu eich mudiad i baratoi ar gyfer yr etholiadau.
Eisiau trafod yr etholiad? Cysylltwch â ni: policy@wcva.cymru
Yma fe welwch gymorth, arweiniad a gwybodaeth am weithgareddau ymgysylltu i helpu eich mudiad i baratoi ar gyfer yr etholiadau.
Eisiau trafod yr etholiad? Cysylltwch â ni: policy@wcva.cymru
Rydym yn annog Llywodraeth nesaf Cymru i gyflwyno Deddf Partneriaeth y Sector Gwirfoddol (Cymru) — gan adeiladu ar ymrwymiadau presennol a’u cyflymu i ddatgloi cyllid tecach, ymgorffori cydweithredu a grymuso’r sector i ffynnu.
Bwriad yr adran hon yw gweithredu fel canllaw cyflym yn unig. Dylech bob amser ddarllen y canllawiau llawn a ddarperir gan y Comisiwn Elusennau. Mae’r holl wybodaeth isod wedi’i dynnu o ganllawiau’r Comisiwn Elusennau.
Mae elusennau yn rhydd i ymgyrchu ar unrhyw fater sy’n cefnogi eu dibenion elusennol. Fodd bynnag, mae’r Comisiwn Elusennau yn pwysleisio bod angen cymryd gofal ychwanegol er mwyn aros yn annibynnol a pheidio â chreu argraff fod yr elusen yn wleidyddol ragfarnllyd, yn enwedig yn y cyfnod cyn etholiad. Yn ystod y cyfnod hwn, mae elusennau yn fwy tebygol o wynebu craffu a chwestiynau am ragfarn bosibl.
Mae’n iawn i elusennau ymgyrchu dros ymrwymiad polisi neu faniffesto penodol yn unol â’r nodau elusennol. Gall pleidiau gwleidyddol gymeradwyo polisi tebyg neu hyd yn oed gymeradwyo eich gofynion yn uniongyrchol. Efallai y byddwch yn parhau i eirioli dros y polisi hwn ond mae’n rhaid i chi gadw eich annibyniaeth a pheidio â chefnogi plaid yn uniongyrchol, hyd yn oed os ydych chi’n cefnogi’r un nodau polisi.
Rhaid i chi beidio ag ymddangos yn rhagfarnllyd wrth ymgysylltu â phleidiau gwleidyddol neu ymgeiswyr. Mae hyn yn golygu na ddylech wneud unrhyw beth a fyddai’n ymddangos fel pe baech yn ffafrio unrhyw ymgeisydd. Mae hyn yn cynnwys dylanwadu ar bleidleiswyr i gefnogi unrhyw blaid neu ymgeisydd, hyd yn oed os yw eu hymrwymiadau polisi yn cyd-fynd â’ch nodau elusennol.
Peidiwch byth â rhoi arian i blaid wleidyddol neu ymgeisydd. Mae’n arfer da i geisio gwneud eich gorau i ymgysylltu’n gyfartal â’r holl brif bleidiau, yn enwedig yn y cyfnod cyn etholiad. Nid yw hyn yn golygu na allwch gwrdd ag ymgeiswyr neu aelodau etholedig o blaid wleidyddol. Caniateir gwneud hynny i gefnogi eich nodau elusennol, ond ni ddylech ymddangos fel pe baech yn dangos rhagfarn.
Yn ystod y cyfnod a reoleiddir, sy’n rhedeg o 7 Ionawr tan y diwrnod pleidleisio, rhaid i chi gymryd gofal arbennig o ran eich ymgyrchu. Efallai y byddwch yn wynebu mwy o graffu yn ystod y cyfnod hwn. Hefyd, efallai y bydd rhai gweithgareddau y gallech ymgymryd â nhw wrth ymgyrchu yn gofyn i chi gofrestru gydag ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.
Bydd hyn yn digwydd os bydd eich gweithgaredd yn pasio’r ‘prawf diben’ ac yn cael ei ystyried yn weithgaredd sy’n fwriadol yn ceisio dylanwadu ar bleidleiswyr i gefnogi un blaid neu ymgeisydd neu un arall. Os ydych chi’n cadw at ganllawiau’r Comisiwn Etholiadol ar ymgyrchu, mae’n annhebygol y bydd angen i chi gofrestru. Fodd bynnag, os oes angen i chi gofrestru, bydd gennych derfyn o £10,000 ar eich gwariant.
Y Comisiwn Elusennau
Y Comisiwn Etholiadol
Bydd y digwyddiad hwn yn dod â chynrychiolwyr ynghyd o bleidiau gwleidyddol gwahanol ac yn rhoi cyfle i chi ofyn cwestiynau am bolisïau eu plaid o ran y sector gwirfoddol.
I aelodau CGGC, dyma ein Rheolwr Polisi a Mewnwelediadau, Natalie Zhivkova, yn crynhoi themâu a nodau ein gwaith dylanwadu cyn etholiadau’r Senedd.
Mae ein Pennaeth Ymgysylltu, Elen Notley yn crynhoi’r prif fewnwelediadau o’r pôl piniwn diweddaraf sy’n awgrymu tirwedd wleidyddol gyfnewidiol cyn Etholiad 2026 y Senedd.
Baromedr Cymru yw’r ‘baromedr’ newydd i sector gwirfoddol Cymru a drefnwyd gan CGGC a Phrifysgol Nottingham Trent. Bydd y ffynhonnell ddata dreigl yn cyflwyno darlun cyfredol o’r hyn sy’n digwydd ar draws y sector gwirfoddol yng Nghymru.
Os caiff ei ddefnyddio yn y ffordd gywir, a chyda chefnogaeth eang y sector yn ein hachos ni, gall y Baromedr fod yn gam enfawr ymlaen i’n gweithgareddau dylanwadu.