Ydych chi eisiau helpu i wneud mwy o wahaniaeth yng Nghymru? Waeth beth yw eich cefndir neu brofiad, datblygwch eich sgiliau ac ehangwch eich rhwydwaith trwy ymuno â’n bwrdd ymddiriedolwyr.
Yn CGGC, rydym wedi bod yn gweithio gyda’n haelodau a’n partneriaid i feddwl am beth all pob un ohonom ni ei wneud i lunio dyfodol positif i Gymru. Rydym ni’n credu bod sector gwirfoddol amrywiol yn allweddol i greu dyfodol gwell i Gymru, ac mae arnom angen bwrdd amrywiol i helpu i arwain y newid rydym ni eisiau ei weld.
Mae gennym bedair sedd wag ar ein bwrdd a byddem wrth ein boddau pe baech chi’n ymuno â ni i dyfu ein rhwydwaith, ennill sgiliau newydd a’n helpu ni i alluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i wneud mwy o wahaniaeth gyda’i gilydd.
D’OES DIM ANGEN PROFIAD
Nid oes angen profiad blaenorol o fod yn ymddiriedolwr arnoch i ymuno â’n bwrdd, fe roddwn ni’r holl hyfforddiant a chymorth sydd ei angen arnoch.
Am ragor o wybodaeth am fod yn ymddiriedolwr, ein gwaith a beth mae’r rôl yn ei gynnwys, darllenwch ein pecyn recriwtio ymddiriedolwyr.
EIN FFOCWS AR AMRYWIAETH
Rydym yn canolbwyntio ar alluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i fod yn fwy amrywiol er mwyn adlewyrchu’r cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu.
Rydym hefyd yn ymrwymedig i arwain drwy esiampl a gweithio i sicrhau bod CGGC yn fwy amrywiol. Rydym yn ymrwymedig i fod mor gynhwysol â phosibl ac rydym ni eisiau cymaint â phosibl o leisiau gwahanol ar ein bwrdd.
Rydym ni’n chwilio am ymddiriedolwyr ag amrediad eang o brofiadau. Waeth beth yw eich cefndir, byddem ni’n dwli clywed gennych chi.
I gael rhagor o wybodaeth am pam fod amrywiaeth ar fwrdd mor bwysig i ni, edrychwch ar ein pecyn recriwtio ymddiriedolwyr.
DIDDORDEB MEWN YNNI ADNEWYDDADWY?
Yn etholiadau eleni, mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan bobl â diddordeb mewn ynni adnewyddadwy a materion sy’n ymwneud â’r newid yn yr hinsawdd a hoffai ymuno â’n bwrdd, ond nid yw hyn yn ofyniad ymgeisio o gwbl.
PAM YMUNO Â BWRDD CGGC?
Mae ein bwrdd yn cynnwys unigolion cyfeillgar a brwdfrydig sydd ag amrediad eang o brofiadau, sgiliau a chefndiroedd. Trwy ymuno â’n bwrdd, byddwch yn …
- Gweithio gydag amrywiaeth o bobl frwdfrydig o bob math ac yn gwneud cysylltiadau i wella eich datblygiad personol a phroffesiynol
- Cael y cyfle i ddefnyddio eich sgiliau a rhannu eich profiadau unigryw mewn ffyrdd newydd a gwneud newid positif yng Nghymru
- Gyrru ein nodau elusennol ac yn ein helpu i gefnogi a grymuso’r mudiadau ysbrydoledig sy’n ffurfio sector gwirfoddol Cymru
RÔL AELODAU CGGC
Ein haelodau sy’n llunio gwaith CGGC ac mae ganddynt rôl bwysig i’w chwarae mewn ethol ymddiriedolwyr i’n bwrdd. Dim ond aelodau CGGC sy’n gallu gwneud enwebiadau i’n hetholiadau ymddiriedolwyr (felly bydd angen aelod i’ch enwebu os byddwch eisiau ymgeisio – rhagor ar hyn isod!) a byddant yn bwrw’u pleidleisiau yn ein pleidlais ymddiriedolwyr i bennu pwy fydd yn ymuno â’r bwrdd.
SUT I YMGEISIO
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’n bwrdd eleni, bydd angen i chi wneud ychydig o bethau:
- Bydd angen i chi gael cefnogaeth dau aelod o CGGC – gelwir y rhain yn enwebwr ac eilydd. Peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n adnabod unrhyw aelodau – gallwn ni eich rhoi chi mewn cysylltiad â rhai
- Unwaith y byddwn wedi derbyn eich gan aelod o CGGC, byddwn yn gofyn i chi anfon ychydig o wybodaeth am eich hun atom ni. Rydym eisiau gwybod pa sgiliau a phrofiadau fyddech chi’n eu cyflwyno i’r bwrdd (dwy dudalen ar y mwyaf). Byddai CV yn ddefnyddiol hefyd os oes gennych un – ond nid yw’n hanfodol. Byddwn hefyd yn gofyn am ddau eirda
- Yn olaf, bydd angen datganiad byr arnom (200 gair ar y mwyaf) a llun y gallwn ni ei roi ar ein gwefan. Dylai eich datganiad ateb y cwestiwn: ‘Pam ddylai aelodau CGGC bleidleisio drosof i fod yn ymddiriedolwr?’
Gallwch anfon eich gwybodaeth fel fideo neu recordiad sain os byddai’n well gennych chi.
Byddwn hefyd yn gofyn i chi lenwi holiadur monitro cyfle cyfartal i’n helpu ni i ddeall mwy am bwy rydym ni’n ei gyrraedd.
RHAGOR O WYBODAETH, DOGFENNAU A DYDDIADAU CAU
- Pecyn recriwtio ymddiriedolwyr – popeth sydd angen i chi ei wybod am etholiadau ymddiriedolwyr 2025
- Cymryd rhan yn ein hetholiadau ymddiriedolwyr – gwybodaeth i aelodau CGGC
- Ffurflen enwebu
- Disgrifiad Rôl Ymddiriedolwr
- Hysbysiad preifatrwydd
- Ffurflen monitro cyfle cyfartal
CAMAU NESAF
Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau a datganiadau ymgeiswyr yw 5 Medi 2025.
Byddwn yn postio datganiadau a lluniau’r ymgeiswyr ar ein gwefan yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 15 Medi 2025.
Bydd ein haelodau yn pleidleisio dros eu hoff ymgeiswyr yn ein pleidlais a fydd yn cael ei chynnal rhwng 27 Hydref – 7 Tachwedd 2025.
Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod canlyniadau’r bleidlais yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 10 Tachwedd 2025.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni.
Mae ein Prif Weithredwr, Lindsay Cordery-Bruce, yn fwy na bodlon cael sgwrs ag unrhyw un sy’n meddwl ymgeisio. Cysylltwch â Tracey Lewis ar tlewis@wcva.cymru i drefnu.