Woman speaking into a megaphone and smiling, there are protesters in the background

Etholiad cyffredinol 2019 – arweiniad ar lobïo i elusennau

Cyhoeddwyd : 04/12/19 | Categorïau: Dylanwadu |

Mae etholiad cyffredinol y DU yn agosáu, a ydych chi’n deall y pethau da a drwg i fudiadau gwirfoddol yn ystod cyfnod etholiad?

Disgwylir i etholiad cyffredinol 2019 y Deyrnas Unedig gael ei gynnal ar 12 Rhagfyr 2019. O ystyried y cyd-destun gwleidyddol cyfredol ac ansicrwydd parhaus Brexit, mae Cynghrair Cymdeithas Sifil Brexit a Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Brexit wedi sicrhau rhywfaint o gyngor cyfreithiol ar y cyd gan Blake Morgan LLP. Maent wedi defnyddio hwn i ysgrifennu canllaw byr a rhestr wirio i helpu mudiadau trydydd sector i ddeall eu rhwymedigaethau o dan Ddeddf Lobïo 2014.

Mae’r ddogfen yn rhoi esboniad byr o’r hyn y gall ac na all elusennau ei wneud, yn ogystal â bach a arweiniad ar asesu a ydych chi’n ymgymryd â gweithgaredd rheoledig ac yn debygol o fod angen cofrestru gyda’r comisiwn etholiadol.

Canllaw cryno ar lobïo i elusennau.

Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Brexit

Prosiect ar y cyd yw Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Brexit rhwng Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd a CGGC ac fe’i hariennir gan y Legal Education Foundation. Ei nod yw rhoi’r grym a’r gallu i’r trydydd sector ddeall proses Brexit, a chyfrannu ati, drwy ddarparu gwybodaeth hygyrch a chymorth cydlynydd. Bydd yn:

  • Cysylltu mudiadau cymdeithas sifil ac arbenigwyr blaenllaw i ysgogi dadlau a thrafod gwybodus
  • Galluogi grwpiau ac arbenigwyr i rannu gwybodaeth a manteisio ar arbenigedd sydd eisoes yn bodoli
  • Datblygu safbwyntiau a rennir a chymryd camau ar y cyd.

Bydd y Fforwm yn cyhoeddi papurau briffio rheolaidd, yn darparu adnoddau arlein ac yn trefnu digwyddiadau rheolaidd ynghylch Brexit. Gall hefyd ymateb i geisiadau am wybodaeth benodol am Brexit gan fudiadau. Ymwelwch a www.brexitforumwales.org i ddarganfod mwy.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 13/01/25
Categorïau: Dylanwadu, Gwybodaeth a chymorth

Rheoliadau newydd ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 29/11/24
Categorïau: Dylanwadu, Newyddion

Brwydro yn erbyn effaith cyllideb y DU ar fudiadau gwirfoddol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 08/11/24
Categorïau: Cyllid, Dylanwadu, Newyddion

CGGC yn rhannu pryderon y sector ar gynnydd Yswiriant Gwladol

Darllen mwy