Mae hi bron yn amser i aelodau CGGC bleidleisio dros eu pedwar hoff enwebai i ymuno â bwrdd ymddiriedolwyr CGGC.
Diolch i bawb a enwebodd yn yr etholiad eleni i ymuno â Bwrdd Ymddiriedolwyr CGGC. Mae’n falch iawn gennym gyhoeddi ein bod wedi cael naw enwebiad ar gyfer y pedair sedd wag ar y Bwrdd.
Bydd pleidlais yn cael ei chynnal nawr ymysg ein haelodau a fydd yn agor ar 27 Hydref 2025 ac yn cau ar 7 Tachwedd 2025. Bydd e-bost yn cael ei anfon at aelodau gyda’u dolen unigryw nhw i’n system bleidleisio ar-lein a bydd hefyd yn cynnwys gwahoddiad ffurfiol i ddod i’n Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (AGM).
Bydd canlyniadau’r bleidlais yn cael eu cyflwyno i’n haelodau i’w cymeradwyo yn AGM CGGC a fydd yn cael ei gynnal ar lein ar 20 Tachwedd 2025.
EIN FFOCWS AR AMRYWIAETH
Yn CGGC, rydym wedi bod yn gweithio gyda’n haelodau a’n partneriaid i feddwl am beth all pob un ohonom ni ei wneud i lunio dyfodol positif i Gymru. Rydym ni’n credu bod sector gwirfoddol amrywiol yn allweddol i greu dyfodol gwell i Gymru, ac mae angen bwrdd amrywiol arnom ni i helpu i arwain y newid rydym ni eisiau ei weld.
Rydym yn canolbwyntio ar alluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i fod yn fwy amrywiol er mwyn adlewyrchu’r cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu.
Rydym hefyd yn ymrwymedig i arwain drwy esiampl a gweithio i sicrhau bod CGGC yn fwy amrywiol. Rydym yn ymrwymedig i fod mor gynhwysol â phosibl ac rydym ni eisiau cymaint â phosibl o leisiau gwahanol ar ein bwrdd.
YR ENWEBEION
Gofynnom ni i’r enwebeion ‘Pam ddylai aelodau CGGC bleidleisio drosof i fod yn ymddiriedolwr?’ gallwch weld eu hymatebion isod:
POB LWC
Pob lwc i bawb sydd wedi’u henwebu. Mae CGGC yn awyddus i’n haelodau gymryd rhan yn y bleidlais ac edrychwn ymlaen at dderbyn eich pleidleisiau.
Mae’r bleidlais yn agor ar 27 Hydref 2025 ac yn cau ar 7 Tachwedd 2025.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r bleidlais, cysylltwch â Tracey Lewis tlewis@wcva.cymru neu ffoniwch 02920 431734.