Mae hi bron yn amser i aelodau CGGC bleidleisio dros eu chwe hoff enwebai i ymuno â bwrdd ymddiriedolwyr CGGC.
Diolch i bawb a enwebodd yn yr etholiad eleni i ymuno â Bwrdd Ymddiriedolwyr CGGC. Mae’n falch iawn gennym gyhoeddi ein bod wedi cael 21 enwebiad ar gyfer y chwe sedd wag ar y Bwrdd.
Bydd pleidlais yn cael ei chynnal nawr ymysg ein haelodau a fydd yn agor ar 21 Hydref ac yn cau ar 1 Tachwedd 2024. Bydd aelodau’n derbyn eu dolen unigryw i’n system bleidleisio ar-lein.
Bydd canlyniadau’r bleidlais yn cael eu cyflwyno i’n haelodau eu cymeradwyo yn AGM CGGC a fydd yn cael ei gynnal ar-lein ar 14 Tachwedd 2024.
YR ENWEBEION
Gofynnon ni i’r enwebeion ‘Pam ddylai aelodau CGGC bleidleisio drosof i fod yn Ymddiriedolwr?’ Gallwch weld eu hymatebion isod:
Pob lwc i bawb sydd wedi’u henwebu. Mae CGGC yn awyddus i’n haelodau gymryd rhan yn y bleidlais ac rydyn ni’n edrych ymlaen at derbyn eich pleidleisiau maes o law.
Mae’r bleidlais yn agor ar 21 Hydref ac yn cau ar 1 Tachwedd 2024.
Os oes gennych gwestiwn ynglŷn â’r bleidlais, cysylltwch â Tracey Lewis tlewis@wcva.cymru neu 02920 431734 (llinell uniongyrchol).