Mae hi bron yn amser i aelodau CGGC bleidleisio dros eu pum hoff enwebai i ymuno â bwrdd ymddiriedolwyr CGGC.
Diolch i bawb a enwebodd yn yr etholiad eleni i ymuno â Bwrdd Ymddiriedolwyr CGGC. Mae’n falch iawn gennym gyhoeddi ein bod wedi cael pymtheg enwebiad ar gyfer y pum sedd wag ar y Bwrdd.
Bydd pleidlais yn cael ei chynnal nawr ymysg ein haelodau a fydd yn agor ar 24 Hydref ac yn cau ar 4 Tachwedd 2022. Bydd y papurau pleidleisio yn cael eu cyflwyno’n electronig (ble bynnag y bo modd) i’n haelodau a byddant hefyd yn cynnwys gwahoddiad ffurfiol i ddod i’n Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (AGM).
Bydd canlyniadau’r bleidlais yn cael eu cyflwyno i’n haelodau eu cymeradwyo yn AGM CGGC a fydd yn cael ei gynnal ar 17 Tachwedd 2022.
YR ENWEBEION
Gofynnon ni i’r enwebeion ‘Pam ddylai aelodau CGGC bleidleisio drosof i fod yn Ymddiriedolwr?’ Gallwch weld eu hymatebion isod:
Pob lwc i bawb sydd wedi’u henwebu. Mae CGGC yn awyddus i’n haelodau gymryd rhan yn y bleidlais ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gael y papurau pleidleisio maes o law.
Mae’r bleidlais yn agor ar 24 Hydref ac yn cau ar 4 Tachwedd 2022.
Os oes gennych gwestiwn ynglŷn â’r bleidlais, cysylltwch â Tracey Lewis tlewis@wcva.cymru neu 02920 431734 (llinell uniongyrchol).