Board meeting

Etholiad Bwrdd Ymddiriedolwyr CGGC 2021

Cyhoeddwyd : 27/09/21 | Categorïau: Newyddion |

Mae hi bron yn amser i aelodau CGGC bleidleisio dros eu saith hoff enwebai i ymuno â bwrdd ymddiriedolwyr CGGC.

Diolch i bawb a enwebodd yn yr etholiad eleni i ymuno â Bwrdd Ymddiriedolwyr CGGC.  Mae’n falch iawn gennym gyhoeddi ein bod wedi cael pymtheg enwebiad ar gyfer y saith sedd wag ar y Bwrdd.

Bydd pleidlais yn cael ei chynnal nawr ymysg ein haelodau a fydd yn agor ar 25 Hydref ac yn cau ar 5 Tachwedd 2021.  Bydd y papurau pleidleisio yn cael eu cyflwyno’n electronig (ble bynnag y bo modd) i’n haelodau a byddant hefyd yn cynnwys gwahoddiad ffurfiol i ddod i’n Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (AGM).

Bydd canlyniadau’r bleidlais yn cael eu cyflwyno i’n haelodau eu cymeradwyo yn AGM CGGC a fydd yn cael ei gynnal yn rhithiol ar 18 Tachwedd 2021.

Yr enwebeion

Gofynnon ni i’r enwebeion ‘Pam ddylai aelodau CGGC bleidleisio drosof i fod yn Ymddiriedolwr?’  Gallwch weld eu hymatebion isod:

Rocio Cifuentes

Lindsay Cordery-Bruce

Rhian Davies

Richard Debicki

Liz Girling

Deborah Jones

Diane McCrea

Menai Owen-Jones

Meryl Randell-Jones

Katrin Shaw

Joe Stockley

Sarah Stone

Fran Targett

Eifion Williams

Kate Young

Pob lwc i bawb sydd wedi’u henwebu. Mae CGGC yn awyddus i’n haelodau gymryd rhan yn y bleidlais ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gael eich papur pleidleisio maes o law.

Mae’r bleidlais yn agor ar 25 Hydref ac yn cau ar 5 Tachwedd 2021.

Os oes gennych gwestiwn ynglŷn â’r bleidlais, cysylltwch â Tracey Lewis tlewis@wcva.cymru neu 02920 431734 (llinell uniongyrchol).

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 13/01/25
Categorïau: Newyddion

Datganiad ar yr ymosodiadau diweddar ar Gyngor Ffoaduriaid Cymru dros gyfryngau cymdeithasol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 13/12/24
Categorïau: Newyddion

Swydd Wag – Rheolwr Rhaglen Forol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 13/12/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

CLlLC yn amlygu pwysau ariannu ‘anghynaladwy’

Darllen mwy