Gwobrau Dewi Sant wedi casglu ar fwrdd

Enwebiadau i Wobrau Dewi Sant yn cau’n fuan

Cyhoeddwyd : 25/09/20 | Categorïau: Newyddion |

Gwobrau Dewi Sant yw gwobrau cenedlaethol Cymru ac maent yn cydnabod llwyddiannau eithriadol pobl wahanol o Gymru a thu hwnt.

2020 oedd blwyddyn y coronafeirws, a gafodd gymaint o effaith ar ein bywydau ni i gyd. Wrth ddewis y rhai sydd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Dewi Sant 2021, bydd sylw arbennig yn cael ei roi i unigolion ym mhob categori a wnaeth gyfraniad arbennig yn ystod yr argyfwng. Croesewir hefyd enwebiadau gan unigolion sydd wedi gwneud cyfraniadau at wahanol agweddau o fywyd Cymru yn ystod 2020.

Dyma’ch cyfle chi i annog cydnabyddiaeth ar gyfer eich busnes neu sefydliad drwy enwebu am Wobr Dewi Sant yn un o’r categorïau canlynol:

  • Dewrder
  • Ysbryd y Gymuned
  • Gweithiwr critigol (gweithiwr allweddol)
  • Diwylliant a Chwaraeon
  • Busnes
  • Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
  • Y Wobr Dyngarol
  • Person Ifanc

Mae enwebiadau ar gyfer Gwobrau 2021 yn cau ar 15 Hydref 2020.

Am fwy o wybodaeth, ewch i llyw.cymru/gwobrau-dewi-sant

MWY O FFYRDD I DATHLU ELUSENNAU A GWIRFODDOLWYR

Ni fydd Gwobrau Elusennau Cymru yn cael eu cynnal yn 2020 mwyach o ganlyniad i argyfwng COVID-19, ond yn hytrach bydd mis Hydref i gyd yn cael ei ddynodi i gydnabod gwaith arbennig mudiadau gwirfoddol a gwirfoddolwyr.

Dros y misoedd diwethaf, mae’r sector wedi camu i’r adwy i amddiffyn a chefnogi ein cymunedau tra hefyd yn wynebu rhai o’i heriau mwyaf mewn blynyddoedd maith – os nad erioed. Mae’r ymdrechion hyn yn haeddu cael eu dathlu ac rydym yn ymroddedig i gynnal seremoni wobrwyo fwy, well cyn gynted ag y bydd yn ddiogel i ni wneud hynny.

Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i daflu goleuni ar y gwaith anhygoel sy’n cael ei wneud ledled Cymru yn ogystal â dod â phawb ynghyd trwy ddigwyddiadau ar-lein, podlediadau, gweminarau a mwy.

NAWR YW’R AMSER I GYDNABOD EIN SECTOR

Darganfyddwch fwy am #NidGwobrauElusennauCymru a sut i gymryd rhan, ewch i: wcva.cymu/cy/nidgwobrauelusennaucymru

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 27/08/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Dathlu addysg oedolion yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/08/24 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Yr ymgyrch ‘ewyllysgaredd’ sy’n ennill tir

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 19/08/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector – camau nesaf

Darllen mwy