Award host at Wales Charity Awards

Gwobrau Elusennau Cymru – enwebu’n cau yn fuan!

Cyhoeddwyd : 13/09/22 | Categorïau: Newyddion |

Dyma’ch cyfle olaf i enwebu rhywun ar gyfer Gwobrau Elusennau Cymru ac amlygu gwaith gwych y sector gwirfoddol a gwirfoddolwyr.

Yn sgil ymadawiad trist y Frenhines Elizabeth II, rydyn ni wedi ymestyn y dyddiad cau i’r rheini sy’n dymuno enwebu mudiad gwirfoddol neu wirfoddolwr ar gyfer Gwobrau Elusennau Cymru. Y dyddiad cau newydd yw 5 pm ar 27 Medi 2022.

Mae Gwobrau Elusennau Cymru, a drefnir gan CGGC, yn cydnabod ac yn dathlu’r cyfraniad gwych y mae elusennau, grwpiau cymunedol, mudiadau nid-er-elw a gwirfoddolwyr yn ei wneud i Gymru drwy amlygu a hyrwyddo’r gwahaniaeth positif y gallwn ni ei wneud i fywydau ein gilydd.

Ers y seremoni wobrwyo ddiwethaf yn 2019, mae’r sector gwirfoddol wedi dod yn fwy hanfodol fyth. Yng ngŵydd argyfyngau lluosog sydd wedi effeithio ar ein cymdeithas, mae elusennau a gwirfoddolwyr wedi cyd-dynnu i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ar hyd a lled Cymru.

Dyma’ch cyfle i ddathlu elusennau, grwpiau cymunedol a mudiadau gwirfoddol sydd, yn eich tyb chi, wedi mynd yr ail filltir i gynnig tosturi a chymorth yn ogystal â gwasanaethau hanfodol o fewn ein cymuned.

Dyddiad cau derbyn enwebiadau – 27 Medi 2022

Gellir enwebu pobl ar gyfer pum categori:

Gwirfoddolwr y flwyddyn (gwirfoddolwyr 26 oed neu’n hŷn)

Bydd y wobr hon yn mynd i unigolyn sy’n dod i’r amlwg am wneud cyfraniad arbennig iawn i’w gymuned neu amgylchedd drwy ei wirfoddoli.

Gwirfoddolwr ifanc y flwyddyn (gwirfoddolwyr 25 oed neu’n iau)

Efallai mai hwn yw’r gwirfoddolwr sy’n arwain ac yn ysgogi eraill, neu’r un sy’n mynd yr ail filltir i ‘gyflawni pethau’.

Arloeswyr digidol

Bydd y wobr hon yn mynd i grŵp neu fudiad sydd wedi defnyddio digidol mewn modd arloesol i wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl.

Llesiant yng Nghymru

Bydd y wobr hon yn mynd i grŵp neu fudiad sydd wedi gwneud gwahaniaeth positif i’w cymuned drwy wella llesiant meddyliol a/neu gorfforol.

Mudiad y flwyddyn

Bydd y wobr hon yn mynd i fudiad eithriadol sydd wedi cyflawni pethau mawr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac sy’n cael ei barchu a’i edmygu’n fawr gan bobl eraill yn y sector.

DYDDIADAU ALLWEDDOL AR GYFER 2022

  • Derbyn enwebiadau – 4 Awst 2022
  • Dyddiad cau derbyn enwebiadau – 27 Medi 2022
  • Enillwyr yn cael eu hysbysu – wythnos sy’n dechrau 10 Hydref 2022
  • Croesawu’r enillwyr yn Stiwdios ITV Cymru Wales Caerdydd – 22 Tachwedd 2022
  • Enillwyr yn cael sylw ar newyddion ITV Cymru Wales am 6 pm yn ystod Wythnos Elusennau Cymru – 21-25 Tachwedd 2022

Gallwch chi enwebu pobl drwy fynd i www.gwobrauelusennau.cymru.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Snorcelio dros natur

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Ymgynghoriad ar y Cod Ymarfer Codi Arian

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 27/08/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Dathlu addysg oedolion yng Nghymru

Darllen mwy