Mae’r enillwyr wedi’u cyhoeddi ar gyfer Ymgyrch Genedlaethol y Celfyddydau (NCA), Gwobrau Hearts For The Arts 2020.
Mae’r gwobrau’n dathlu arwyr tawel Awdurdodau Lleol sy’n hyrwyddo’r celfyddydau, yn aml yn wyneb heriau ariannol difrifol.
Rhestr o’r enillwyr:
- Menter Gelfyddydol Orau:Plymouth Music Zone (Cyngor Dinas Plymouth)
- Prosiect Celfyddydol Gorau – Cydlyniant Cymunedol:Windrush Generations Festival (Cyngor Hackney)
- Prosiect Celfyddydol Gorau – Celfyddydau, Iechyd a Lles:Outside Edge (Hammersmith a Fulham / Westminster / Kensington a Chelsea)
- Hyrwyddwr Celfyddydol Gorau – Gweithiwr mewn Awdurdod Lleol neu Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol:Pauline Smeaton (Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Fife)
- Hyrwyddwr Celfyddydol Gorau – Cynghorydd:Luthfur Rahman (Cyngor Dinas Manceinion)
Derbyniwyd enwebiadau o bob cwr o’r DU ar gyfer y Gwobrau eleni, ac ar ôl i gynrychiolwyr o bartneriaid Hearts for the Arts eleni lunio’r rhestr fer, cafodd yr enillwyr eu dewis gan banel o arbenigwyr ac ymarferwyr allweddol ym meysydd y celfyddydau a’r gwyddorau.
Panel Beirniadu:
- Susie Dent: geiriadurwraig, etymolegydd, cyflwynydd ‘Dictionary Corner’ Countdown
- Gary Kemp: actor, cerddor, cyfansoddwr caneuon, aelod gwreiddiol o Spandau Ballet
- Julie Hesmondhalgh: actores, gweithredydd
- Alom Shaha: Athro Ffiseg, tad, awdurMr Shaha’s Recipes for Wonder
- Errollyn Wallen CBE: Cyfansoddwr
- Kirstie Wilson: Cyngor Kirklees, enillydd Hyrwyddwr Celfyddydol Gorau mewn Awdurdod Lleol 2019 Hearts for the Arts – Swyddog
- Samuel West: Actor, cyfarwyddwr, Cadeirydd Ymgyrch Genedlaethol y Celfyddydau
Dywedodd Samuel West, actor a Chadeirydd Ymgyrch Genedlaethol y Celfyddydau:
‘Llongyfarchiadau i enillwyr Hearts for the Arts 2020 NCA. Maen nhw’n dod o bob rhan o’r Deyrnas Unedig, ac maen nhw’n dangos y pethau da y gellir eu gwneud gan gynghorau ac ymddiriedolaethau sy’n benderfynol o osod y celfyddydau a diwylliant wrth wraidd bywydau dinasyddion. Mae’r gwaith y mae’r mudiadau a’r unigolion hyn yn ei wneud yn ein dwyn ynghyd i wella, dathlu a rhoi mwynhad i’n cymunedau.
Roedd dewis enillwyr o blith maes cryf eithriadol yn arbennig o anodd eleni, ond roedd yn dasg bleserus. Dywedodd un o’r beirniaid, Susie Dent o’r ‘Dictionary Corner’, fod beirniadu’r rheini a enwebwyd yn “noddfa ddyddiol a oedd yn fy atgoffa o’r pethau – a’r bobl – dda mewn bywyd.”
Ar adeg lle y mae toriadau llywodraeth ganolog yn rhoi pwysau aruthrol ar gyllidebau Awdurdodau Lleol, rydym yn hapusach nag erioed i ddathlu’r cynghorau hynny sy’n defnyddio’r celfyddydau i ddod â llawenydd, anogaeth ac iechyd meddyliol a chorfforol achubol i’w hetholwyr. Rydyn ni’n dwli arnyn nhw ac am iddyn nhw barhau!’
Ymgyrch Genedlaethol y Celfyddydau sy’n cyflwyno Gwobrau Hearts For The Arts bob blwyddyn. Caiff y gwobrau eu darparu gan UK Theatre, mewn partneriaeth â Culture Counts; y Gymdeithas Llywodraeth Leol; Thrive; Theatre NI, Celfyddydau Gwirfoddol Cymru a Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am y rheini a gyrhaeddodd y rhestr fer, ewch i forthearts.org.uk/campaigns/hearts-for-the-arts/