Volunteers stand socially distanced outside City Hospice Caring for Cardiff charity shop, they are wearing face masks and the shop front has colourful balloons decorating it

Enaid siopau elusennol yw eu gwirfoddolwyr

Cyhoeddwyd : 12/10/20 | Categorïau: Gwirfoddoli |

Yr wythnos yma (o 12 Hydref) bydd CGGC mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Manwerthu Elusennau yn rhannu straeon gan wirfoddolwyr siopau elusennol i ddenu mwy o bobl i gofrestru a helpu eu siopau lleol i wella o’r pandemig.

Mae pawb wrth eu bodd efo siop elusen – beth sydd ’na i’w ddrwghoffi? Maent yn codi arian hollbwysig ar gyfer eu hachosion gwych, yn cyfrannu at blaned iachach trwy achub eitemau o grafangau safleoedd tirlenwi, ac yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli amhrisiadwy i bobl yn y gymuned. I’r cyhoedd, maent yn llawn o drysorau ail-law am bris rhad ac yn ganolfan gymunedol lle ceir gwên gyfeillgar a sgwrs ddiddorol. Pan ddaw hi’n fater o siopau elusen, mae pawb ar eu hennill, mae’r manteision yn ddiddiwedd.

Mae 11,200 o siopau elusen i’w cael yn y DU, gyda 550 o’r rhain yng Nghymru. Mae gan bob siop ei stori unigryw ei hun – codi arian i achub bywydau cŵn crwydr sydd wedi cael eu gadael ac nad oes ar neb eu heisiau efallai, neu ariannu nyrsys sy’n cynorthwyo ac yn gofalu am blant a’u teuluoedd yn ystod yr adegau anoddaf yn eu bywydau. Mae gan bob elusen stori sy’n cyffwrdd â bywydau nifer o bobl, ac mae’r siopau yn ffynhonnell incwm wych i gefnogi eu gweithgareddau.

Y llynedd cyfrannodd siopau elusen £330 miliwn at eu rhiant-elusennau*, ond yn anffodus mae’r pandemig wedi effeithio ar allu’r siopau i godi arian. Erbyn hyn maent yn dechrau codi’n ôl ar eu traed ac yn anelu at fynd o nerth i nerth.

GWIRFODDOLWYR SIOPAU ELUSENNOL YNG NGHYMRU

Enaid siopau elusennol yw eu gwirfoddolwyr; ni fyddai modd i’r siopau weithredu hebddynt. Yng Nghymru, mae yna oddeutu 11,400 o wirfoddolwyr sopau elusen. Nid yw pob un wedi dychwelyd i’r siopau eto oherwydd y pandemig. Mae hyn wedi arwain at brinder dwylo i helpu yn y siopau, ar adeg pan mae’r siopau fwyaf angen yr help. Mae gan nifer o’r gwirfoddolwyr sy’n gweithio mewn siopau elusen gysylltiad personol â’r achosion, gan wneud y profiad hyd yn oed yn fwy ystyrlon a gwerth chweil.

‘Cefais brofiad uniongyrchol o’r gofal gwych maen nhw’n ei roi i gleifion, a hynny yn rhad ac am ddim. Rydw i’n gwirioneddol gredu eich bod yn gwneud rhywbeth gwerth chweil wrth fynd yn wirfoddolwr.’ – Gwirfoddolwr, Hosbis Dewi Sant.

Mae gwirfoddolwyr yn nodi sawl rheswm pam maent yn rhoi o’u hamser, yn cynnwys meithrin neu ddatblygu sgiliau newydd, gwella eu hiechyd meddwl a gwneud cyfeillion newydd.

‘Rydym yn falch dros ben o’r gymuned wirfoddoli anhygoel sydd i’w chael yn ein sector,’ meddai Robin Osterley, Prif Weithredwr y Gymdeithas Manwerthu Elusennau. ‘Maen nhw’n rhoi o’u hamser a’u hegni yn rhad ac am ddim i sicrhau llwyddiant manwerthu elusennol. Maen nhw’n ychwanegu asbri a phersonoliaeth i’r maes, gan fynd i’r afael â thasgau fel didoli rhoddion, creu arddangosfeydd hardd a helpu cwsmeriaid i ddod o hyd i bethau. Pwy bynnag sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli, rydym yn eu hannog yn daer i roi cynnig arni. Ar sail ein profiad ni, pan mae pobl yn mynd ati i wirfoddoli, maen nhw wrth eu bodd.’

GWIRFODDOLWCH AR GYFER EICH SIOP ELUSENNOL LEOL

Mae’r Gymdeithas Manwerthu Elusennol yn cynrychioli mwyafrif y siopau elusen sydd i’w cael yng Nghymru, gan weithredu ar ran buddiannau’r aelodau er mwyn monitro a dylanwadu ar ddeddfwriaeth a rheoliadau sy’n effeithio ar fanwerthu elusennol, hyrwyddo manteision manwerthu elusennol i’r amgylchedd, i’r gymuned ac i elusennau, a chynnig ffynhonnell wybodaeth ac arbenigedd o bwys ynghylch materion sy’n effeithio ar fanwerthu elusennol. Mae’r Gymdeithas yn annog pobl i fynd ati i helpu eu siopau lleol i adfer ar ôl y pandemig.

Yr wythnos yma (o 12 Hydref 2020) bydd CGGC mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Manwerthu Elusennau yn rhannu straeon gwirfoddolwyr siopau elusennol yng Nghymru. Cadwch lygad ar wefan CGGC a’r cyfryngau cymdeithasol (lle byddwn yn defnyddio #gwirfoddolwyrsiopauelusennolcymru) i glywed am amrywiaeth o wahanol brofiadau gan unigolion sy’n gwirfoddoli mewn siopau elusennol.

DULL IECHYD YN GYNTAF

Dim ond gyda gofal ac ystyriaeth briodol ar gyfer lles gwirfoddolwyr, staff a chwsmeriaid y dylid unrhywun gwirfoddoli yn ystod y pandemig. Fe welwch ganllawiau diogelu ar ein tudalen arweiniad ac adnoddau Covid-19. I gael gwybodaeth am gyfyngiadau neu ystyriaethau ar gyfer cloeon lleol mewn Cymru ewch i: https://llyw.cymru/cyfnod-clo-lleol.

*ffigur 2018/19

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 02/08/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Adroddiad yn dangos bod gwirfoddoli yn cynyddu sgiliau a hyder

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 12/07/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Rôl gwirfoddoli mewn cartrefi gofal yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 21/06/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Perthnasau rhwng y sectorau gwirfoddol a statudol

Darllen mwy