Mae Care & Repair Cymru wedi ennill Gwobrau GSK IMPACT 2024 am ei gwaith yn helpu pobl hŷn fregus a phobl ag anableddau i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.
Yn eu 27ain flwyddyn erbyn hyn, mae’r gwobrau yn nodi rhagoriaeth yn y sector gwirfoddol, wedi eu dylunio i gydnabod gwaith eithriadol elusennau bach a chanolig sy’n gweithio i wella iechyd a llesiant pobl yn y Deyrnas Unedig.
Am ennill y wobr, bydd Care & Repair Cymru yn awr yn derbyn £40,000 mewn cyllid heb gyfyngiadau yn ogystal â chefnogaeth arbenigol a datblygu arweinyddiaeth wedi ei ddarparu gan yr elusen iechyd a gofal amlwg, y King’s Fund.
CARTREFI IACHACH A HAPUSACH
Rhan o waith Care & Repair Cymru yw cefnogi rhyddhau pobl o’r ysbyty ac atal gorfod mynd i’r ysbyty trwy wella ac addasu’r cartrefi’r rhai sydd mewn perygl. Mae eu gwasanaethau yn holistaidd, yn rhoi pwyslais ar yr unigolyn, ac wedi eu teilwrio i anghenion yr unigolyn.
Mae eu gwaith yn rhan bwysig o gadw poblogaeth hŷn y wlad yn iach ac yn eu cartrefi eu hunain – tadogir traean o’r marwolaethau dros ben ymhlith pobl hŷn i salwch resbiradol o fyw mewn cartrefi oer.
Mae asiantaethau Gofal a Thrwsio yn darparu gwasanaeth am ddim sy’n galluogi pobl sy’n byw gyda dementia, colled synhwyraidd neu sydd wedi cael strôc i gael gwiriad cartref gan weithiwr achos wedi ei hyfforddi’n arbennig.
Maent yn rhoi cyngor ar amrywiaeth o bethau fel hawliau budd-daliadau a sut i osgoi risgiau fel cwympiadau, yn ogystal â gwybodaeth am ba wasanaethau eraill sydd ar gael iddynt.
CANMOLIAETH AM GOFAL A THRWSIO
Canmolodd beirniaid y wobr Gofal a Thrwsio yn arbennig ar gyfer eu rhaglen Ysbyty i Gartref Iachach, sy’n gweithio i sicrhau bod cleifion oedrannus yn gallu cael eu rhyddhau cyn gynted â phosibl o ysbytai yn ôl i lety addas, diogel.
Dywedodd Katie Pinnock, Cyfarwyddwr Partneriaethau Elusennol y Deyrnas Unedig yn GSK:
‘Mae Gofal a Thrwsio yn pledio dros anghenion tai pobl hŷn, yn chwilio am fwy o fuddsoddiad i wella tai pobl hŷn ac yn darparu annibyniaeth i’r rhai sydd am aros yn eu cartrefi eu hunain.
‘Mae’r rhaglenni a ddarperir gan yr elusen yn gynlluniau effeithiol sy’n lleihau’r galw ar y gwasanaethau GIG a gofal cymdeithasol sydd dan straen yn barod trwy gefnogi rhai o bobl fwyaf bregus Cymru i fyw’n dda yn eu cartrefi eu hunain.’
MWY AM GWOBRAU IMPACT GSK
Mae rhaglen Gwobrau GSK IMPACT bellach wedi bod yn rhedeg ers 27 mlynedd, ers i’r gwobrau ddechrau ym 1997, ac mae mwy na 530 o elusennau iechyd a lles wedi derbyn Gwobr GSK IMPACT a chyllid gwerth cyfanswm o dros £8.1 miliwn.
Gallwch ddarganfod mwy am y gwobrau, gan gynnwys rhestr enillwyr 2024, yn www.kingsfund.org.uk/insight-and-analysis/projects/gsk/impact-awards