Teulu yn edrych allan dros gae o dyrbinau gwynt, y tad yn cario plentyn ar ei ysgwyddau sy'n pwyntio at y tyrbinau

Eisiau gwella effeithlonrwydd ynni eich mudiad?

Cyhoeddwyd : 05/01/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Mae’r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni yn helpu mudiadau gwirfoddol i wella effeithlonrwydd ynni eu heiddo drwy ddarparu cyngor, cyllid ac arbenigedd.

Diweddariad 22 Ionawr 2024: Rownd 2 o grantiau arolwg bellach ar agor ar gyfer ceisiadau.

YNGLŶN Â’R CYNLLUN

Mewn arolwg diweddar gan CGGC, y pryder mwyaf sylweddol sy’n wynebu sector gwirfoddol Cymru dros y flwyddyn nesaf yw’r cynnydd mewn biliau ynni.

Er mwyn mynd i’r afael â hyn, mae mudiadau gwirfoddol ledled Cymru yn wynebu cwestiynau fel ‘beth allwn ni ei wneud?’, ‘pwy allwn ni ddibynnu arno i wneud gwaith da?’, ‘sut gallwn ni wybod a yw’n fargen dda?’, a ‘sut gallwn ni dalu amdano?’.

Mae tîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru yn CGGC wedi ymuno â Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Sefydliad Moondance, Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru, ac gweithwyr proffesiynol amrywiol yn y sector i gyflwyno Cynllun Effeithlonrwydd Ynni newydd. Mae’r cynllun yn dwyn ynghyd cyngor, cyllid ac arbenigedd i gyd o dan yr un to.

BETH MAE’R CYNLLUN YN EI GYNNWYS

Mae’r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni yn darparu:

  • Grantiau o hyd at £1,000 tuag at arolwg ynni yn eich eiddo
  • Grantiau o hyd at £25,000 tuag at gyfanswm o 80% o’r gost o ymgymryd â’r gwaith a nodir
  • Benthyciadau i dalu am unrhyw gostau gosod sydd ar ôl
  • Cysylltiadau â mudiadau sydd eisoes yn gweithio’n agos gyda’r sector gwirfoddol ac sy’n gallu cynnal arolygon, rhoi cyngor a gosod

Rownd 2 o grantiau arolwg bellach ar agor ar gyfer ceisiadau. Mae grantiau gosod ar agor hefyd tan 12 Ebrill 2024, 12 pm.

Rhagor o wybodaeth am y cynllun a sut i wneud cais.

AR GYFER PWY MAE’R CYNLLUN

I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn, rhaid i’ch mudiad fod:

  • Wedi’i gyfansoddi’n addas gyda strwythur llywodraethu cydnabyddedig
  • Yn berchen ar ei eiddo rhydd-ddaliadol ei hun neu â lesddaliad hir (o leiaf 25 mlynedd)
  • Â bil ynni blynyddol o £10,000 y flwyddyn o leiaf
  • O fewn Cymru

AMSERLENNI

  • Canol Rhagfyr 2023 – Panel asesu cyntaf yn cyfarfod am grantiau arolwg
  • Canol Rhagfyr 2023 – Ymgeiswyr yn cael gwahoddiad i ymgeisio am grantiau gosod
  • 12 pm, 15 Ionawr 2024 – Y dyddiad cau terfynol ar gyfer ceisiadau am grantiau arolwg, rownd 1
  • 22 Ionawr 2024 – Rownd 2 o grantiau arolwg ar agor ar gyfer ceisiadau
  • 12 Ebrill 2024 – Y dyddiad cau terfynol ar gyfer ceisiadau am grantiau gosod

SUT MAE GWNEUD CAIS

Er mwyn gwneud cais i’r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni, bydd angen i ni gofrestru gyda Phorth Ymgeisio Amlbwrpas CGGC (MAP). Os ydych chi wedi cofrestru ar MAP o’r blaen, gallwch chi fewngofnodi drwy roi eich enw defnyddiwr a chyfrinair ar y sgrin gartref.

Gall mudiadau gofrestru drwy ymweld â’r wefan: map.wcva.cymru.

RHAGOR O WYBODAETH

I gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni, ewch i’n tudalen Cynllun Effeithlonrwydd Ynni.

Os oes gennych chi ddiddordeb, cysylltwch â’n tîm Buddsoddi Cymdeithasol Cymru ar 0300 111 0124 i gael trafodaeth, neu anfonwch e-bost i sic@wcva.cymru.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 23/08/24 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Yr ymgyrch ‘ewyllysgaredd’ sy’n ennill tir

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 11/07/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Mae’r Bwrsari i arweinwyr yng Nghymru yn ôl

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 25/05/24 | Categorïau: Cyllid |

Cryfhau’r bartneriaeth rhwng Cymru ac Affrica

Darllen mwy