Yn CGGC mae pob un ohonom yn dod ynghyd y tu ôl i ymdeimlad newydd o bwrpas, sef galluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i wneud mwy o wahaniaeth gyda’n gilydd.

Efallai’ch bod wedi sylwi ein bod wedi newid ambell i beth.

Rydym am sicrhau ein bod ni gyd yn barod i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu cymdeithas. I wneud hyn mae angen mudiadau gwirfoddol nawr yn fwy nag erioed. Ond ni all neb wneud hynny ar ei ben ei hun. Mae CGGC yma fel y gallwn ni gyd wneud mwy o wahaniaeth gyda’n gilydd.

Rydym wedi bod yn meddwl yn hir ac yn ddwys am ein rôl a beth allwn ni ei wneud i sicrhau bod mudiadau gwirfoddol Cymru yn barod at yr heriau o’n blaenau. Dyna pam rydym wedi adnewyddu ein pwrpas a rhoi canolbwynt clir i’n gwaith at y dyfodol.

Byddwn yn defnyddio’r meddylfryd newydd hwn fel galwad i’r gad, nid yn unig i ddod ag elusennau a mudiadau gwirfoddol o bob math at ei gilydd, ond hefyd i ysbrydoli byd busnes a chyrff cyhoeddus i gynnig eu cefnogaeth hwythau fel y gallwn ni gyd wneud mwy o wahaniaeth a meithrin dyfodol gwell.

Ein stori

Yng Nghymru mae pobl bob amser wedi dod at ei gilydd o’u gwirfodd, nid am arian nac am fod y gyfraith yn dweud bod rhaid iddynt, ond am eu bod eisiau gwneud gwahaniaeth.

Drwy ddod at ei gilydd fel mudiadau gwirfoddol mae pobl wedi llwyddo i gyflawni pethau rhyfeddol ac wedi siapio’r Gymru yr ydym yn byw ynddi heddiw. Mudiadau fel Cymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar, a greodd ffordd newydd i bobl gefnogi iechyd ei gilydd a’r cynllun a ddefnyddiwyd ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sydd gennym heddiw. Mudiadau fel yr Urdd, sydd wedi siapio ein hiaith a’n diwylliant ac sy’n dal i gynnig cyfleoedd di-rif i blant a phobl ifanc ledled Cymru. Yn ogystal â’r miloedd o wahanol glybiau a grwpiau cymunedol ym mhob tref a phentref ar hyd a lled y wlad. Pobl gyffredin, yn cymryd camau sy’n ymddangos yn fach ond sy’n arwain at wahaniaeth enfawr.

Ond wrth i’r Dirwasgiad a thlodi daro Cymru’n galed yn y 1930au, sylweddolodd pobl nad oedd eu sefydliadau’n barod i fynd i’r afael â’ heriau o’u cwmpas. I wneud mwy o wahaniaeth, roedd angen iddynt ddod at ei gilydd, trefnu ac edrych ymlaen i baratoi at y dyfodol.

Dyna pam y ffurfiwyd CGGC. A dyna pam rydym yn bodoli heddiw.

Drwy ein grym cyfunol, ac wedi ein hysgogi gan y dyhead a rannwn i wella bywydau pobl, rydym yn galluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i wneud mwy o wahaniaeth gyda’n gilydd.

Ein pwrpas

Galluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i wneud mwy o wahaniaeth gyda’n gilydd.

Ein tim

Llun proffil o Rajma Begum, Swyddog Amrywiaeth (BME) Cenedlaethol

Rajma Begum

Llun proffil o Alun Jones Pennaeth Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru

Alun Jones

Dr Lindsay Cordery-Bruce yw Prif Weithredwr newydd CGGC.

Lindsay Cordery-Bruce

Darllen mwy

Ein heffaith

Mae ein hadroddiadau blynyddol yn tynnu sylw at y gwahaniaeth mwyaf yr ydym wedi’u gwneud. Darganfyddwch ein storïau a’r gwaith y mae ein haelodau yn ei wneud bob dydd wrth newid bywydau pobl.