Bydd ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (AGM) yn cael ei gynnal ar-lein ym mis Tachwedd, ymunwch â ni i glywed gwybodaeth am gronfa newydd i Gymru a dysgu am ein cynnig aelodaeth newydd.
PRYD
Mae’n bleser gan CGGC gyhoeddi y bydd ein AGM yn cael ei gynnal ddydd Iau 20 Tachwedd 2025 rhwng 10-11.15am.
BLE
Eleni, bydd ein AGM yn cael ei gynnal ar-lein. Bydd aelodau CGGC yn derbyn gwahoddiad trwy e-bost i gofrestru ar gyfer y digwyddiad.
BETH I’W DDISGWYL
Bydd yr AGM yn cynnwys:
- Gwybodaeth am ein cynnig aelodaeth newydd, gan gynnwys pleidlais bwysig ar gynigion i wneud newidiadau mawr i rôl aelodau yn llywodraethiant CGGC (mwy am hynny yn y papurau, ar gael isod)
- Cyhoeddiad ar gronfa newydd i Gymru
- Canlyniadau ein hetholiadau ymddiriedolwyr
- Uchafbwyntiau o adroddiad blynyddol CGGC
CADW LLE
Mae’r AGM am ddim i fynychu ac i aelodau CGGC yn unig.
Gall aelodau CGGC gadw lle ar-lein yma.
Bydd dolen ymuno yn cael ei hanfon atoch ar fore’r digwyddiad. Defnyddiwch hon i ymuno ar ddydd Iau 20 Tachwedd 2025 am 10am.
Os na allwch ddod a hoffech benodi dirprwy i fynychu ar eich rhan, llenwch y ffurflen ddirprwy a’i dychwelyd erbyn 10am ddydd Mercher 13 Tachwedd 2024.
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno.
DOGFENNAU AGM
- Agenda
- Cofnodion cyfarfod 14 Tachwedd 2024
- Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
- Nodyn esboniadol ar y newidiadau arfaethedig i rôl aelodau yn llywodraethiant CGGC (penderfyniad 1)
- Penderfyniad Arbennig (penderfyniad 1)
- Erthyglau Cymdeithasu
- Hysbysiad dirprwyol
- Ethol aelodau i fwrdd CGGC – Penderfyniad 2
ETHOLIAD BWRDD YMDDIRIEDOLWYR CGGC 2025
Diolch i bawb a enwebodd yn yr etholiad eleni i ymuno â Bwrdd Ymddiriedolwyr CGGC. Roedd yn falch iawn gennym i dderbyn 9 o enwebiadau ar gyfer y pedair sedd wag ar y Bwrdd.
Bydd ein haelodau yn pleidleisio nawr, gyda’r ffenestr bleidleisio yn agor ar 27 Hydref 2025 ac yn cau ar 7 Tachwedd 2025. Bydd aelodau yn derbyn eu dolen unigryw i’n system bleidleisio ar-lein.
Bydd canlyniadau’r bleidlais yn cael eu cyflwyno i’n haelodau eu cymeradwyo yn AGM CGGC.