Bydd ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (AGM) yn cael ei gynnal ar-lein ym mis Tachwedd, gydag anerchiad gan Lindsay Cordery-Bruce yn ei AGM cyntaf fel Prif Weithredwr CGGC.
PRYD
Mae’n bleser gan CGGC gyhoeddi y bydd ein AGM yn cael ei gynnal ddydd Iau 14 Tachwedd 2024 rhwng 10-11am.
BLE
Eleni, bydd ein AGM yn cael ei gynnal ar-lein. Bydd aelodau CGGC yn derbyn gwahoddiad trwy e-bost i gofrestru ar gyfer y digwyddiad.
BETH I’W DDISGWYL
Bydd yr AGM yn cynnwys:
- uchafbwyntiau o adroddiad blynyddol CGGC
- ein hadroddiad ariannol diwedd blwyddyn a
- chyfle i glywed gan y Prif Weithredwr, Lindsay Cordery-Bruce, am ei gweledigaeth ar gyfer dyfodol CGGC
CADW LLE
Mae’r AGM am ddim i fynychu ac i aelodau CGGC yn unig.
Gall aelodau CGGC gadw lle ar-lein yma.
Bydd dolen ymuno yn cael ei hanfon atoch ar fore’r digwyddiad. Defnyddiwch hon i ymuno ar ddydd Iau 14 Tachwedd 2024 am 10am.
Os na allwch ddod a hoffech benodi dirprwy i fynychu ar eich rhan, llenwch y ffurflen ddirprwy a’i dychwelyd erbyn 10am ddydd Mercher 13 Tachwedd 2024.
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno.
DOGFENNAU AGM
- Agenda
- Cofnodion AGM 23 Tachwedd 2023
- Penderfyniad 1 – Penodi Archwilwyr Newydd
- Penderfyniad 2
- Ffurflen ddirprwy
ETHOLIAD BWRDD YMDDIRIEDOLWYR CGGC 2024
Diolch i bawb a enwebodd yn yr etholiad eleni i ymuno â Bwrdd Ymddiriedolwyr CGGC. Mae’n falch iawn gennym gyhoeddi ein bod wedi derbyn 21 o enwebiadau ar gyfer y chwe sedd wag ar y Bwrdd.
Bydd ein haelodau yn pleidleisio nawr, gyda’r ffenestr bleidleisio yn agor ar 21 Hydref ac yn cau ar 1 Tachwedd 2024. Bydd aelodau yn derbyn eu dolen unigryw i’n system bleidleisio ar-lein.
Bydd canlyniadau’r bleidlais yn cael eu cyflwyno i’n haelodau eu cymeradwyo yn AGM CGGC.