Grŵp o bobl a gasglwyd o amgylch bwrdd

Eich gwahoddiad i ymuno ag Wythnos Addysg Oedolion 2021

Cyhoeddwyd : 06/09/21 | Categorïau: Gwirfoddoli |

Mae Wythnos Addysg Oedolion yn chwarae rhan sylweddol yn hyrwyddo cyfleoedd i unigolion ddysgu sgiliau newydd, dod o hyd i adnoddau i gefnogi iechyd a lles, cychwyn diddordebau newydd neu ddechrau sgyrsiau am ailhyfforddi a dechrau o’r newydd.

Mae llwyfan Wythnos Addysg Oedolion wedi’i ddatblygu i rannu gwybodaeth, cyrsiau, a digwyddiadau arbennig er mwyn cysylltu pobl â phartneriaid a rhanddeiliaid ledled Cymru a thu hwnt.

Llynedd, fe gynhalion nhw dros 500 o gyrsiau ar-lein gan ystod eang o sefydliadau gan gynnwys y Brifysgol Agored, BT, Cyfreithwyr Harding Evans, Amgueddfa Cymru, Chwaraeon Cymru, Head 4 Arts a Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes Abertawe. Drwy weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, fe lwyddon nhw i lansio’r platfform y llynedd fel rhan o ymgyrch amlgyfrwng i hyrwyddo addysg oedolion pan oedd pandemig COVID-19 ar ei anterth. Gwyliwch y fideo yma i ddysgu mwy. Eleni, fel rhan o ymgyrch Wythnos Addysg Oedolion rydyn nhw’n cynllunio i gynnal cymysgedd o ddigwyddiadau a chyrsiau, sesiynau blasu, diwrnodau agored, a digwyddiadau allgymorth ar-lein, yn fyw ac wyneb yn wyneb, a fydd yn cael eu hyrwyddo i bobl ledled Cymru drwy gydol mis Awst a mis Medi.

Er mwyn sicrhau y bydd 2021 hyd yn oed yn fwy llwyddiannus, mae angen eich cymorth arnon nhw!

Rydyn nhw am i chi fod yn rhan o’r Wythnos Addysg Oedolion a defnyddio’r llwyfan i hyrwyddo eich cyrsiau, digwyddiadau agored, sesiynau blasu ar-lein ac adnoddau dysgu er mwyn helpu i ennyn diddordeb ac ysbrydoli pobl i ddysgu rhywbeth newydd mewn ffordd sy’n addas iddyn nhw.

Rydyn nhw’n chwilio am bartneriaid i ddarparu dosbarthiadau blasu byw a digwyddiadau arbennig fel rhan o Wythnos Addysg Oedolion, a byddent yn hyrwyddo unrhyw gyrsiau ac adnoddau sydd ar gael ac wedi’u rhestru ar y wefan rhwng mis Awst a mis Medi.

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn parhau â’i bartneriaeth â Llywodraeth Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith o bartneriaid ymgyrchu ac i gefnogi’r ymgyrch amlgyfrwng eleni, drwy godi ymwybyddiaeth, hyrwyddo a hysbysebu yn y wasg, ar y radio, ar gyfryngau cymdeithasol ac yn ddigidol. Helpwch nhw i ledaenu’r gair er mwyn cael cymaint o bartneriaid â phosib i ymuno â nhw – gallwch ddefnyddio’r asedau cyfryngau cymdeithasol yma i hyrwyddo’r gwahoddiad i’ch rhwydweithiau.

Mae pandemig y coronafeirws wedi effeithio ar fywydau llawer o bobl yn ein cymunedau ac wedi atgyfnerthu llawer o anghydraddoldebau. Mae angen i ni alluogi llawer mwy o bobl ledled Cymru i ymgysylltu â dysgu gydol oes. Mae datblygu sgiliau newydd yn gam hanfodol tuag at wella cyfleoedd a dewisiadau mewn bywyd.

Cliciwch yma i weld pa ddigwyddiadau sydd eisoes ar gael ar y llwyfan.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 02/08/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Adroddiad yn dangos bod gwirfoddoli yn cynyddu sgiliau a hyder

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 12/07/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Rôl gwirfoddoli mewn cartrefi gofal yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 21/06/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Perthnasau rhwng y sectorau gwirfoddol a statudol

Darllen mwy