Digwyddiad arbennig mynediad am ddim CGGC, gofod3 yw gofod Cymru ar gyfer y sector gwirfoddol ac mae’n cynnwys amrywiaeth enfawr o siaradwyr, dosbarthiadau meistr, trafodaethau panel a gweithdai.
GOFOD3
Eleni, bydd gofod3, y gofod i’r sector gwirfoddol yng Nghymru, yn ôl fel digwyddiad wyneb yn wyneb am y tro cyntaf ers cyn y pandemig. Yn digwydd yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 5 Mehefin 2024.
I’r rhai sydd â diddordeb mewn iechyd a gofal cymdeithasol, mae gennym ni gyfres wych o weithdai, dadleuon a mwy trwy gydol y dydd. Dyma beth sydd gennych i edrych ymlaen ato – cliciwch ar y dolenni i archebu’r sesiynau y mae gennych ddiddordeb ynddynt.
SESIYNAU IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL
Iechyd a lles yng Nghymru – a ydyn ni’n bwysig?
Dydd Mercher, 5 Mehefin 2024, 10 am
Wedi’i chyflwyno gan y Prosiect Iechyd a Gofal, mae’r sesiwn hon yn seiliedig ar ein papur ymchwil, ‘Pam mae’r trydydd sector yn bwysig i iechyd a lles yng Nghymru ‘.
Dydd Mercher, 5 Mehefin 2024, 10 am ac 11.30 am
Bydd y sesiwn hon yn dangos sut mae Sefydliad Cymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn defnyddio pêl-droed fel cyfrwng i wella iechyd a lles cymunedol.
Gwerth a gwerthoedd y sector gwirfoddol mewn iechyd a gofal cymdeithasol
Dydd Mercher, 5 Mehefin 2024, 11.30 am
Cyflwynir y sesiwn hon gan Brosiect Iechyd a Gofal CGGC. Bydd yn edrych ar ein hadroddiad ar werth a gwerthoedd y sector gwirfoddol, a bydd trafodaeth banel ar ei brif ganfyddiadau.
Dydd Mercher, 5 Mehefin 2024, 11.30 am
Dewch i’r sesiwn hon i ddysgu mwy am y ffordd wahanol y mae Platfform yn mynd ati i ymdrin ag iechyd meddwl.
Ymwreiddio diwylliant a hysbysir yn berthynol gan drawma yn eich mudiad
Dydd Mercher, 5 Mehefin 2024, 1.30 pm
Byddwch yn rhan o waith Platfform ar ddatblygu’r sgwrs ynghylch iechyd meddwl yng nghyd-destun cyfiawnder cymdeithasol a newid system.
Cryfhau gwirfoddoli strategol yn sector chwaraeon cymunedol Cymru
Dydd Mercher, 5 Mehefin 2024, 3 pm
Edrych ar y problemau a’r datrysiadau sy’n gysylltiedig â recriwtio a chadw gwirfoddolwyr ar lefel bwrdd a phwyllgor ar draws sector chwaraeon cymunedol Cymru.
GWYBODAETH BELLACH
Mae rhagor o wybodaeth am sesiynau Iechyd a Gofal Cymdeithasol gofod3 ar gael ar wefan gofod3.