Mae’r fersiwn newydd o’r Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector yn set o egwyddorion i sicrhau arfer da wrth ariannu mudiadau gwirfoddol.
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector wedi’i ddiweddaru. Mae’r Cod yn set o egwyddorion sydd, o’u cymhwyso’n dda, yn sicrhau arfer da wrth ariannu sefydliadau gwirfoddol.
Mae’r ddogfen i’w defnyddio gan reolwyr grant Llywodraeth Cymru i gefnogi’r gwaith o ddatblygu a darparu ariannu’r sector gwirfoddol, ac i’r sector gwirfoddol ddeall sut y gallant ddisgwyl cael eu hariannu.
Mae’r Cod yn berthnasol i gyllid Llywodraeth Cymru, a chyllid Llywodraeth Cymru a ddarperir gan sefydliadau sector cyhoeddus eraill, megis awdurdodau lleol a byrddau iechyd.
CREU’R COD
Cyflwynwyd y Cod gyntaf yn 2014 fel rhan o Gynllun Trydydd Sector Llywodraeth Cymru sy’n amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ei pherthynas â’r sector gwirfoddol yng Nghymru.
Mae’r adolygiad a drafftio’r Cod newydd wedi cael ei oruchwylio gan Is-bwyllgor Ariannu a Chydymffurfiaeth Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector. Mae aelodau’r Is-bwyllgor yn cynnwys cynrychiolwyr o CGGC, Cwmpas, RNIB, Cyngor Ffoaduriaid Cymru, Anabledd Cymru, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion (CMGC) a Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan.
BETH SY’N NEWYDD?
Mae’r Cod wedi’i adnewyddu wedi’i symleiddio i bum egwyddor, sydd o’u cymhwyso gyda’i gilydd yn annog grantiau o ansawdd trwy:
- Deialog gynnar a pharhaus
- Gwerthfawrogi a deilliannau
- Dull ariannu priodol
- Tegwch, a
- Hyblygrwydd
GWNEUD Y COD YN HYGYRCH
Fel rhan o’r adnewyddu, mae’r Cod wedi’i wneud yn fwy hygyrch, o ran iaith yn y ddogfen a sut y gellir cyrchu’r ddogfen (a rhywfaint o’r wybodaeth y mae’n ei darparu). Mae’r Cod newydd yn ddogfen ynddi’i hun a gellir dod o hyd iddo ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae dolenni byw bellach hefyd i alluogi llywio i ddogfennau ategol a manylion cyswllt yn haws.
DIOLCH AM EICH MEWNBWN
Hoffem ddiolch i’r holl fudiadau ac unigolion a gyfrannodd at adolygu ac adnewyddu’r Cod drwy ein gweithgareddau ymgynghori dros y 18 mis diwethaf. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cynnal gweithgareddau ymgysylltu yn fewnol ac rydym eisoes yn gweld rhai adrannau yn gweithredu’r egwyddorion yn eu ffyrdd o weithio.
Nid yw’r gwaith yn gorffen yma! Bydd CGGC yn parhau i weithio gyda’r Is-bwyllgor Ariannu a Chydymffurfiaeth a chefnogi’r Is-bwyllgor i hyrwyddo’r defnydd o’r Cod o fewn Llywodraeth Cymru a’r sector gwirfoddol. Rydym yn gobeithio y bydd y Cod Ymarfer diwygiedig hwn yn arwydd o newid diwylliannol yn ariannu’r sector gwirfoddol gan y sector cyhoeddus yng Nghymru.
CODI MATERION
Os ydych chi’n credu nad yw’r Cod yn cael ei gymhwyso, gallwch godi materion gyda chynlluniau ariannu Llywodraeth Cymru i’r Is-bwyllgor Ariannu a Chydymffurfiaeth drwy thirdsectorenquiries@gov.wales neu funding@wcva.cymru.
*Saesneg yn unig