Cyllidwyd Gweithredu Cymunedol Abergele gan Grantiau dan Arweiniad Ieuenctid i gynnal eu Prosiect Glanhau’r Castell. Darllenwch am effaith gadarnhaol y prosiect ar wirfoddolwyr ifanc a’r gymuned gyfan.
Cafodd Prosiect Glanhau’r Castell ei sefydlu i ddechrau gan Weithredu Cymunedol Abergele i ddarparu gweithgareddau cymunedol ar gyfer gwirfoddolwyr ifanc yng nghanol pandemig COVID-19. Gwnaeth y prosiect gydweithio gyda Chastell Gwrych ac ‘Incredible Edibles’ i glirio, tirlunio a chwilota’r tir yn archeolegol, gan ddarparu gweithgaredd addysgol grymusol y gallai pobl gymryd rhan ynddo.
Y ‘LLAWENYDD PUR’ O WNEUD GWAHANIAETH
Wrth i’r gymuned ddod allan o’r cyfnod clo, roedd ar bobl ifanc angen rhywbeth i ymhél ag ef yn gyflym, a gwnaeth Panel Ieuenctid Cymorth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy (CVSC) gynnig platfform i Weithredu Cymunedol Abergele wneud hyn. Gyda help y Grantiau dan Arweiniad Ieuenctid, bu modd iddyn nhw recriwtio 24 o wirfoddolwyr ifanc – pedwar yn fwy nag y bwriadwyd yn wreiddiol, a chafwyd 100% o bresenoldeb mewn sesiynau wedi’u cynllunio a heb eu cynllunio.
Roedd cael cyfarpar o ansawdd da ac adnoddau ariannol yn gwneud i’w gwirfoddolwyr ifanc deimlo’n werth chweil ac roedd cael rhywun a oedd yn ymddiried ynddynt i gyflawni prosiect mewn lleoliadau hanesyddol yn eu cymuned yn gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Byddai’r gwirfoddolwyr yn dweud yn aml eu bod yn cael llawenydd pur o wneud gwahaniaeth i’w cymuned ar ôl y diflastod o fod gartref o hyd.
Sicrhaodd y prosiect ei fod yn cynnwys pobl ifanc ym mhob agwedd bosibl. Gwnaeth y gwirfoddolwyr ifanc ymgymryd â rolau arwain drwy gynllunio a chostio’r holl brosiect. Roedd pedwar tîm o wirfoddolwyr, a phob tîm yn cael ei arwain gan rywun ifanc er mwyn sicrhau bod y gwaith glanhau’n mynd rhagddo’n ddiffwdan.
Gwnaeth y gwirfoddolwyr hyd yn oed weithio gyda’i gilydd i drefnu taith feicio noddedig 28 milltir i helpu i godi arian i dalu am gyfarpar ychwanegol roedden nhw eisiau ei brynu. Er nad oedd y mwyafrif o’r grŵp yn adnabod ei gilydd cyn y cyfnod clo, daeth y gwirfoddolwyr yn gyfeillion cefnogol yn ystod y prosiect, a oedd yn fuddiol i bawb dan sylw.
CYNORTHWYO CENEDLAETHAU’R DYFODOL
Nododd Llywodraeth Cymru chwe maes blaenoriaethol yr oedd y Grantiau dan Arweiniad Ieuenctid yn eu targedu er mwyn sicrhau ffyniant i bawb, gan gynnwys iechyd meddwl, y blynyddoedd cynnar, datgarboneiddio, sgiliau a chyflogadwyedd, tai a gofal cymdeithasol.
Gwnaeth prosiect Glanhau’r Castell ymdrech ymwybodol i fynd i’r afael â datgarboneiddio drwy addo i gerdded neu feicio i’r castell er mwyn lleihau eu hôl troed carbon. Gwnaeth y prosiect wahaniaeth mawr i sgiliau a chyflogadwyedd hefyd, gyda’r gwirfoddolwyr ifanc yn datblygu sgiliau fel arweinyddiaeth, ymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch, gwaith tîm, compostio, plannu, tocio a chynnal a chadw. Mae bod allan yn yr awyr agored a chymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol wedi gwella iechyd meddwl y bobl ifanc heb os, yn enwedig ar ôl straen y cyfnod clo.
Mae prosiect Glanhau’r Castell hefyd yn amlygu sut gall prosiectau dan arweiniad ieuenctid gefnogi nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Er enghraifft, drwy ddarparu sgiliau a chyflogadwyedd a gwella iechyd meddwl, mae’r prosiect yn cefnogi Cymru ffyniannus a Chymru iachach.
CYDNABYDDIAETH YN Y GYMUNED
Gwnaeth y Grantiau dan Arweiniad Ieuenctid alluogi’r prosiect i godi proffil y mudiad ond, yn bwysicach fyth, i godi proffil pobl ifanc yn yr ardal. Er enghraifft, mewn cyfarfod tref diweddar, gwnaeth Cadeirydd Ymddiriedolaeth Castell Gwrych ganmol y prosiect gan ddweud ‘rydyn ni’n gwerthfawrogi’r gwaith rydych chi’n ei wneud yn y gymuned’ a ‘d’yn ni erioed wedi cael darpariaeth o’r fath o’r blaen’.
O’r 24 o bobl ifanc a wirfoddolodd gyda Phrosiect Glanhau’r Castell, nododd saith rhiant newid cadarnhaol yn eu plant. Cawsant 60 o negeseuon cadarnhaol eraill gan aelodau amrywiol o’r gymuned, gan gynnwys ‘Incredible Edibles’, cynghorwyr sir, ‘Conwy Fusion’ a hyd yn oed ‘The Veg Shop’!
Mae’r gwirfoddolwyr eisoes wedi dechrau edrych ar brosiectau eraill y gallent gladdu’u dannedd ynddynt yn y gymuned, ac mae’r gwirfoddolwyr wrthi’n creu gwelyau uwch ar hyn o bryd ar gyfer y Ganolfan Cymorth i Deuluoedd leol.
GRANTIAU DAN ARWEINIAD IEUENCTID
Mae Grantiau dan Arweiniad Ieuenctid, a ddosberthir gan Gynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs) ledled Cymru, yn cefnogi amrywiaeth o brosiectau a gweithgareddau gwirfoddoli bychain a wneir gan bobl ifanc. Yn 2020/21, cyllidwyd y prosiectau i fynd i’r afael â’r chwe maes blaenoriaethol a nodwyd gan Lywodraeth Cymru a allai wneud y cyfraniad mwyaf at ffyniant a llesiant hirdymor.