Effaith Grantiau a arweinir gan Ieuenctid: Fforwm Ieuenctid Torfaen

Effaith Grantiau a arweinir gan Ieuenctid: Fforwm Ieuenctid Torfaen

Cyhoeddwyd : 08/03/21 | Categorïau: Cyllid | Gwirfoddoli |

Dewch i gael gwybod am Fforwm Ieuenctid Torfaen, a gafodd eu prosiect amgylcheddol wedi’i gyllido gan Grantiau a arweinir gan Ieuenctid yn 2019/20.

Yn ystod y prosiect, cynhaliodd Fforwm Ieuenctid Torfaen ymgyrch Facebook i godi ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol a hysbysu pobl eraill ar sut i adrodd tipio anghyfreithlon yn ogystal â materion amgylcheddol eraill yn y gymuned. Gwnaethant hefyd annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn arolygon sbwriel lleol a chenedlaethol a chynnal eco-weithgareddau crefft lle y cafodd aelodau’r fforwm gyfle i greu pethau allan o ddeunyddiau y gellid eu hailddefnyddio.

Yn ogystal â’r ymgyrch Facebook a sesiynau crefft, cydweithiodd Fforwm Ieuenctid Torfaen â Chyngor Ieuenctid Caerdydd a fforymau ieuenctid eraill yng Nghymru i gymryd rhan mewn rhaglen ddysgu amgylcheddol a oedd yn canolbwyntio ar fioamrywiaeth unigryw eu hardal, gan ddod o hyd i ddatrysiadau i wella’r ardal.

Bu eu gwirfoddolwyr yn ymwneud yn helaeth â phob agwedd ar y prosiect, o gydlynu eu digwyddiadau i greu cynnwys ar gyfer cyfryngau cymdeithasol a phenderfynu pa gyfarpar i’w brynu. Mae gwirfoddolwyr ieuenctid yn arbennig wedi arwain y ffordd ar y prosiect hwn drwy gydlynu sesiynau casglu sbwriel a thrwy hwyluso trafodaethau ar ddatrysiadau i bryderon amgylcheddol.

Drwy wneud hyn, maen nhw wedi datblygu sgiliau arwain rhagorol ac wedi magu hyder, gan ysgwyddo cyfrifoldebau o fewn eu rolau yn y fforwm.

Dywedodd aelodau o Fforwm Ieuenctid Torfaen ‘Mae holl aelodau’r fforwm wedi ymhél yn weithredol â’r prosiect hwn a byddant yn parhau i godi ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol drwy gydol y flwyddyn. O ganlyniad i’r prosiect hwn, mae ganddyn nhw i gyd eu cyfarpar casglu sbwriel eu hunain ac mae’n braf eu gweld nhw’n dangos balchder yn eu cymunedau eu hun drwy barhau i gasglu sbwriel yn lleol wrth fynd am dro bob dydd’.

Ychwanegodd, ‘mae hwn wedi bod yn brosiect a arweinir gan ieuenctid rhyfeddol sydd wedi mynd i’r afael ag angen mawr oedd gan bobl ifanc a hen fel ei gilydd yn ein cymuned i amddiffyn ein hamgylchedd a gofalu amdano.’

GRANTIAU A ARWEINIR GAN IEUENCTID

Mae’r Grantiau a arweinir gan Ieuenctid, a ddosberthir gan Gynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs) ar hyd a lled Cymru, yn cefnogi amrywiaeth o brosiectau gwirfoddoli bach a gweithgareddau a arweinir ac a gyflawnir gan bobl ifanc. Yn 2020/21, cyllidwyd y prosiectau i fynd i’r afael â chwe maes blaenoriaethol a nodwyd gan Lywodraeth Cymru a allai wneud y cyfraniad mwyaf i ffyniant a llesiant hirdymor.

I ddysgu mwy am wirfoddoli i bobl ifanc yng Nghymru, cofrestrwch ar gyfer ‘Gwneud gwirfoddoli ymysg pobl ifanc yn anhygoel yng Nghymru!‘ lle byddwn yn archwilio arfer gorau a sut y gallwn sicrhau profiadau cadarnhaol i wirfoddolwyr ifanc.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 14/10/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Lansio cyllid ar gyfer grwpiau cymunedol yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 10/09/24 | Categorïau: Cyllid |

Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth 2024

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/08/24 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Yr ymgyrch ‘ewyllysgaredd’ sy’n ennill tir

Darllen mwy