Mae ein hadroddiad newydd yn edrych ar sut gwnaeth mudiadau gwirfoddol ddefnyddio cyllid yr UE i greu newid parhaol i bobl a chymunedau Cymru.
Dros gyfnod a gwmpasodd 20 mlynedd, cafodd fudiadau gwirfoddol effaith enfawr ar draws amrediad o faterion cymdeithasol allweddol yng Nghymru diolch i Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd.
Yn ystod y tair rhaglen gyllido, a ddechreuodd yn 2000, cyflwynodd y sector gwirfoddol brosiectau hanfodol a gefnogodd pobl a chymunedau, a mynd ati’n weithredol i lywio polisi a dyluniad y rhaglenni eu hunain.
Mae ein hadroddiad – Effaith cyllid Ewropeaidd yng Nghymru – yn amlygu sut y bu modd i fudiadau gwirfoddol Cymru, drwy eu cyfraniad at brosiectau a gyllidwyd gan Ewrop, gyfrannu at bedwar amcan polisi ehangach.
MEITHRIN CYDRADDOLDEB, AMRYWIAETH A CHYNHWYSIANT
Mae cyllid Ewropeaidd wedi bod yn sbardun pwysig i hyrwyddo cydraddoldeb, hawliau dynol a chynhwysiant yng Nghymru dros y 25 mlynedd ddiwethaf. Mae symiau mawr o gyllid – yn enwedig drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop – wedi galluogi mudiadau gwirfoddol i gefnogi pobl ddifreintiedig, cymunedau ar yr ymylon a phobl o bob oed sy’n wynebu tlodi ac allgau cymdeithasol.
DATBLYGU SGILIAU A CHYFLOGAETH
Gwnaeth mudiadau gwirfoddol yng Nghymru ddefnyddio cyllid Ewropeaidd i gyllido rhai o’r bobl dlotaf a mwyaf difreintiedig mewn cymdeithas. Rhedodd y sector brosiectau a helpodd pobl i ddod o hyd i gyflogaeth ystyrlon neu i ddatblygu sgiliau a fu’n gam allweddol ar eu taith gyflogaeth.
TYFU BUSNES CYMDEITHASOL
Ers 2000, mae Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd wedi’u defnyddio’n llwyddiannus i ysgogi twf a datblygiad y sector mentrau cymdeithasol yng Nghymru. Mae Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop wedi galluogi mudiadau fel Cwmpas ac CGGC i gefnogi busnesau cymdeithasol newydd a phresennol gyda chyngor busnes arbenigol a chymorth ariannol hygyrch, gan hyd yn oed droi buddsoddiad yr UE yn ffynhonnell o gyllid sy’n cael ei hailgylchu a’i hail-fuddsoddi yn y sector.
RHOI DATBLYGIAD CYNALIADWY AR WAITH
Mae datblygu cynaliadwy wedi bod yn un o brif nodau trosfwaol polisïau’r UE ers mwy nag 20 mlynedd, ac mae hwn wedi’i ymwreiddio yn y gwaith o ddylunio a chyflwyno Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd. Gwnaeth y cyllid alluogi mudiadau gwirfoddol i gyflawni prosiectau a aeth i’r afael â materion ecolegol a thwf economaidd mewn modd cymdeithasol ac amgylcheddol gyfrifol.
RHAGOR O WYBODAETH
Gallwch chi ddarllen mwy am y themâu a amlinellwyd uchod, gan gynnwys enghreifftiau o’r gwahaniaeth a wnaeth mudiadau gwirfoddol yng Nghymru, drwy ddarllen yr adroddiad llawn.
Rydyn ni hefyd wedi comisiynu’r UKRCS i lunio adroddiad ymchwil annibynnol sy’n edrych ar effaith Cyllid Ewropeaidd ar y sector gwirfoddol yng Nghymru dros oes y cyllid. Gallwch chi ddarllen yr adroddiad yma.