Dangos effaith gadarnhaol eich sefydliad

Mae ‘ymarfer effaith’ yn cyfeirio at bopeth rydych chi’n ei wneud er mwyn dangos y gwahaniaeth cadarnhaol mae eich mudiad yn ei wneud. Mae’n ymwneud â dysgu beth yw’r ffordd orau o wasanaethu’r bobl rydych yn eu cefnogi.

Mae hyn yn golygu: 

  • cynllunio pa wahaniaeth rydych eisiau ei wneud
  • casglu’r wybodaeth iawn er mwyn gwybod a ydych yn cyflawni eich amcanion
  • asesu pa effaith rydych yn ei gael, a
  • dysgu o’r canlyniadau er mwyn gwella eich gwaith.

Mae’n dod yn fwy a mwy pwysig bod mudiadau gwirfoddol yn gallu dangos y gwahaniaeth maen nhw’n ei wneud ac yn gallu cyfathrebu hyn yn effeithiol i gyllidwyr, i fuddiolwyr ac i’r cyhoedd. 

DATBLYGU EICH YMARFER EFFAITH

I gael help i gymryd y camau cyntaf at fesur, deall a gwella eich effaith, ewch i wefan NPC sy’n cynnwys amrediad o adnoddau a chanllawiau ymarferol clir: Dechrau mesur eich effaith (Saesneg yn unig).

Mae canllawiau NPC yn rhoi:

  • proses gam wrth gam y gallwch chi ei mabwysiadu (a elwir yn Gylchred Arferion Effaith Da)
  • canllaw i ddeall y jargon
  • offeryn diagnostig ar ba ddata i’w gasglu a sut
  • gwybodaeth am yr egwyddorion a ddylai lywio ymarfer effaith (y Cod Ymarfer Effaith Da)

Mae’r adnoddau hyn wedi’u haddasu o’r rhaglen Ennyn Effaith, a redodd rhwng 2011 a dechrau 2022 ac a oedd yn cynorthwyo mudiadau gwirfoddol i wella eu hymarfer effaith. Bu CGGC yn bartner yn y rhaglen hon o 2017.

Rhagor o wybodaeth am y rhaglen Ennyn Effaith (Saesneg yn unig).

Mae ein rhwydwaith o gymheiriaid Ennyn Effaith yn darparu cyfleoedd i sefydliadau gysylltu â’i gilydd a rhannu gwersi a ddysgwyd ac arferion da. Os hoffech ymuno â’r rhwydwaith, anfonwch ebost i governance@wcva.cymru.

FFYNONELLAU ERAILL O WYBODAETH

Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru – Mae Mesur yr hyn sy’n Bwysig yn offeryn syml ac ymarferol i unrhyw un sy’n gwneud gwerthusiadau, i’w helpu i ofyn y cwestiynau cywir, i’r bobl gywir, yn y ffordd gywir.

Data Cymru – mae’r rhain yn darparu amrediad o gymorth arbenigol sydd wedi’i ddylunio i’ch helpu chi i ddod o hyd i ddata a’i ddefnyddio’n effeithiol, gan gynnwys: helpu i chwilio, casglu neu goladu data, dadansoddi data a chyflwyno data mewn modd effeithiol.

Gwerth Cymdeithasol Cymru  – mae’r rhain yn darparu gwybodaeth am sut i fesur a rheoli gwerth cymdeithasol ac yn cynnig cyngor, hyfforddiant a gwasanaethau ymgynghori.

Evaluation Support Scotland (Saesneg yn unig) – mae’r rhain yn darparu cymorth drwy offer ac adnoddau gwerthuso, gweithdai, astudiaethau achos a blogiau.

Adnoddau

Categori | Effaith a gwerthuso |

Mesur yr hyn sy’n bwysig – canllaw gwerthuso

Categori | Effaith a gwerthuso |

Cod Ymarfer Effaith Da – Crynodeb

Categori | Effaith a gwerthuso |

Y Cod Ymarfer ar Gyfer Adrodd Effaith

Categori | Effaith a gwerthuso |

Rheoli eich sefydliad – Polisi Gwerth Cymdeithasol

Categori | Effaith a gwerthuso |

Rheoli eich sefydliad – Effaith a mesur effaith

Categori | Effaith a gwerthuso |

Dechreuwr Mesur Effaith

Categori | Effaith a gwerthuso |

Sut mae gwneud yfory yn well na ddoe?

Mwy o adnoddau