Wrth i ni ddod i ddiwedd 2022, edrychwn yn ôl ar yr hyn rydyn ni wedi’i gyflawni’r flwyddyn hon.
Mae 2022 wedi bod yn flwyddyn arall brysur tu hwnt i’r sector gwirfoddol ac CGGC. Nawr, wrth i ni ddod i’w diwedd, roedden ni eisiau rhannu rhai o’n huchafbwyntiau o’r flwyddyn.
YMATEB I ARGYFYNGAU
Eleni, wrth i ni ddechrau symud i ffwrdd o bandemig COVID-19, gorfu i ni wynebu mwy o argyfyngau gyda’r Rhyfel torcalonnus yn Wcráin ac yna’r argyfwng costau byw.
Y Rhyfel yn Wcráin
Wrth i’r newyddion dorri am y Rhyfel yn Wcráin, gweithiodd CGGC mor gyflym â phosibl gyda chydweithwyr i helpu i gynorthwyo ffoaduriaid a oedd yn ffoi o’r gwrthdaro. Buom yn gweithio gyda’n cydweithwyr yn y Cynghorau Gwirfoddol Sirol, CLlLC, Llywodraeth Cymru ac arbenigwyr yn y sector gwirfoddol, fel Cyngor Ffoaduriaid Cymru, Y Groes Goch Brydeinig, Housing Justice Cymru, ymhlith llawer o rai eraill.
Trwy gydweithio, bu modd i ni gynhyrchu deunyddiau a oedd â’r nod o gynorthwyo’r ymdrechion mewn ardaloedd awdurdod lleol. Trwy gwrdd yn rheolaidd, bu modd i ni rannu arferion gorau, rhannu diweddariadau gan Lywodraeth Cymru â’r holl rhanddeiliaid dan sylw a sicrhau bod adborth o’r rheng flaen yn cael ei ystyried wrth ddatblygu polisïau.
O ganlyniad, llwyddwyd i wneud y canlynol:
- symleiddio prosesau cyfeirio
- darparu Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL)
- rhoi cymorth i’r rheini a oedd yn symud allan o letyau canolfannau croeso
- cynnig cyfleoedd i wella sgiliau a chynyddu annibyniaeth ffoaduriaid
- manteisio i’r eithaf ar gynigion o gymorth gan y cyhoedd
- cyfuno adnoddau, ac
- atal gwasanaethau rhag cael eu dyblygu ar draws y sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol.
Gwnaeth cyfraniadau o’r cyfarfodydd rheolaidd hyn hefyd helpu i lywio’r cynnwys a oedd ar gael ar Noddfa Cymru a oedd yn cynnwys dogfennau canllaw ar wirfoddoli, cyflogaeth a’r gwasanaethau cymorth sydd ar gael gan y sector gwirfoddol.
Argyfwng costau byw
Wrth i’r argyfwng costau byw ddod i’r amlwg, symudodd CGGC yn gyflym eto i gynorthwyo’r sector. Gwnaethom ni gyhoeddi arolwg i gael mewnwelediadau gan y sector ar sut mae’r argyfwng wedi effeithio, ac yn parhau i effeithio, ar y rheini sy’n defnyddio gwasanaethau’r sector gwirfoddol yn ogystal â’r effaith ar y mudiadau gwirfoddol eu hunain.
Mae’r canfyddiadau o’r arolwg hwn wedi’u defnyddio i hysbysu penderfynwyr allweddol o’r heriau yn ogystal â llywio gweithgareddau CGGC. Rydyn ni wedi cynnal pedwar digwyddiad i ddod â’r sector ynghyd a rhannu gwybodaeth am sut i ymdrin â heriau penodol sy’n gysylltiedig â’r argyfwng costau byw. Gwnaethon ni hefyd gyhoeddi tudalen costau byw ar ein gwefan er mwyn rhoi diweddariadau ac adnoddau allweddol, a chaiff hon ei diweddaru bob wythnos.
Wrth i ni edrych at 2023, gwyddom y bydd ymateb i’r argyfyngau hyn yn parhau i fod yn flaenoriaeth i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru. Byddwn ni’n parhau i roi cymorth ac arweiniad ac yn sicrhau bod llais y sector yn cael ei glywed gan benderfynwyr.
CYSYLLTU, GALLUOGI A DYLANWADU
Mae CGGC wedi gwneud mwy i gysylltu, galluogi a dylanwadu ar ran y sector gwirfoddol eleni, a dyma ond rhai o’r ffyrdd rydyn ni wedi gwneud hyn.
- Ers mis Ionawr 2022, rydyn ni wedi dyfarnu 250 o grantiau, gwerth cyfanswm o £11.1 miliwn ar draws chwe chynllun ac wedi dosbarthu 15 o fenthyciadau sy’n werth cyfanswm o £1.45 miliwn, gan alluogi mudiadau i wneud mwy o wahaniaeth ledled Cymru a thu hwnt
- Rydyn ni wedi cyflwyno 49 o gyrsiau hyfforddi a gweminarau i 968 o gyfranogwyr ac wedi datblygu 29 o gyrsiau hyfforddiant cynefino ar gyfer mudiadau unigol yn y sector. Rydyn ni hefyd wedi gweithio gyda phartneriaid ledled Ewrop i ddatblygu Sylfeini ar gyfer y trydydd sector, sef rhaglen hyfforddiant cynefino ar gyfer pobl sy’n ymuno â’r sector. Cafodd y prosiect, a gyllidwyd drwy Erasmus+, ei beilota yn 2022, gan hyfforddi 22 o ddysgwyr o bob rhan o Gymru
- Gwnaethom ni gyflawni amserlen lawn dop o ddigwyddiadau, gyda mwy na 3,400 o gyfranogwyr ar draws 48 o ddigwyddiadau, gan gynnwys ein digwyddiad blaenllaw, gofod3 a fynychwyd gan fwy nag 1,000 o unigolion. Roedden ni hefyd yn falch o ddychwelyd i’r Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd yn Nhregaron, gan rannu stondin gyda Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion (CAVO), lle gwnaethom ni lansio’r enwebiadau ar gyfer Gwobrau Elusennau Cymru 2022
- Rydyn ni’n croesawu 130 o aelodau newydd i’n cymuned o fudiadau gwirfoddol, gan wneud ein llais cyfunol hyd yn oed yn fwy pwerus a chynrychioladol
- Roedden ni’n falch o weithio gyda Mentrau Iaith i lansio’r Fframwaith Gwirfoddoli yn Gymraeg newydd, sef pecyn cymorth defnyddiol sy’n rhan o fenter ehangach i alluogi mudiadau i fynd ati i ddenu gwirfoddolwyr sy’n dymuno defnyddio’r Gymraeg. Gwnaethon ni hefyd gyflwyno tri bathodyn Cymraeg newydd i wefan Gwirfoddoli Cymru, sydd bellach â 200 o gyfleoedd newydd sy’n dangos un neu ragor o’r bathodynnau hyn. Mae hynny’n golygu bod 6% o’r cyfleoedd diweddaraf a restrwyd yn ychwanegu o leiaf un bathodyn Cymraeg
TAFLU GOLEUNI AR Y SECTOR GWIRFODDOL
Roedden ni’n falch o ddod â Gwobrau Elusennau Cymru yn ôl am y tro cyntaf ers 2019 a chawson ni ein syfrdanu gan yr ychydig o dan 200 o enwebiadau y gwnaethom ni eu derbyn ar draws pum categori. Gan weithio mewn partneriaeth ag ITV Wales eto, roedden ni’n falch o gynnal derbyniad diodydd bychan i ddathlu eich pum enillydd haeddiannol.
Yn ogystal â’r dyfarniadau, gwnaethom ni drefnu’r ail Wythnos Elusennau Cymru rhwng 21-25 Tachwedd 2022 i gydnabod a thaflu golau ar waith gwych elusennau, mudiadau gwirfoddol, grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr ledled Cymru.
Gwnaeth y wasg dynnu sylw at Wythnos Elusennau Cymru 12 o weithiau mewn pythefnos, gan rannu storïau o bob rhan o’r sector yng Nghymru, a chyrhaeddodd yr hashnod #WelshCharitiesWeek dros 2 filiwn o ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol
WELWN NI CHI YN 2023!
Ar ôl blwyddyn mor brysur, mae CGGC yn cael seibiant nawr dros y gwyliau rhwng 23 Rhagfyr 2022 a 3 Ionawr 2023.
Hoffem gymryd y cyfle hwn i ddiolch i’n holl aelodau, partneriaid a staff sydd wedi gwneud yr holl bethau hyn yn bosibl, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda chi i gyd eto yn 2023!