Volunteers litter picking

Edrych tuag at Wythnos Gwirfoddolwyr 2022

Cyhoeddwyd : 10/05/22 | Categorïau: Gwirfoddoli |

Amlinella tîm gwirfoddoli CGGC sut y byddan nhw’n mynd ati i drefnu dathliadau’r flwyddyn hon.

Mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn ŵyl wirfoddoli flynyddol DU gyfan sy’n cael ei chynnal rhwng 1-7 Mehefin bob blwyddyn. Mae’r wythnos arbennig hon yn amser i fudiadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr ddathlu eu gwirfoddolwyr. Caiff mudiadau eu hannog i benderfynu ar y ffordd orau o ddathlu’r wythnos yn eu ffordd eu hunain.

Mae Gwirfoddolwyr yng Nghymru wedi parhau i chwarae eu rhan yn yr ymateb i’r pandemig a nawr, maen nhw’n helpu i ailgodi cymunedau er mwyn cynorthwyo â gwaith adfer ein cenedl. Mae rhai yn dychwelyd i rolau gwirfoddol oedd ganddyn nhw cyn y pandemig, rhai yn parhau i gynnig cymorth i fudiadau ac unigolion sydd wedi’u heffeithio gan COVID-19, ac eraill yn codi arian ac yn paratoi i groesawu ffoaduriaid o Wcráin.

Gyda chymaint o bethau ar y gweill, gwnaethon ni benderfynu y dylid cadw’r thema ‘Amser dweud diolch’– neu ‘Thanks!’, ‘Ta!’, ‘Cheers!’ i ddiolch i’r holl wirfoddolwyr sydd wedi rhoi eu hamser a’u hymdrech i helpu eraill, neu’r blaned, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

AMSERLEN WYTHNOS GWIRFODDOLWYR 2022

1 Mehefin 2022 – Lansio Wythnos Gwirfoddolwyr – Amser dweud diolch

Ymunwch â diwrnod cyntaf Wythnos Gwirfoddolwyr 2022. Mae’r blynyddoedd diwethaf hyn wedi amlygu’r rôl hanfodol y mae gwirfoddolwyr yn ei chwarae ledled y DU, ac rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod pawb yn ymwybodol fod hon yn wythnos i gydnabod effaith gwirfoddolwyr, i feddwl am wirfoddoli ac i wneud cynlluniau i gefnogi gwirfoddolwyr yn y dyfodol.

2-5 Mehefin 2022 – Y Cinio Mawr Jiwbilî

Mae dathliadau’r Wythnos Gwirfoddolwyr eleni hefyd yn cynnwys y Cinio Mawr Jiwbilî Mawr. Pa well ffordd o ddathlu’r effaith y mae gwirfoddolwyr yn ei chael ar eu cymunedau na gyda’r Cinio Mawr Jiwbilî! Gallwch chi ymuno ar-lein, ar drothwy eich drws, mewn parc neu dros y ffens. Hwn yw’ch cyfle chi i ddathlu cysylltiadau cymunedol, cydnabod cyd-wirfoddolwyr ac i siarad ag eraill am eich profiad yn gwirfoddoli. Y penwythnos hwn ym mis Mehefin yw’r adeg o’r flwyddyn pan ddaw cymdogion a chymunedau’r DU ynghyd.

5 Mehefin 2022 – Diwrnod diolch

Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd i ni i gyd. Dewch i ni gyd ddod at ein gilydd i ddweud diolch i bawb sydd wedi ein helpu i ymdopi. Rhagor o wybodaeth yma (Saesneg yn unig).

6 Mehefin 2022 – Diwrnod Pŵer Ieuenctid

Ar 6 Mehefin, mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn cydgysylltu â’r ymgyrch #byddaf ar gyfer Diwrnod Pŵer Ieuenctid. Mae’r Diwrnod Pŵer Ieuenctid (Saesneg yn unig) yn ddathliad blynyddol o’r cyfraniad y mae plant a phobl ifanc yn ei wneud i gymdeithas drwy wirfoddoli a gweithredu cymdeithasol.

7 Mehefin 2022 – Diwedd yr Wythnos Gwirfoddolwyr – Amser dweud diolch

Un diolch olaf! Defnyddiwch y diwrnod hwn i ailedrych ar sut rydych chi wedi dangos eich gwerthfawrogiad i’ch gwirfoddolwyr y flwyddyn hon, a chofiwch wahodd pob un ohonyn nhw i ymuno â chi am wythnos o ddathliadau eto yn 2023!

SUT I GYMRYD RHAN

Gellir cymryd rhan mewn nifer o ffyrdd:

  • Os ydych chi’n arweinydd cymunedol, gallwch chi drefnu digwyddiad lleol ar-lein i ddweud diolch i wirfoddolwyr lleol.
  • Gall ysgolion, colegau, prifysgolion a gweithleoedd roi sbotolau ar fyfyrwyr neu staff sy’n gwirfoddoli ac ysbrydoli eraill i gymryd rhan.
  • Gall mudiadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr gynnal digwyddiad diolch i’w gwirfoddolwyr cyfredol. (Gall hyd yn oed fod yn sesiwn flasu i ddangos i bobl eraill pa rolau gwirfoddoli sydd ar gael!)
  • Gallai busnesau amlygu gwerth gwirfoddoli i’w cyflogeion a’u cwsmeriaid, rannu storïau o’r hyn sydd wedi’u gwneud gan wirfoddolwyr i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau eu hunain.
  • Mae’r Wythnos Gwirfoddolwyr hefyd yn gyfle i amlygu’r rolau a gweithgareddau gwirfoddol amrywiol, gan ddangos y ffyrdd y gall pobl gymryd rhan fel gwirfoddolwyr yn eu cymunedau lleol.

ADNODDAU

Mae amrywiaeth eang o syniadau, deunyddiau a chymorth ar gael gan fudiadau sy’n cymryd rhan i’ch helpu chi ar hyd eich taith:

Adnoddau Wythnos Gwirfoddolwyr ar gyfer y DU (Saesneg yn unig)

Pecyn Ymgyrchu Wythnos Gwirfoddolwyr 2022

Adnoddau ar gyfer y Mis Cymuned, Y Cinio Mawr a’r Cinio Mawr Jiwbilî

Adnoddau ar gyfer y Diwrnod Diolch (Saesneg yn unig)

Adnoddau ar gyfer y Diwrnod Pŵer Ieuenctid (Saesneg yn unig)

Beth bynnag y byddwch chi’n penderfynu ei wneud, byddem ni’n dwli clywed gennych chi ac yn dwli rhoi cymaint â phosibl o gydnabyddiaeth i wirfoddolwyr ar draws platfformau cyfryngau cymdeithasol, felly ceisiwch gymryd rhan a defnyddiwch yr hashnod #WythnosGwirfoddolwyr a #VolunteersWeek.

Y TU HWNT I WYTHNOS GWIRFODDOLWYR

Cofiwch ddangos eich gwerthfawrogiad i’ch gwirfoddolwyr ac amlygu eu cyraeddiadau drwy gydol y flwyddyn. Mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn ffordd wych o ddathlu gyda’n gilydd fis Mehefin yma, ond rydyn ni’n gobeithio y bydd yn ysgogi diwylliant o ddiolchgarwch a gwerthfawrogiad i bob gwirfoddolwr, ar bob adeg.

Cysylltwch â ni: volunteering@wcva.cymru.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Hyfforddiant a digwyddiadau |

Wythnos yr Ymddiriedolwyr 2024

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/09/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Adroddiad newydd yn canfod bod gwirfoddolwyr yn lleihau’r pwysau ar staff rheng flaen y GIG

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/08/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Adroddiad yn dangos bod gwirfoddoli yn cynyddu sgiliau a hyder

Darllen mwy