Crëwyd yr Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â'r Cyhoedd yng Nghymru i helpu mudiadau i ymgysylltu â'r cyhoedd yn gyson ac yn effeithiol.

EGWYDDORION CENEDLAETHOL AR GYFER YMGYSYLLTU Â’R CYHOEDD YNG NGHYMRU

Cafodd yr egwyddorion hyn eu datblygu gan Cyfranogaeth Cymru trwy weithio gyda TPAS Cymru, o dan arweiniad partneriaeth Cyfranogaeth Cymru. Cawsant eu cymeradwyo gan Brif Weinidog Cymru, Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC ar ran Llywodraeth Cymru.

Beth ydynt? Set o ddeg o egwyddorion sydd â’r nod o arwain ymddygiad ac annog gweithgarwch ymgysylltu cyson o safon â defnyddwyr gwasanaethau a’r cyhoedd.

Ar gyfer pwy ydynt? Sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus o fewn y sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol yng Nghymru.

Sut y gellir eu defnyddio? Gofynnir i sefydliadau gymeradwyo’r egwyddorion hyn ar lefel gorfforaethol. Yna fe’u hanogir i ddatblygu safonau mesuradwy ar gyfer sector neu feysydd gwasanaeth penodol.

Daeth y prosiect Cyfranogaeth Cymru i ben ym mis Gorffennaf 2018. Am unrhyw ymholiadau ynghylch rhwydweithiau cyfranogi, ewch i wefan Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru. Am hyfforddiant perthnasol, ewch i dudalennau Hyfforddiant CGGC neu ffoniwch y tîm hyfforddi ar 0300 111 0124.

ADNODDAU

ARDYSTIAD I’R EGWYDDORION CENEDLAETHOL

Mae’r mudiadau canlynol wedi cymeradwyo’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru