Mae ymgynghoriadau cyhoeddus yn ffordd wych i fudiadau gwirfoddol ddylanwadu ar y meysydd y maent yn teimlo’n angerddol amdanynt.
Bydd llywodraethau a chyrff cyhoeddus eraill yn cynnal ymgynghoriad er mwyn cael barn y cyhoedd ar ddarn o waith, prosiect, polisi neu gyfraith. Mae ymgynghoriadau’n eu helpu i ymgysylltu â’r cyhoedd, bod yn fwy tryloyw ac elwa ar arbenigedd mudiadau eraill, fel elusennau, sy’n aml yn paratoi’r ffordd yn eu maes penodol.
YMGYNGORIADAU CYFREDOL
Ymgyngoriadau sydd ar y gweill gan y Cynulliad, Llywodraeth Cymru ac eraill. Eich cyfle i ddweud eich dweud ar yr hyn sy’n bwysig i chi.
- Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) – Cau: 11 Hydref 2024
- Graddau arolygu ar gyfer gwasanaethau cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref – Cau: 14 Hydref 2024
- Ymchwiliad i rôl, llywodraethiant ac atebolrwydd y sector cynghorau tref a chymuned – Cau: 18 Hydref 2024
- Adolygiad o weithrediad y Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a’r UE – Cau: 1 Tachwedd 2024
- Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025/26 – Cau: 29 Tachwedd 2024
- Egwyddorion Buddsoddi Cynaliadwy drafft – Cau: 3 Rhagfyr 2024
- Rhyddhad ardrethi annomestig elusennol ar gyfer ysgolion preifat – Cau: 16 Rhagfyr 2024
EIN HYMATEBION
Archif o ymatebion ymgynghoriad diweddar CGGC.
Effaith gostyngiadau cyllid ar ddiwylliant a chwaraeon (Medi 2024)
‘Yn aml, mae gostyngiadau sylweddol mewn cyllid yn arwain at golledion y tu hwnt i leihau gwasanaethau dros dro.’
Rheoliadau (drafft) Trefniadau Partneriaeth (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024 (Gorffennaf 2024)
‘Mae angen i’r Rheoliadau fynd ymhellach o ran cyfeirio’n benodol at werth y sector gwirfoddol a’r ymgysylltiad y disgwylir ei gael ganddo.’
Ymateb CGGC i Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol (Mehefin 2024)
‘Mae CGGC yn croesawu gweledigaeth a bwriad y Strategaeth ddrafft Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol. Ond, bydd ei llwyddiant yn dibynnu ar ei chyflwyniad – gyda’r ymrwymiad a’r adnoddau priodol y bydd eu hangen ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol.’
Mynediad i Fancio Stryd Fawr yng Nghymru (Mai 2024)
‘Nid yw’r gwasanaethau bancio a ddarperir wedi’u cynllunio gan ystyried elusennau. Mae hwn yn mynd y tu hwnt i’r ddarpariaeth ar-lein, ond mae’n golygu y bydd ymddiriedolwyr ac unigolion cyfrifol eraill yn debygol o fod angen cymorth ychwanegol i gwblhau tasgau arferol.’
Asedau Segur Llywodraeth Cymru (Chwefror 2024)
‘Gofynnwn i Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol ymrwymo i ymgysylltu ac ymgynghori’n llawn â’r sector i lunio methodoleg gyllido sydd â’r nod o gynyddu
effaith hirdymor y cyllid hwn yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.’
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25 (Ionawr 2024)
‘Mae mudiadau gwirfoddol yn mynd i’r afael â phwysau ariannol a gweithredol acíwt.’
Asesiadau Gallu i Weithio: gweithgareddau a disgrifyddion (Hydref 2023)
‘Dylai’r DWP barhau i gydnabod buddion gwirfoddoli, ond ni ddylai, ar unrhyw gyfrif, ei orfodi fel ‘gweithgaredd paratoi ar gyfer gwaith’, na’i glymu mewn unrhyw fodd i lefel budd-daliadau unigolion.’
Strategaeth a Datganiad Polisi ar gyfer Polisi Ynni Gwledydd Prydain (Awst 2023)
‘Gellid gwella’r datganiad er mwyn blaenoriaethu diogelu ffynonellau ynni, technoleg lân, a llesiant cymunedau yn glir.’
Ailgydbwyso rhaglen iechyd a gofal (Awst 2023)
‘Er mwyn cael y budd mwyaf posibl o gynnwys y trydydd sector a gwirfoddolwyr, mae angen buddsoddiad cynaliadwy hirdymor.’
Cyllid Datblygu Rhanbarthol wedi’r UE (Mai 2023)
‘Un o’r pryderon mwyaf i’r sector gwirfoddol yw amserlenni Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (y Gronfa Ffyniant).’
Fframwaith Cymhwysedd ar gyfer Ymarferwyr Presgripsiynu Cymdeithasol yng Nghymru (Ebrill 2023)
‘Ystyrir y fframwaith yn ddatblygiad cadarnhaol ac yn addas i’r diben y bwriadwyd ef ar y cyfan.’
Canllawiau drafft y Comisiwn Elusennau – elusennau a chyfryngau cymdeithasol (Mawrth 2023)
‘Credwn fod y drafft yn bwynt dechrau da, ond hoffem weld mwy o fanylion ac enghreifftiau i helpu i arwain defnyddwyr.’
Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol (Hydref 2022)
‘Dylai’r model roi mwy o bwyslais ar y ffaith mai rôl ataliol yw presgripsiynu cymdeithasol, yn hytrach na math o ofal.’
Strategaeth arloesi i Gymru (Hydref 2022)
‘Thwf economaidd, a hoffem weld y Strategaeth Arloesi yn chwarae rhan allweddol mewn sicrhau bod Cymru yn gallu bod yn fwy gwydn yng ngŵydd yr heriau presennol a’r heriau i ddod.’
Diwygiadau i’r Datganiad Blynyddol 2023-25 (Awst 2022)
Nid ydym yn credu bod y cwestiwn presennol ar nifer y gwirfoddolwyr yn gofyn am yr wybodaeth gywir.’
Cerrig milltir pellach i fesur cynnydd ein cenedl (Awst 2022)
‘Mae’n bwysig nodi y byddai unrhyw ddata a gasglwyd dim ond yn cyflwyno darlun anghyflawn cyhyd â bod ‘gwirfoddoli’ yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl.’
Grwpiau Trawsbleidiol (Awst 2022)
‘Mae gan grwpiau trawsbleidiol amrediad gwahanol iawn o ddiddordebau a ffyrdd o weithio, sy’n aml yn arwain at rolau gwahanol i grwpiau trawsbleidiol a’u haelodau.’
Dyfodol Cyfansoddiadol Cymru (Gorffennaf 2022)
‘Mae’r cyfansoddiad yn galluogi llywodraethau gwahanol ar lefelau’r DU a Chymru i gymryd safiadau gwahanol iawn ar bolisïau.’
Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Gorffennaf 2022)
‘Dylai comisiynwyr ystyried y Cyflog Byw fel rhan allweddol o gyflawni gwerth cymdeithasol.’
Ymchwiliad i lobio (Mehefin 2022)
‘Er y gall cofrestr lobïo hybu tryloywder ac atebolrwydd Llywodraeth Cymru, mae pryderon wedi’u mynegi gan y sector gwirfoddol’
Trefniadau Cyllido ar ol ymadael a’r UE (Ebrill 2022)
‘Gan nad yw’r UKSPF ar waith eto, mae’r sector gwirfoddol yn dawnsio ar ddibyn, ac mae’n anochel y bydd yn colli capasiti, arbenigedd a seilwaith o’r sector a cholli gwasanaethau cymorth i rai o bobl a lleoedd mwyaf anghenus Cymru.’
Ymgynghoriad ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer Ymchwiliad COVID-19 (Ebrill 2022)
‘Nid oes unrhyw sôn yn y Cylch Gorchwyl drafft am waith anhygoel y sector gwirfoddol a gwirfoddoli yn ystod y pandemig.’
Ymgynghoriad ar Ddiwygio’r Ddeddf Hawliau Dynol (Ebrill 2022)
‘Y cynigion yn ddiangen oherwydd nad oes angen dim yn lle Deddf Hawliau Dynol 1998.’
Datblygu cynllun gweithlu iechyd meddwl strategol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol (Ebrill 2022)
‘Rydym yn croesawu’r gydnabyddiaeth fod gan wirfoddolwyr rôl hanfodol i’w chwarae o fewn gwasanaethau iechyd meddwl a’r angen i hyn gael ei fesur a’i integreiddio mewn cynlluniau gweithlu hirdy.’
Rheoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforedig (2) (Rhagfyr 2021)
‘O ran y cwestiwn ynghylch y dull o graffu ar Gyd-bwyllgorau Corfforedig a chadw
llygaid arnynt, rydym yn croesawu bwriad y Gweinidog i gynyddu cydweithio a
chanolbwyntio ar atebolrwydd democrataidd ar draws y strwythurau hyn.’
Craffu ar weinyddiaeth gyhoeddus (Rhagfyr 2021)
‘Mae angen mwy o gydlyniant a chyd-ddealltwriaeth ar draws portffolios y
llywodraeth o rôl y sector gwirfoddol a’i ryngweithiadau â’r sector cyhoeddus.’
Cynigion Cyllideb Drafft Llywodraeth Cymru 2022-23 (Tachwedd 2021)
‘Dylai Llywodraeth Cymru flaenoriaethu gwasanaethau’r sector gwirfoddol yn y
Gyllideb nesaf a chynnig cylchau cyllido mwy hirdymor o dair blynedd neu ragor er
mwyn helpu’r sector i fod yn fwy diogel a chynaliadwy.’
Defnyddio Cerrig Milltir a Dangosyddion Cenedlaethol i Fesur Cynnydd ein Cenedl (Hydref 2021)
‘Waeth beth yw’r cerrig milltir a’r dangosyddion, ni fyddant yn cael fawr o effaith os nad ydynt Yn cael eu perchnogi a’u deall yn eang gan bawb, gyda ffocws gwirioneddol ar gyfranogiad a chyd-gynhyrchu. Mae gan y sector gwirfoddol rôl allweddol i’w chwarae yma.’
Cynllun gweithredu LHDTC+ (Hydref 2021)
‘Er yr ymddengys y bydd y Cynllun Gweithredu yn gwella cydraddoldeb i bobl LHDTC+, mae nifer o fudiadau’r sector gwirfoddol wedi lleisio’u pryderon i CGGC ynghylch yr amser y maen nhw’n ofni y bydd hyn yn ei gymryd.’
Canllawiau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Medi 2021)
‘Cyfeirir ychydig iawn at fewnbwn y trydydd sector i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig. Dywed paragraff 4.4 bod angen i fewnbwn o’r fath gael ei ‘ystyried’ yn unig. Mae diffyg rhwymedigaeth i ymgysylltu â chymdeithas sifil yn peri gofid.’
Rheoliadau drafft Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Awst 2021)
‘Croesawir bod modd i’r sector gael ei ‘gyfethol’ i Gyd-bwyllgor Corfforedig’
Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol (Iau 2021)
‘Mae CGGC yn siomedig bod cyn lleied o gydnabyddiaeth wedi’i rhoi yn y Cynllun i’r gwaith gwirfoddoli anffurfiol sy’n cael ei wneud gan unigolion lleiafrifol ethnig dros eu cymunedau priodol.’
Archif o ymatebion ymgynghori WCVA. (Mai 2021)
‘Rhaid rhoi blaenoriaeth i gynnig cyfleoedd gwaith teg i’r rheini sydd wedi’u
heffeithio’n anghymesur fwyaf gan y pandemig, gan gynnwys llawer o bobl
BAME, pobl hŷn a phobl ag anableddau.’
Ailgydbwyso gofal a chymorth (Chwefror 2021)
‘Cyn gwneud unrhyw newid arfaethedig mae’n bwysig cofio am ddinasyddion; y bobl sy’n debygol o fanteisio ar wasanaethau iechyd a gofal, waeth pwy sy’n eu darparu.’
Adroddiadau ar Sefydlogrwydd y Farchnad Gofal Cymdeithasol (Tachwedd 2020)
‘Rydym ni’n cytuno bod cylch pum mlynedd yn briodol ac yn gweithredu’n gwbl gyson â’r amserlen i gynhyrchu’r Asesiadau o Anghenion y Boblogaeth (PNAs) ac i fwydo i’r Cynllun Ardal Leol, a ddylai adlewyrchu cynnwys yr Adroddiadau ar Sefydlogrwydd y Farchnad (MSRs) ac fel arall.’
Rhwystrau i weithrediad llwyddiannus Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol (Tachwedd 2020)
Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod ffrydiau cyllido, boed nhw’n gysylltiedig yn uniongyrchol â’r Ddeddf ai peidio, yn cael eu rheoli’n dda, yn cael eu cyflwyno ar amser, yn cael eu datblygu ar gyfer yr hirdymor, yn dod â chanllawiau clir, yn galluogi i gyllid gael ei gario drosodd i’r flwyddyn ariannol nesaf, ac nad ydynt yn gosod ffenestr hynod gul i fudiadau ar gyfer gwario’r arian.
Cynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 (Tachwedd 2020)
‘Er mwyn cyflawni ei rôl hanfodol o fewn cymunedau, yn ystod ac ar ôl y pandemig, a chan ystyried yr incwm y mae llawer o fudiadau wedi’i golli, mae’n bosibl y bydd angen i Lywodraeth Cymru roi cyllid pellach i’r mudiadau hynny o’r sector gwirfoddol a fydd yn cynorthwyo â’r gwaith adfer.’
Awdurdod Iechyd Arbennig newydd yn y maes Digidol (Tachwedd 2020)
Mae angen deall beth fydd yn gweithio a ddim yn gweithio i bobl yn ddigidol. Mae hyn yn cynnwys mynediad, cysylltedd, sgiliau a hyder.
Argyfwng Covid-19 a’i Effaith ar Gydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru
‘Mae’r effeithiau wedi amlygu anghydraddoldebau presennol ar draws cymdeithas, gyda llawer o’r effeithiau yn cael eu teimlo’n waeth ac yn uniongyrchol gan bobl oedd eisoes yn profi anfanteision cymdeithasol ac incwm.’
Egwyddorion arweinyddiaeth iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru
‘Dylai arweinyddiaeth dosturiol fod yn rhan annatod o integreiddio, gyda’r sector gwirfoddol yn bartner hanfodol.’
‘Yn yr un modd â’r rhan fwyaf o fudiadau’r trydydd sector mae mudiadau amgylcheddol wedi dioddef colledion ariannol difrifol yn ystod y feirws. Mae hyn wedi amharu ar eu gwaith hanfodol a bydd yn parhau i wneud hynny yn y dyfodol.’
Fframwaith Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru
‘Mae angen model cyflawni sy’n cynnwys cymysgedd o fuddsoddiad a gweithgarwch ar lefel genedlaethol.’
‘Mae cymunedau wedi dod at ei gilydd yn gyflym i helpu gwasanaethau, yn aml heb unrhyw strwythur ffurfiol. Mae’r rhyddid hwn wedi grymuso cymunedau i ddod o hyd i’w hatebion eu hunain i broblemau a diffygion mewn cefnogaeth.’
Cymru a’r Gronfa Ffyniant a Rennir
‘Mae’r Cronfeydd Strwythurol wedi cael effaith sylweddol ar y trydydd sector yng Nghymru ac, o ganlyniad, yr unigolion hynny sydd anoddaf cyrraedd atynt, a’n cymunedau mwyaf difreintiedig’.
‘Bydd angen cryn dipyn o gymorth ar Gymru.’
‘Mae angen annog newid hirdymor mewn ymddygiad er mwyn cynorthwyo cynhyrchwyr i roi mwy o ystyriaeth i ailddefnyddio ac ailgylchu deunyddiau.’