Croeso i’r dudalen we benodol ar gyfer cefnogi ac amlygu rôl mudiadau gwirfoddol yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae’r sector gwirfoddol yng Nghymru yn cyflogi oddeutu 59,000 o bobl yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol*, ac mae llawer mwy yn wirfoddolwyr. Gyda’i gilydd, mae 25% o aelod-fudiadau CGGC yn cynnig gwasanaethau gofal a chymorth i’r gymuned mewn rolau fel gwneud addasiadau i’r cartref, cludo pobl yn ôl ac ymlaen o apwyntiadau ysbyty, a rhoi seibiant a/neu ofal diwedd oes.

Mae Prosiect Iechyd a Gofal CGGC yn chwarae rôl hanfodol mewn cefnogi mudiadau gwirfoddol ledled Cymru drwy:

  • Fod yn gyfaill beirniadol i yrru gwelliannau mewn polisi ac arferion
  • Dadlau dros fuddsoddiad cynaliadwy yn y sector er mwyn adeiladu capasiti ac ateb y galw am wasanaethau
  • Galluogi’r trydydd sector i ddangos ei werth a chynllunio yn unol â hynny
  • Cysylltu mudiadau’r sector â’i gilydd a chyda’r system iechyd a gofal

Mae Prosiect Iechyd a Gofal CGGC yn hwyluso nifer o rwydweithiau sy’n cynnig gwybodaeth, cymorth a chyfleoedd rhwydweithio i’r trydydd sector a gwirfoddolwyr.

  • Grŵp Cynllunio Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Llesiant y Sector Gwirfoddol: Mae’r rhain yn cwrdd pedair gwaith y flwyddyn i drafod materion sy’n ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn paratoi ar gyfer eu cyfarfodydd ddwywaith y flwyddyn gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’i dirprwyon.
  • Helplu Cymru: Rhwydwaith o bartneriaid yw’r rhain sy’n gweithio ar godi proffil a rôl strategol gwirfoddoli yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Rhwydwaith Ymchwil Cymru Gyfan i Bresgripsiynu Cymdeithasol: Nod hwn yw gwella iechyd a lles cymdeithas drwy ymchwilio i bresgripsiynu cymdeithasol a’i werthuso. Mae’n rhwydwaith o fwy na 350 o ymchwilwyr ac ymarferwyr yng Nghymru sydd â diddordeb mewn presgripsiynu cymdeithasol.

Os hoffech wybod mwy am y rhwydweithiau hyn, neu ddod yn aelod, anfonwch e-bost at iechydagofal@wcva.cymru.

DEDDFWRIAETH A PHOLISIAU

O fewn y maes iechyd a gofal cymdeithasol, mae deddfwriaeth a pholisi arloesol ac unigryw i Gymru y dylai mudiadau gwirfoddol gymryd sylw ohonynt, sef Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Chymru Iachach. Mae’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn cyflwyno fframwaith cyfreithiol i drawsnewid y ffordd y cynigir gofal a chymorth i oedolion a phlant mewn angen. I gael rhagor o wybodaeth am y Ddeddf hon, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac eraill, ewch i’n tudalen Deddfwriaeth.

Dogfen bolisi gan Lywodraeth Cymru yw ‘Cymru Iachach’ sy’n ceisio symud gwasanaethau allan o’r ysbyty ac i mewn i gymunedau a chynorthwyo pobl i fyw bywydau iach a hapus, gan sicrhau eu bod yn cadw’n iach yn eu cartrefi. Darllenwch y manylion llawn ar ein tudalen Cymru Iachach.

 

ASTUDIAETHAU ACHOS

Coed Lleol a PIVOT

Mae’r ddau fudiad anhygoel hyn yn siarad am fuddion gwirfoddoli i iechyd corfforol a meddyliol, i’r gwirfoddolwyr eu hunain a’r rheiny sy’n dibynnu ar eu gwasanaethau.

Holistic Hoarding

Cipolwg ar yr effaith y gall celcio ei chael a’r effaith y mae un gwirfoddolwr gyda ‘Holistic Hoarding’, Kevin, wedi’i chael ar y rheini y mae’n eu helpu.

Cŵn Cymorth Cariad

Mae Helen a Christine o fudiad Cŵn Cymorth Cariad yn siarad am y gwahaniaeth enfawr y gall eu cŵn eu gwneud i breswylwyr ysbyty hirdymor.

Cymdeithion Diwedd Oes

Sut mae cymdeithion diwedd oes gwirfoddol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cefnogi teuluoedd mewn angen.

ADNODDAU ALLWEDDOL

Infoengine

Cronfa ddata o wasanaethau trydydd sector a chymunedol sy’n helpu pobl â’u bywydau bob dydd

Dewis

Yn cynnig gwybodaeth am wasanaethau cymunedol a sector cyhoeddus lleol ar hyd a lled Cymru

ADNODDAU PWYSIG

Blogiau CGGC

Byddwn ni’n diweddaru’r rhain yn rheolaidd, felly dewch yn ôl yn gyson!

Podlediadau CGGC

Adnoddau eraill

  • Mae Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru yn cynnig gwybodaeth ac astudiaethau achos ynghylch cyd-gynhyrchu yng Nghymru
  • Mae Cydweithredu i Ofalu Canolfan Cydweithredol Cymru yn cynnig cymorth i bobl yng Nghymru sydd eisiau dechrau neu redeg gwasanaethau llesiant mewn modd mwy cydweithredol, cydweithrediadol a chynhwysol.
  • Mae Busnes Cymdeithasol Cymru yn adnodd defnyddiol, gyda gwybodaeth, templedi a chynghorwyr busnes, ar gyfer unrhyw un sydd eisiau dechrau neu weithredu fel busnes cymdeithasol sy’n darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol

CYSYLLTU

I gael rhagor o wybodaeth am waith y trydydd sector yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, cysylltwch ag iechydagofal@wcva.cymru.