Mae tair Deddf o bwysigrwydd arbennig sy’n effeithio ar sefydliadau gwirfoddol yng Nghymru. Canfyddwch sut maent yn effeithio ar eich sefydliad chi.

Rôl Llywodraeth Cymru

Rôl Llywodraeth Cymru yw llywodraethu Cymru a drafftio deddfwriaeth a rheoliadau sy’n ymwneud â’r cymwyseddau datganoledig. Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn cadw trosolwg ar amrywiaeth o feysydd portffolio gwahanol, gan gynnwys iechyd, addysg a’r economi. O ran y sector gwirfoddol, mae Cynllun y Trydydd Sector yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru a’r trydydd sector yn cydweithio.

Canfyddwch fwy ynghylch rôl y Llywodraeth. 

Rôl y Senedd

Rôl y Senedd a’i aelodau yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif; trafod deddfwriaeth yr hoffai Llywodraeth Cymru ei phasio a phleidleisio er mwyn ei gwneud yn gyfraith; cynrychioli Cymru a chymeradwyo trethi Cymreig. Mae 40 o MSs. Llafur sydd â’r nifer fwyaf o Aelodau ac felly hi yw’r blaid sy’n llywodraethu.

Mae nifer o bwyllgorau’n cwrdd yn rheolaidd i graffu ar weithgaredd Llywodraeth Cymru mewn meysydd polisi penodol. Mae aelodau’r pwyllgorau’n dod o bob un o’r pleidiau gwleidyddol gwahanol sy’n llunio’r Cynulliad. Mae’r pwyllgorau yn cynnwys y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

Canfyddwch fwy am y pwyllgorau.

Cymwyseddau datganoledig 

Gwnaeth Deddf Llywodraeth Cymru 1998, yn ogystal â Deddfau Cymru yn 2014, ddatganoli nifer benodol o bwerau oddi wrth Lywodraeth y DU i’r Cynulliad Cenedlaethol. Diwygiodd Deddf Cymru 2017 hyn, felly yn hytrach na chael rhestr hir o gymwyseddau datganoledig, bellach gall Cymru wneud ei chyfreithiau ei hunan ynghylch unrhyw fater nad yw wedi’i gadw yn ôl gan Senedd y DU.

Ni all y Senedd basio neu ddiwygio deddfwriaeth bresennol ynghylch materion tramor, amddiffyn, plismona, llesiant, cyfiawnder na’r cyfryngau, er enghraifft. Dim ond Senedd y DU all weithredu’r pwerau hyn ac fe’u gelwir yn ‘faterion a gedwir yn ôl’.

Gall y Senedd basio deddfwriaeth ynghylch iechyd a gofal cymdeithasol (gan gynnwys GIG Cymru), trafnidiaeth, addysg, llywodraeth leol a’r amgylchedd, ymysg materion eraill. Yn ddiweddar, rhoddwyd pwerau codi treth iddo.

Darllenwch fwy am y materion a gedwir yn ôl.