Mae CGGC yn hwyluso ymgysylltiad o dan y cynllun hwn trwy gyfarfodydd bob dwy flynedd gyda phob Gweinidog, ynghyd â chyfarfodydd Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector.
Ar y dudalen hon fe welwch wybodaeth am y Cynllun Trydydd Sector a Chyngor Partneriaeth y Trydydd Sector a Chyfarfodydd Gweinidogol, rhai o’n mecanweithiau i’r sector gael mynediad i lywodraeth.
I gael gwybodaeth am ymgynghoriadau cyfredol gan y Senedd, Llywodraeth Cymru ac eraill, ac archif o ymatebion CGGC i ymgynghoriadau, ewch i’n tudalen ymgynghoriadau.
CYNLLUN Y TRYDYDD SECTOR
Mae Cynllun y Trydydd Sector yn ddarn statudol o ddeddfwriaeth sy’n nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru a’r sector gwirfoddol yn cydweithio ac yn cyfathrebu â’i gilydd.
Mae’n cynnig llwybrau ffurfiol i’r sector siarad â’r Llywodraeth a chodi pryderon ynghylch ein haelodau a defnyddwyr ein gwasanaethau. Mae’r rhain yn cynnwys cyfarfodydd bob chwe mis gyda Chyngor Partneriaeth y Trydydd Sector, yn ogystal â chyfarfodydd pob chwe mis rhwng rhwydweithiau’r sector a Gweinidogion Llywodraeth Cymru. Mae’r cyfarfodydd hyn ymysg y dulliau allweddol y mae’r sector yn eu defnyddio i ddylanwadu ar Lywodraeth Cymru.
CYNGOR PARTNERIAETH Y TRYDYDD SECTOR
Mae Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector yn ddull allweddol y gall sefydliadau gwirfoddol ei ddefnyddio i siarad â Llywodraeth Cymru a chlywed ganddi.
Jane Hutt AS yw cadeirydd y cyngor ac mae’n cynnwys cynrychiolwyr o rwydweithiau’r sector gwirfoddol sy’n gweithio ar draws 25 o feysydd gweithgaredd y sector, ynghyd â Lindsay Cordery-Bruce, Prif Weithredwr CGGC.
Prif ddiben y Cyngor yw sicrhau bod yr egwyddorion a nodwyd yng Nghynllun y Trydydd Sector yn cael eu rhoi ar waith. Mae hefyd yn rhoi cyfle i’r sector godi materion sydd o ddiddordeb neu sy’n peri pryder.
Mae etholiadau’r cyngor yn cael eu cynnal bob pum blynedd. Mae’r aelodau presennol a’r rhwydweithiau y maent yn eu cynrychioli fel a ganlyn:
| Enw | Maes diddordeb | Rhwydwaith |
| Kathryn Robson | Addysg a Hyfforddiant | Addysg Oedolion Cymru |
| Rhian Davies | Anabledd | Grŵp Cyfeirio Anabledd Cymru |
| Sheila Hendrickson Brown | Canolwyr Lleol a Rhanbarthol | Cynghorau Gwirfoddol Sirol Cymru |
| Andrea Cleaver | Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid | Cyngor Ffoaduriaid Cymru |
| Gareth Coles | Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth | Bywydau Creadigol |
| Matthew Williams | Chwaraeon a Hamdden | Cymdeithas Chwaraeon Cymru |
| Iestyn Davies | Crefydd | Cyngor Rhyng-ffydd Cymru |
| Bernie Bowen Thomson | Cyfiawnder Cymunedol | Cyfiawnder Cymunedol Cymru |
| Owen Derbyshire | Cyflogaeth | Cadwch Gymru’n Daclus |
| Chris Johnes | Cymunedau | Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau |
| Helene Hayes | Cyngor ac Eiriolaeth | Fforwm y Darparwyr Cyngor Annibynnol |
| Richard Flowerdew | Gwirfoddoli | Rhwydwaith Gwirfoddoli Cymru |
| Kate Young | Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Llesiant | Grŵp Cynllunio Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Llesiant |
| Paul Glaze | Ieuenctid | Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol |
| Kofo Oladunjoye a Priscilla Addey-Blankson | Lleiafrifoedd Ethnig | Race Council Cymru |
| Selima Bahadur | Lleiafrifoedd Ethnig | Tim Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig a Ieuenctid Cymru |
| David Bowles | Lles Anifeiliaid | Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru |
| Bethan Webber | Menter Gymdeithasol | Y Rhwydwaith Menter Gymdeithasol |
| Hugh Russell | Plant a Theuluoedd | Plant yng Nghymru |
| Victoria Lloyd | Pobl Hŷn | Cynghrair Henoed Cymru |
| Lindsay Coredery-Bruce | Prif Weithredwr CGGC | Cynrychiolydd CGGC |
| Hayley Morgan | Rhyngwladol | Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru |
| Anna Brown | Rhywedd | Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru |
| – Gwag – | Rhywioldeb | |
| Ruth Power | Tai | Cartrefi i Gymru Gyfan |
| Lowri Jones | Y Gymraeg | Mentrau Iaith Cymru |
| Karen Whitfield | Yr Amgylchedd | Cyswllt Amgylchedd Cymru |
Gweler cofnodion cyfarfodydd diweddar TSPC yma.
CYFARFODYDD Â’R GWEINIDOGION
Fel rhan o Gynllun y Trydydd Sector, mae pob Gweinidog yn Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gwrdd â chynrychiolwyr o rwydweithiau perthnasol sefydliadau gwirfoddol sy’n cwmpasu eu meysydd cyfrifoldeb o leiaf ddwywaith mewn un flwyddyn galendr. Mae CGGC yn gyfrifol am drefnu o leiaf dau gyfarfod cynllunio ar gyfer y rhwydwaith er mwyn paratoi ar gyfer pob cyfarfod, a hefyd mae’n sicrhau bod y materion a godir gan y sector gwirfoddol yn berthnasol yn gyffredinol i’r holl sector er mwyn sicrhau bod y cyfarfodydd mor effeithiol â phosibl.
PORTFFOLIOS Y GWEINIDOGION AC ARWEINWYR CGGC
| Portffolios | Gweinidogion y Cabinet |
| Prif Weinidog | Rhun ap Iorwerth AS |
| Dirprwy Brif Weinidog, Cyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb | Sioned Williams AS |
| Cyllid | Elin Jones AS |
| Trefnydd, Prif Chwip a Diwylliant a Chwaraeon | Heledd Fychan AS |
| Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad | Dafydd Trystan Davies AS |
| Iechyd a Gofal | Mabon ap Gwynfor AS |
| Menter, Cysylltedd ac Ynni | Adam Price AS |
| Addysg a’r Gymraeg | Anna Brychan AS |
| Gwydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd | Llyr Gruffydd AS |
| Llywodraeth Leol, Tai a Chynllunio | Siân Gwenllian AS |
| Dirprwy Weinidogion | |
| Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol | Nerys Evans AS |
| Gofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod | Delyth Jewell AS |
| Trafnidiaeth | Mark Hooper AS |
| Sgiliau ac Addysg Drydyddol | Cefin Campbell AS |
| Arall | |
| Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol | Derek Walker |
Cysylltwch â policy@wcva.cymru i gael mwy o wybodaeth.
PAPURAU O’R CYFARFODYDD Â’R CABINET BLAENOROL
Mae copïau o’r papurau o’r cyfarfodydd â’r Cabinet blaenorol ar gael ar gais. Cysylltwch â policy@wcva.cymru e-bost neu ffoniwch 0300 111 0124.
Y GYNGHRAIR CYDRADDOLDEBAU A HAWLIAU DYNOL
Mae’r Gynghrair Cydraddoldebau a Hawliau Dynol yn rhwydwaith sy’n galluogi sefydliadau sy’n gweithio yn y maes cydraddoldebau a hawliau dynol i ymgysylltu â’i gilydd, i rannu gwybodaeth ac arferion da ac i ddylanwadu ar bolisi sy’n effeithio ar brofiadau pobl sy’n wynebu ymdriniaeth anghyfartal a gwahaniaethol yng Nghymru.
Mae CGGC yn hwyluso’r rhwydwaith hon. Cysylltwch â Livia Pietromarchi am ragor o wybodaeth yn policy@wcva.cymru neu ar 0300 111 0124.