Mae CGGC yn hwyluso ymgysylltiad o dan y cynllun hwn trwy gyfarfodydd bob dwy flynedd gyda phob Gweinidog, ynghyd â chyfarfodydd Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector.
Ar y dudalen hon fe welwch wybodaeth am y Cynllun Trydydd Sector a Chyngor Partneriaeth y Trydydd Sector a Chyfarfodydd Gweinidogol, rhai o’n mecanweithiau i’r sector gael mynediad i lywodraeth.
Fe welwch hefyd bapurau, agendâu a chofnodion Cyfarfodydd Gweinidogol isod. I gael gwybodaeth am ymgynghoriadau cyfredol gan y Senedd, Llywodraeth Cymru ac eraill, ac archif o ymatebion CGGC i ymgynghoriadau, ewch i’n tudalen ymgynghoriadau.
CYNLLUN Y TRYDYDD SECTOR
Mae Cynllun y Trydydd Sector yn ddarn statudol o ddeddfwriaeth sy’n nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru a’r sector gwirfoddol yn cydweithio ac yn cyfathrebu â’i gilydd.
Mae’n cynnig llwybrau ffurfiol i’r sector siarad â’r Llywodraeth a chodi pryderon ynghylch ein haelodau a defnyddwyr ein gwasanaethau. Mae’r rhain yn cynnwys cyfarfodydd bob chwe mis gyda Chyngor Partneriaeth y Trydydd Sector, yn ogystal â chyfarfodydd pob chwe mis rhwng rhwydweithiau’r sector a Gweinidogion Llywodraeth Cymru. Mae’r cyfarfodydd hyn ymysg y dulliau allweddol y mae’r sector yn eu defnyddio i ddylanwadu ar Lywodraeth Cymru.
CYNGOR PARTNERIAETH Y TRYDYDD SECTOR
Mae Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector yn ddull allweddol y gall sefydliadau gwirfoddol ei ddefnyddio i siarad â Llywodraeth Cymru a chlywed ganddi.
Jane Hutt AC yw cadeirydd y cyngor ac mae’n cynnwys cynrychiolwyr o rwydweithiau’r sector gwirfoddol sy’n gweithio ar draws 25 o feysydd gweithgaredd y sector, ynghyd â Ruth Marks, Prif Weithredwr CGGC.
Prif ddiben y Cyngor yw sicrhau bod yr egwyddorion a nodwyd yng Nghynllun y Trydydd Sector yn cael eu rhoi ar waith. Mae hefyd yn rhoi cyfle i’r sector godi materion sydd o ddiddordeb neu sy’n peri pryder.
Mae etholiadau’r cyngor yn cael eu cynnal bob pum blynedd. Mae’r aelodau presennol a’r rhwydweithiau y maent yn eu cynrychioli fel a ganlyn:
Enw | Maes diddordeb | Rhwydwaith |
Helene Hayes | Cyngor ac Eiriolaeth | Fforwm y Darparwyr Cyngor Annibynnol |
David Bowles | Lles Anifeiliaid | Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru |
Gareth Coles | Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth | Celfyddydau Gwirfoddol Cymru |
Andrea Cleaver | Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid | Cyngor Ffoaduriaid Cymru |
Owen Evans | Plant a Theuluoedd | Plant yng Nghymru |
Chris Johnes | Cymunedau | Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau |
Bernie Bowen Thomson | Cyfiawnder Cymunedol | Cyfiawnder Cymunedol Cymru |
Rhian Davies | Anabledd | Grŵp Cyfeirio Anabledd Cymru |
Cath Hicks | Addysg a Hyfforddiant | Addysg Oedolion Cymru |
Clair Brick | Cyflogaeth | Siawns Teg |
Karen Whitfield | Yr Amgylchedd | Cyswllt Amgylchedd Cymru |
Uzo Iwobi | Lleiafrifoedd Ethnig | Y Gynghrair BAME |
Rocio Cifuentes | Lleiafrifoedd Ethnig | Y Gynghrair BAME |
Catherine Fookes | Rhywedd | Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru |
Kate Young | Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Llesiant | Grŵp Cynllunio Iechyd, Gofal Cymdeithasol, Llesiant a Chwaraeon |
Ruth Power | Tai | Cartrefi i Gymru Gyfan |
Carl Cooper | Canolwyr Lleol a Rhanbarthol | Cynghorau Gwirfoddol Sirol Cymru |
Susie Ventris Field | Rhyngwladol | Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru |
Victoria Lloyd | Pobl Hŷn | Cynghrair Henoed Cymru |
Gethin Rhys | Crefydd | Cyngor Rhyng-ffydd Cymru |
Iestyn Wyn | Rhywioldeb | Stonewall Cymru |
Derek Walker | Menter Gymdeithasol | Y Rhwydwaith Menter Gymdeithasol |
Matthew Williams | Chwaraeon a Hamdden | Cymdeithas Chwaraeon Cymru |
Sandy Clubb | Gwirfoddoli | Rhwydwaith Gwirfoddoli Cymru |
Elin Maher | Y Gymraeg | Mentrau Iaith Cymru |
Paul Glaze | Ieuenctid | Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol |
Ruth Marks | Prif Weithredwr CGGC | Cynrychiolydd CGGC |
Gweler cofnodion cyfarfodydd diweddar TSPC yma.
COFNODION O IS-GRŴP ADFER Y TSPC AR COVID-19
Cofnodion o Is-grŵp Adfer y TSPC ar Covid – 18 Medi 2020
Cofnodion o Is-grŵp Adfer y TSPC ar Covid – 12 Hydref 2020
Cofnodion o Is-grwp Adfer y TSPC ar Covid – 05 Tachwedd 2020
Cofnodion o Is-grwp Adfer y TSPC ar Covod-01 Rhagfyr 2020
CYFARFODYDD Â’R GWEINIDOGION
Fel rhan o Gynllun y Trydydd Sector, mae pob Gweinidog yn Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gwrdd â chynrychiolwyr o rwydweithiau perthnasol sefydliadau gwirfoddol sy’n cwmpasu eu meysydd cyfrifoldeb o leiaf ddwywaith mewn un flwyddyn galendr. Mae CGGC yn gyfrifol am drefnu o leiaf dau gyfarfod cynllunio ar gyfer y rhwydwaith er mwyn paratoi ar gyfer pob cyfarfod, a hefyd mae’n sicrhau bod y materion a godir gan y sector gwirfoddol yn berthnasol yn gyffredinol i’r holl sector er mwyn sicrhau bod y cyfarfodydd mor effeithiol â phosibl.
PORTFFOLIOS Y GWEINIDOGION AC ARWEINWYR CGGC
Portffolio | Gweinidog |
Cyllid | Rebecca Evans |
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Vaughan Gething |
Yr Amgylchedd | Lesley Griffiths |
Tai a Llywodraeth Leol | Julie James |
Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg | Eluned Morgan |
Addysg | Kirsty Williams |
Yr Economi a Thrafnidiaeth | Ken Skates |
Cysylltwch â policy@wcva.cymru i gael mwy o wybodaeth.
PAPURAU, AGENDÂU A CHOFNODION Y CYFARFODYDD Â’R GWEINIDOGION
PAPURAU O’R CYFARFODYDD Â’R CABINET BLAENOROL
Mae copïau o’r papurau o’r cyfarfodydd â’r Cabinet blaenorol ar gael ar gais. Cysylltwch â Fiona Harris drwy anfon e-bost at fharris@wcva.cymru neu ffoniwch 0300 111 0124.
Y GYNGHRAIR CYDRADDOLDEBAU A HAWLIAU DYNOL
Mae’r Gynghrair Cydraddoldebau a Hawliau Dynol yn rhwydwaith sy’n galluogi sefydliadau sy’n gweithio yn y maes cydraddoldebau a hawliau dynol i ymgysylltu â’i gilydd, i rannu gwybodaeth ac arferion da ac i ddylanwadu ar bolisi sy’n effeithio ar brofiadau pobl sy’n wynebu ymdriniaeth anghyfartal a gwahaniaethol yng Nghymru.
Mae CGGC yn hwyluso’r rhwydwaith hon. Cysylltwch â Janine Downing am ragor o wybodaeth yn jdowning@wcva.cymru neu ar 0300 111 0124.