Rydyn ni wrthi’n gweithio’n weithredol er mwyn sicrhau bod y sector gwirfoddol yng Nghymru yn barod ar gyfer yr heriau y mae hyn eisoes wedi’u cyflwyno ac yn mynd i’w cyflwyno. Mae’r dudalen hon yn tynnu sylw at ystod o adnoddau sydd ar gael i’r sector er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r heriau hyn.
Lles Cymru yn y dyfodol: edrych y tu hwnt i Brexit
Mae ein cyfres o bapurau gwyntyllu ar dair thema – Ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd; Economi Newydd a Trawsnewid Iechyd a Gofal Cymdeithasol – yn edrych ar gyfleoedd i’r sector greu newid cadarnhaol wrth i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd a phwy all wneud beth er mwyn gwneud i’r newid cadarnhaol hwnnw ddigwydd. Ceir podlediad i gyd-fynd â phob papur gwyntyllu er mwyn amlygu a thrafod y prif ganfyddiadau ym mhob un.
Ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd – papur gwyntyllu | podlediad
Economi Newydd – papur gwyntyllu | podlediad
Trawsnewid Iechyd a Gofal Cymdeithasol – papur gwyntyllu | podlediad
Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Brexit
Mae Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Brexit yn brosiect ar y cyd rhwng Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd a CGGC a gyllidir gan y Sefydliad Addysg Gyfreithiol.
Ei nod yw gwella gallu mudiadau’r trydydd sector i ddeall proses Brexit ac ymgysylltu â’r broses trwy wneud.
Grymuso Cymunedau yng Nghyd-destun Brexit
Gwaith ymchwil wedi’i gyhoeddi gan CGGC ar sut gallai Brexit effeithio ar gymunedau yng Nghymru, sut gall y sector wirfoddol baratoi, a sut gall gwneuthurwyr polisi gefnogi’r sector. Darllenwch yr adroddiad yma.