Mae’r sector gwirfoddol yng Nghymru wedi bod wrth galon yr ymateb i argyfwng y Coronafeirws, gan ddod at ei gilydd i ddarparu gwasanaethau’n effeithlon ac yn hyblyg.  Mae CGGC wedi gweithio gyda mudiadau gwirfoddol, y llywodraeth a chyrff eraill i edrych ar effaith yr argyfwng ar y sector a chynhyrchu deunyddiau sy’n edrych ar sut y gallwn gydweithio yn ystod y cyfnod digyffelyb hwn a thu hwnt iddo a chreu dyfodol cadarnhaol i bobl a chymunedau ledled y wlad.

Byddwn yn defnyddio’r deunydd hwn yn ein gwaith dylanwadu gyda’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau i ddangos ymateb y sector i’r argyfwng a sut gallwn i gyd gydweithio i greu’r dyfodol cryfach hwn.

Dysgu cychwynnol

Pan ddechreuodd yr argyfwng gyntaf, dechreusom ymgysylltu â’r sector ar unwaith i ganfod sut yr oedd yn effeithio arno. Dyma ein dysgu cychwynnol o argyfwng Covid-19 o ran y sector gwirfoddol  – papur briffio a blog.

Dysgwch beth sydd wedi cael ei drafod rhwng mudiadau’r sector gwirfoddol a Llywodraeth Cymru ar ein tudalennau Mynediad at y Llywodraeth.

Paratoi ar gyfer dyfodol gwahanol

Fe wnaethon ni gynnal cyfres o ddigwyddiadau digidol #DyfodolGwahanolCymru yn edrych ar ba effaith a gaiff yr argyfwng ar ddyfodol yr economi, newid yn yr hinsawdd, gwirfoddoli a mwy. Mae’r rhain i gyd ar gael ar ein sianel YouTube. Ysgrifennodd Jess Blair, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Diwygio Etholiadol, flog ar ôl pob digwyddiad yn tynnu sylw at y prif bwyntiau trafod, a darparodd Richard Newton Consulting gyfres o adroddiadau manwl. I gael rhagor o wybodaeth ac i barhau â’r drafodaeth, chwiliwch Twitter gyda’r hashnod #DyfodolGwahanolCymru.

Gallwch hefyd ddarllen ein hadroddiad sy’n crynhoi pob un o’r chwe sesiwn a tharo golwg ar ganfyddiadau yr arolwg.

Dyfodol Gwell Cymru

Mae CGGC am gefnogi’r sector nid yn unig i ymateb i’r argyfwng presennol, ond hefyd i wneud hynny mewn ffordd a fydd yn cefnogi dyfodol gwell i unigolion a chymunedau ledled y wlad yn y tymor hir.

Gallwch ddod o hyd i amrywiaeth o ddeunyddiau sy’n edrych ar sut y gallai’r sector addasu a chreu newid cadarnhaol gan fod y DU bellach wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys podlediadau a phapurau gwyntyllu am ddyfodol yr economi, newid yn yr hinsawdd ac iechyd a gofal cymdeithasol.

Yn ystod yr argyfwng, rydyn ni wedi gwneud llawer o waith ymgysylltu â’r sector i gasglu tystiolaeth a dysgu am effaith Covid-19. Fel rhan o hyn, rydym wedi cynhyrchu cyfres o flogiau sy’n edrych ar anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru, rôl arweinyddiaeth o ran creu dyfodol gwell i Gymru, a’r hyn y mae pobl ifanc yn ei feddwl yw’r materion pwysicaf sy’n wynebu’r wlad.

Gan adeiladu ar y gwaith hwn, rydym yn awyddus i glywed eich barn am bwy ddylai wneud beth i helpu i lunio dyfodol gwell. Os oes gennych chi syniad ar gyfer blog, anfonwch e-bost atom ar policy@wcva.cymru a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.