Ydy’r pandemig wedi cynyddu eich llwyth gwaith? Oes angen pâr arall o ddwylo arnoch chi? Gall mudiadau gwirfoddol yng Nghymru elwa o leoliadau gwaith sy’n para am 6 mis a thelir y costau llawn gan gynllun Kickstart, ond mae amser yn rhedeg allan i wneud cais.
Rydyn ni’n helpu mudiadau gwirfoddol i gael mynediad at gynllun Kickstart yr Adran Gwaith a Phensiynau sy’n werth £2 biliwn sy’n creu cannoedd o filoedd o leoliadau gwaith o safon uchel sy’n para am 6 mis ar gyfer pobl ifanc ar draws y Deyrnas Unedig.
Mae mudiadau gwirfoddol yng Nghymru eisoes yn cynyddu eu capasiti wrth gefnogi datblygiad person ifanc. Trwy gyrchu cynllun Kickstart gallech chi elwa o leoliadau gwaith â thâl llawn heb lawer iawn o waith gweinyddol a chynigir cyllideb datblygiad personol hael.
Yr hyn y gall cynllun Kickstart ei gynnig
Gall cyflogwyr ddefnyddio cynllun Kickstart i greu lleoliadau gwaith newydd sy’n para am 6 mis ar gyfer pobl ifanc (16 i 24 oed) sy’n derbyn Credyd Cynhwysol ar hyn o bryd ac sydd mewn perygl o fod yn ddi-waith am gyfnod hir.
Trwy’r cynllun, bydd modd i chi gael mynediad at gronfa fawr o bobl ifanc â photensial sy’n barod am gyfle a chânt eu cefnogi gan hyfforddwr gwaith Canolfan Byd Gwaith i gofrestru ar y cynllun.
Ar gyfer pob lleoliad gwaith bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau’n talu:
- 100% o’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol perthnasol am 25 awr yr wythnos
- Cyfraniadau Yswiriant Gwladol cysylltiedig y cyflogwr
- Cyfraniadau cofrestru awtomatig cyflogwyr
Bydd cyflogwyr hefyd yn derbyn £1,500 ar gyfer pob lleoliad gwaith i gydnabod eu buddsoddiad o ran datblygu’r cyflogai cynllun Kickstart, er enghraifft, i dalu am gostau hyfforddiant a chostau datblygu eraill.
Pa gymorth sydd ar gael?
Rydyn ni wedi’i gofrestru fel corff porth ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru. Yn ystod y rownd gyntaf o geisiadau, cefnogodd 25 o fudiadau i ddiogelu lleoliadau gwaith cynllun Kickstart a gallai ein perthynas â’r Adran Gwaith a Phensiynau a’r broses cymeradwyo gychwynnol helpu i gynyddu eich siawns o lwyddo. Rydyn ni’n cyflwyno ceisiadau i’r Adran Gwaith a Phensiynau fesul llwythi ar eich rhan chi felly dylai’r broses o gymeradwyo eich cais fod yn gyflymach na chyflwyno cais yn uniongyrchol.
Mae hyn yn ddefnyddiol iawn oherwydd y dyddiad hwyraf ar gyfer dechrau lleoliadau gwaith yw 12fed Rhagfyr 2021 – sy’n golygu bod amser yn brin i grwpiau gyflwyno ceisiadau am fod angen cyflwyno ceisiadau erbyn diwedd mis Medi.
Yng Nghymru, mae mudiadau gwirfoddol yn dangos i bobl ifanc sut y gall swyddi fod o fudd iddyn nhw trwy ddarparu lleoliadau gwaith o safon uchel trwy gynllun Kickstart. Os hoffech chi wneud yr un peth, cysylltwch â’r tîm yn kickstart@wcva.cymru neu ar 0300 111 0124. Hefyd, mae rhagor o fanylion ar gael ar ein wefan.