dwy fenyw yn siarad am opsiynau yn y swyddfa

Dyddiad cau wedi ymestyn ar gyfer y Gronfa Benthyciadau Gwydnwch ac Adferiad

Cyhoeddwyd : 08/01/20 | Categorïau: Cyllid |

DIWEDDARIAD: Mae dyddiad cau’r Gronfa Benthyciadau Gwydnwch ac Adferiad (RRLF) wedi’i ymestyn i 31 Mawrth 2021.

Mae’r RRLF yn gronfa brys o £25 miliwn ar gyfer mentrau cymdeithasol ac elusennau sy’n gwella bywydau pobl ledled y DU. Mae’r gronfa ar gyfer y rheini sy’n wynebu tarfiad i’w model busnes arferol o ganlyniad i COVID-19. Cafodd ei sefydlu er mwyn gwneud cynllun llywodraeth a oedd eisoes yn bodoli, y Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil y Coronafeirws (CBILS), yn fwy hygyrch i elusennau a mentrau cymdeithasol.

Mae’r RRLF yn cael ei gynnal gan ‘Social Investment Business’ (SIB) gyda chefnogaeth a buddsoddiad cychwynnol o £25 miliwn gan ‘Big Society Capital’. Mae £4miliwn mewn grantiau gan ‘Access – The Foundation for Social Investment’ – hefyd ar gael ochr yn ochr â benthyciadau ar gyfer mudiadau yn Lloegr. SIB yw’r benthyciwr ac mae’n gweithio gyda phartneriaid buddsoddi cymdeithasol profiadol i gyflwyno’r gronfa: ‘Big Issue Invest’, ‘CAF Venturesome’, ‘Charity Bank’, ‘Resonance’, ‘Social Investment Scotland’, ‘Social and Sustainable Capital’ a CGGC.

Dywedodd Alun Jones, Pennaeth Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru yn CGGC: 

‘Rydyn ni’n gwybod nad yw’r cyllid hwn i bawb, ond bydd yn ddefnyddiol iawn yn yr amgylchiadau cywir, yn enwedig gan ystyried y problemau y mae’r sector gwirfoddol wedi’i wynebu wrth geisio cael mynediad at gynlluniau benthyca eraill. Byddem ni’n annog pawb yng Nghymru i gysylltu am drafodaeth ar sut y gallai weithio iddyn nhw.’

Hyd yma, mae’r RRLF wedi cymeradwyo bron £10 miliwn o gyllid i 25 o elusennau a mentrau cymdeithasol, gan gynnwys £0.5 miliwn o grantiau. Mae’r mudiadau sydd wedi cael cyllid wedi’u cymeradwyo iddynt yn cynnwys y ‘Big Issue’, ‘Action on Hearing Loss’ a’r Gymdeithas Frenhinol ar gyfer Plant Dall. Mae’r Gronfa’n gweithio’n galed hefyd i sicrhau bod yr arian yn cyrraedd y mannau mewn angen yn gyflym, ac yn dosbarthu’r cyllid yn gyflym.

Nod y Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil y Coronafeirws, a ddarperir drwy 60+ o fenthycwyr sydd wedi’u hachredu gan y ‘British Business Bank’, yw cefnogi’r ddarpariaeth barhaus o gyllid i fusnesau llai o faint (SMEs) y DU yn ystod y brigiad o achosion COVID-19.

Dywedodd Nick Temple, Prif Weithredwr SIB:

‘Ers lansio’r Gronfa Benthyciadau Gwydnwch ac Adferiad, rydyn ni wedi bod yn falch iawn o’r amrediad eang o elusennau a mentrau cymdeithasol rydyn ni wedi gallu eu cynorthwyo gyda buddsoddiad. Nid benthyciadau yw’r dewis cywir i bob mudiad, ond rydyn ni’n annog unrhyw un sy’n meddwl y gallent fod yn addas i’w hanghenion i gysylltu â’r tîm a gwneud cais cyn y dyddiad cau, fel nad ydynt yn colli’r cynnig cyfredol hwn.’

SUT I WNEUD CAIS

I gael gwybod mwy am yr RRLF, sut i wneud cais a’r meini prawf ar gyfer y gymysgedd grantiau, ewch i dudalen y Gronfa. Gall mudiadau yng Nghymru gysylltu â thîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru CGGC drwy anfon e-bost at sic@wcva.cymru i siarad am sut allai’r Gronfa weithio i chi.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 23/08/24 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Yr ymgyrch ‘ewyllysgaredd’ sy’n ennill tir

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 11/07/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Mae’r Bwrsari i arweinwyr yng Nghymru yn ôl

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 25/05/24 | Categorïau: Cyllid |

Cryfhau’r bartneriaeth rhwng Cymru ac Affrica

Darllen mwy